Ein gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr cynhwysol ac arloesol, y mae pawb yn ymddiried ynddo.

Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd, osteopathiaid a rhanddeiliaid, a sut rydym yn gweithio yn ein sefydliad yn ein timau ac ar eu traws.

Rydym yn cydweithio i fod yn rheoleiddiwr dylanwadol a pharchus gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Cydweithio
Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau bod cleifion ac osteopathiaid wrth galon ein dull rheoleiddio.

Dylanwadol
Rydym yn ceisio cefnogi a datblygu’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw i wella diogelwch y cyhoedd.

Parchus
Rydym yn ceisio clywed, deall ac ystyried barn y bobl rydym yn ymgysylltu â nhw.

Yn seiliedig ar dystiolaeth
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i lywio ein gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion a’r cyhoedd.

Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn sail i’n Strategaeth bresennol, sy’n ein harwain o 2024 tuag at 2030.

Egwyddorion bywyd cyhoeddus

Disgwylir i’n staff, ein Cyngor ac aelodau anweithredol eraill o’r pwyllgor sy’n gweithredu ar ran ein sefydliad gadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus. Y rhain yw: