Ein perfformiad a’n hatebolrwydd

Ein nod yw darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon bob amser. Mae ein perfformiad fel rheoleiddiwr yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydym ni bob amser yn croesawu adborth gan osteopathiaid, cleifion, partneriaid, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd.

Safonau ar gyfer rheoleiddio

Bob blwyddyn, mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn gwirio perfformiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a rheoleiddwyr eraill i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rôl statudol o ddiogelu’r cyhoedd. Mae’r adroddiad yn darparu adborth ar yr hyn y mae pob rheoleiddiwr yn ei wneud yn dda a sut gallwn wella yn y dyfodol.

Adborth a chwynion am y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

Rydym ni’n croesawu adborth ar ein gwaith fel rheoleiddiwr, yn enwedig os ydych chi wedi profi gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu da gan aelodau o’n staff.

Mewn achosion lle mae rhywbeth wedi mynd o’i le neu le mae gennych gŵyn am ein gwasanaeth, rydym ni wedi ymrwymo i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon a cheisio gwneud gwelliannau lle gallwn ni. I wneud hyn, byddwn yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd, beth allai fod wedi mynd o’i le, sut gallwn ddysgu o hyn a sut byddwn ni’n delio â sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

Proses gwyno ffurfiol

Os oes gennych bryder am y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, rydym ni’n eich annog i leisio’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda’r aelod unigol o staff y buoch yn delio ag ef, neu reolwr yr unigolyn dan sylw, i ddatrys y mater cyn gynted â phosibl. Ar ôl gwneud hyn neu os nad yw hyn yn briodol, gallwch ddefnyddio ein proses gwyno ffurfiol a nodir isod.

Pryd i wneud cwyn ffurfiol

Gallwch wneud cwyn ffurfiol am wasanaeth rydym ni’n ei ddarparu, megis pa mor hir rydym ni’n ei gymryd i ymateb i ohebiaeth neu sut rydych chi’n cael eich trin pan fyddwch chi’n ffonio’r Cyngor. Nid yw’r broses hon wedi’i bwriadu i ymdrin â chwynion am benderfyniad sydd wedi’i wneud yn seiliedig ar ein polisïau neu ganllawiau, ac ni fydd y math hwn o benderfyniad yn cael ei wrthdroi oni bai bod ymchwiliad i gŵyn yn dangos bod y canllawiau neu’r polisi wedi’u cymhwyso’n anghywir.

Sut i gwyno

Gallwch wneud cwyn drwy e-bost neu ein ffurflen ar-lein, neu dros y ffôn. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt a nodi eich hoff ddull o gyfathrebu, boed dros y ffôn neu drwy e-bost yn corporatecomplaints@osteopathy.org.uk

Er mwyn ein helpu i brosesu eich cwyn yn gyflym, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

Gallwch ddarparu’r wybodaeth hon dros y ffôn, e-bost neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Dylid rhoi gwybod am gwynion cyn gynted â phosibl ac o fewn 12 mis i’r digwyddiad.

Gwneud cwyn am y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cwyn ffurfiol am wasanaeth a ddarparwn, fel faint o amser a gymerwn i ymateb i ohebiaeth, neu sut y cewch eich trin pan fyddwch yn ffonio’r GOsC.

Eich manylion(Required)
Eich cyfeiriad
Eich cyfeiriad e-bost(Required)
Oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig wrth i ni gyfathrebu â chi?

Gwneud y gŵyn ar ran rhywun arall

Os ydych chi’n gwneud cwyn ar ran rhywun arall, darparwch wybodaeth y person gan ddefnyddio’r adran isod.
Rwy’n gwneud y gŵyn hon ar ran(Required)
Eu cyfeiriad
Ydyn nhw’n gwybod eich bod yn gwneud cwyn ar eu rhan?

Manylion y Gŵyn

Ydy hon yn gŵyn wreiddiol neu’n gŵyn yn sgil ymateb nad oeddech chi’n fodlon ag ef? Ticiwch

Cymorth

Os hoffech drafod unrhyw ran o’ch cwyn cyn anfon y ffurflen hon, neu os hoffech gymorth i’w llenwi, anfonwch e-bost at corporatecomplaints@osteopathy.org.uk neu ffoniwch ni ar 020 7357 6655 a gofyn am ein Rheolwr Cofrestru.
Datganiad(Required)
Datganiad ar ran person arall
Os ydych chi’n gwneud y gŵyn hon ar ran person arall, cadarnhewch eu bod wedi dweud wrthych eu bod yn gwybod bod y gŵyn yn cael ei gwneud ar eu rhan, eu bod yn gwybod am y gweithdrefnau a ddilynir, a’u bod yn rhoi eu caniatâd i hyn.

Rhestr wirio

Diolch am gwblhau’r ffurflen hon. Nawr, gofalwch eich bod wedi:

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

Byddwn yn gwneud y canlynol:

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb, gallwch ofyn i’r mater gael ei adolygu gan Gadeirydd y Cyngor. Mae’r Cadeirydd yn berson sy’n cael ei benodi’n annibynnol ac sy’n goruchwylio strwythur llywodraethu’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Ysgrifennwch atom drwy e-bost yn esbonio pam rydych chi’n parhau i fod yn anhapus â’r canlyniad. Gallwch anfon yr e-bost at: corporatecomplaints@osteopathy.org.uk

Ar ôl derbyn y llythyr, bydd y Cadeirydd yn sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol:

Os ydych yn parhau’n anfodlon â’r ymateb gan ein Cadeirydd

Nid oes unrhyw ffyrdd pellach o apelio fel rhan o’r broses hon.