Adborth, cwynion a’n disgwyliadau ni

Rydym ni’n ceisio darparu gwasanaeth defnyddiol, parchus, effeithiol ac effeithlon bob amser. Mae ein tudalen gwasanaeth cwsmeriaid yn manylu ar ein hamcanion yn hyn o beth.

Rydym ni eisiau clywed gennych chi, naill ai os ydych chi eisiau canmol eich profiad gyda ni neu os ydych chi’n anfodlon â’r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn. Gallwch anfon eich adborth drwy e-bostio: info@osteopathy.org.uk

Ein gweledigaeth fel sefydliad yw bod yn rheoleiddiwr cynhwysol ac arloesol, sy’n ennyn ymddiriedaeth pawb, gyda’n gwerthoedd yn sail i’r ffordd rydym ni’n gweithio. Rydym ni’n gweithio mewn ffordd gydweithredol a pharchus, ac yn disgwyl i eraill ein trin ninnau gyda pharch hefyd. Darllenwch fwy am ein gwerthoedd a’n strategaeth.

Gofynnwn i chi drin ein staff gyda pharch a chwrteisi. Mae polisi dim goddefgarwch ar waith mewn perthynas â cham-drin ein staff.

Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys rhegi, gweiddi, sylwadau personol sarhaus a sylwadau rhywiaethol, hiliol neu wahaniaethol eraill.

Mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein tudalen gwasanaeth cwsmeriaid.