Ni yw’r rheoleiddiwr ar gyfer osteopathiaid yn y DU. Yn ôl y gyfraith, rhaid i osteopathiaid gofrestru gyda’r GOsC er mwyn ymarfer yn y DU.
Rydym yn gweithio gydag osteopathiaid, cleifion a sefydliadau partner i gefnogi gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion. Rydym hefyd yn gweithio i gynnal hyder y cyhoedd mewn osteopatheg trwy amddiffyn enw da’r proffesiwn osteopathig.
Rydym yn gwneud hyn trwy ddiweddaru ein Cofrestr gyhoeddus o osteopathiaid, a thrwy hyrwyddo safonau ymarfer ac ymddygiad uchel, gosod safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant osteopathig, ymchwilio i bryderon ynghylch osteopathiaid, a diogelu’r teitl osteopathig rhag cael ei gamddefnyddio.