Beth yw natur eich ymholiad?
Cofrestru
Mae ein tîm Cofrestru yn derbyn nifer fawr o alwadau, ac mae modd datrys llawer o ymholiadau gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan ac Ozone. Mae hyn yn cynnwys:
- Adnewyddu eich cofrestriad
- Adfer eich cofrestriad
- Diweddaru eich manylion cyswllt, gan gynnwys eich cyfeiriad post ac e-bost
- Gofyn am Tystysgrif Statws Proffesiynol Cyfredol
- Sefydlu neu ddiweddaru Debyd Uniongyrchol
- Ymuno â’r Gofrestr
- Gadael y Gofrestr
- Lawrlwytho eich tystysgrif flynyddol
- Ceisiadau rhyngwladol
- Gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Yswiriant indemniad
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth ar-lein, cysylltwch â’n tîm Cofrestru drwy e-bost: registration@osteopathy.org.uk. Maent hefyd yn gallu helpu gydag ymholiadau am ffioedd, DPP ac anawsterau wrth fewngofnodi i Ozone.
Os ydych chi’n fyfyriwr blwyddyn olaf ac yn methu dod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â: student@osteopathy.org.uk 020 7657 6655 est 231
Tramor – Os ydych chi’n gwneud cais i ymuno â’r Gofrestr gyda chymhwyster a enillwyd dramor neu os oes gennych ymholiad am gydnabyddiaeth o dan Gytundeb y Swistir, cysylltwch â registration@osteopathy.org.uk 020 7357 6655 est 238
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif cofrestru neu rif cais wrth gyfathrebu â ni.
Addasrwydd i ymarfer
Os oes gennych gwestiwn am addasrwydd i ymarfer, mae’n bosibl bod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Rydym ni’n darparu arweiniad ar leisio pryder, deall y broses bryderon, mynychu gwrandawiadau, a chefnogaeth i osteopathiaid a thystion sy’n ymwneud ag achos.
- Sut i leisio pryder
- Y broses bryderon
- Manylion gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer
- Mynychu gwrandawiad
- Canllawiau ar gyfer osteopathiaid sy’n mynychu gwrandawiad
- Canllawiau ar gyfer tystion sy’n mynychu gwrandawiad
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â’r tîm rheoleiddio ar regulation@osteopathy.org.uk neu 020 7357 6655 est 224
Astudio osteopathi fel gyrfa
Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn osteopathi, mae gwybodaeth ar gael yma am yr hyfforddiant sydd ei angen i ddod yn osteopath, cyrsiau osteopathi achrededig, a sut i leisio pryderon neu gwynion yn ymwneud ag addysg osteopathig.
- Hyfforddiant
- Cyrsiau hyfforddi achrededig
- Sut i leisio pryder
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau eraill am addysg osteopathig, cysylltwch â: education@osteopathy.org.uk 020 7357 6655 est 230
Polisi a safonau
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol sy’n gosod y safonau y mae’n rhaid i bob osteopath eu bodloni i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Yma, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y safonau proffesiynol a ddisgwylir gan osteopathiaid, yn ogystal â’r canllawiau a’r adnoddau sydd ar gael i’w helpu i ddeall a bodloni’r safonau hynny drwy gydol eu gyrfaoedd.
- Pa safonau y mae’n rhaid i osteopathiaid eu bodloni?
- Pa ganllawiau y mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn eu darparu i osteopathiaid ar sut i fodloni’r safonau hynny?
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â: standards@osteopathy.org.uk 0207 357 6655 est 274
Cyllid
Cysylltwch â’r tîm Cyllid yn resources@osteopathy.org.uk am anfonebau, archebion prynu ac ymholiadau cyflenwyr.
Sylwer, os ydych chi’n osteopath sy’n gofyn am dderbynneb gyffredinol neu dderbynneb dreth ar gyfer ffioedd cofrestru, yna mae angen i chi gysylltu â’r tîm Cofrestru yn registration@osteopathy.org.uk a byddan nhw’n gallu eich helpu.
Os ydych chi’n osteopath ac yn dymuno gwneud taliad, nodwch nad ydym yn gallu derbyn taliadau dros y ffôn. Gellir gwneud taliadau yn ddiogel drwy Ozone.
Recriwtio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, mae’r holl gyfleoedd cyflogaeth cyfredol yn cael eu hysbysebu ar ein tudalen recriwtio. Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Nodwch nad ydym yn derbyn CV fel dull ymgeisio. Gallwch chwilio am swyddi gwag ac ymgeisio am swyddi ar ein gwefan.
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â’r tîm adnoddau dynol yn hr@osteopathy.org.uk
Y Cyngor a’r Prif Weithredwr a’r Cofrestrydd
Os oes gennych ymholiad am y Cyngor neu swyddfa’r Prif Weithredwr a’r Cofrestrydd, gallai’r wybodaeth rydych ei hangen fod ar ein gwefan. Rydym ni’n darparu manylion dyddiadau ac agendâu cyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor, mynediad at bapurau blaenorol y Cyngor a’r Pwyllgor, a chanllawiau ar sut i wneud cwyn gorfforaethol.
- Dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor
- Mynychu cyfarfod y Cyngor/Pwyllgor
- Papurau blaenorol y Cyngor/Pwyllgor
- Sut i wneud cwyn gorfforaethol
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â: governance@osteopathy.org.uk 020 7357 6655 est 279/est 280