Cysylltu â ni

Os ydych chi’n osteopath, yn fyfyriwr, yn glaf neu’n aelod o’r cyhoedd, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.

Gallwch ofyn cwestiynau i ni am sut rydym ni’n rheoleiddio osteopathi yn y DU, megis helpu osteopathiaid a myfyrwyr i fodloni safonau ymarfer a gofynion cofrestru, a helpu cleifion ac aelodau o’r cyhoedd gydag unrhyw bryderon am osteopathiaid, neu am bobl sy’n galw eu hunain yn osteopath ond heb fod ar ein Cofrestr.

Gallwch gysylltu â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm.

Cysylltwch â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio ein prif switsfwrdd ar 020 7357 6655 a dewis y rhif estyniad perthnasol. Os ydych chi’n clywed neges llais, gadewch eich enw a’ch rhif cyswllt a byddwn yn ceisio dychwelyd eich galwad o fewn un diwrnod gwaith.

Cysylltwch â ni drwy WhatsApp

Gall osteopathiaid, myfyrwyr ac ymgeiswyr gysylltu â ni drwy WhatsApp ar 020 7046 0406 yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am i 5.00pm). Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu gyda’ch ymholiad neu eich cyfeirio at y tîm priodol.

Sylwch nad yw’r gwasanaeth hwn ar gael i aelodau o’r cyhoedd. Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, defnyddiwch un o’r dulliau cysylltu eraill a restrir ar y dudalen hon. 

Cysylltwch â ni drwy e-bost

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost perthnasol ar y dudalen hon. Er mwyn ein helpu i brosesu’ch ymholiad yn effeithlon, dylech gynnwys eich rhif cofrestru neu rif cais lle bo’n berthnasol.

Os ydych eisoes wedi anfon e-bost, peidiwch ag anfon ail ymholiad, gan y gallai hyn beri oedi cyn i ni ymateb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ond gall hyn gymryd hyd at bum diwrnod gwaith.

Ymholiadau cyffredinol: info@osteopathy.org.uk est 242

Ymholiadau cofrestru a DPP: registration@osteopathy.org.uk est 229, est 238, est 231, est 256

Ymholiadau gan y cyfryngau: pressoffice@osteopathy.org.uk est 245, est 242

Lleisio pryder: regulation@osteopathy.org.uk est 224

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth: foirequest@osteopathy.org.uk est 242

Llogi ystafell: resources@osteopathy.org.uk est 253

Mynychu cyfarfod o’r Pwyllgor/Cyngor: governance@osteopathy.org.uk est 279, est 280