Gwasanaethau Cymraeg
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau Cymraeg, rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg yr un fath ag yr ydym yn trin y Saesneg.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg. Lle bo’n bosibl, rydym am hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau fel rheoleiddiwr.
Dysgwch fwy am y safonau yn ein datganiad cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Ein gwasanaethau
Rydym yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg i:
- Godi pryder am osteopath
- Adnewyddu cofrestriad (ar gyfer osteopathiaid)
- Cysylltu â ni drwy e-bost neu yn drwy’r post
- Ymateb i’n hymgynghoriadau
- Cyrchu ein hadnoddau ar gyfer gwneud penderfyniadau gyda chleifion
- Gwneud cais am farciau cofrestru (ar gyfer osteopathiaid)
- Cymryd rhan mewn ymchwiliad addasrwydd i ymarfer
- Hyrwyddo cofrestru (ar gyfer osteopathiaid)
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau a’n swyddogaethau, cysylltwch â ni’n uniongyrchol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth gan siaradwyr Cymraeg drwy e-bost, drwy’r post ac ar WhatsApp. Ar hyn o bryd, nid oes gennym aelod o staff sy’n siarad Cymraeg felly nid ydym yn gallu ateb galwadau ffôn yn Gymraeg.
Adrodd ar ein gwasanaethau Cymraeg
Rydym yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n esbonio sut rydym wedi cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ac sy’n cynnwys gwybodaeth am:
- Nifer y cwynion a gawsom yn ymwneud â’n cydymffurfiaeth â’r safonau.
- Nifer y gweithwyr GOsC sydd â sgiliau Cymraeg.
- Nifer y swyddi newydd a gwag y gwnaethom recriwtio ar eu cyfer lle’r oedd sgiliau Cymraeg naill ai’n hanfodol, yn ddymunol, angen eu dysgu neu ddim yn angenrheidiol.
Sut i godi pryder am ein gwasanaethau Cymraeg
Os nad ydych yn fodlon â’n gwasanaethau Cymraeg na’r ffordd rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, anfonwch eich cwyn atom yn ysgrifenedig drwy’r post neu drwy e-bost, naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Neu anfonwch e-bost atom: governance@osteopathy.org.uk
Er mwyn ein helpu i brosesu’ch cwyn yn gyflym, rhowch y canlynol:
- Disgrifiad clir o’r gŵyn a pha gamau yr hoffech i ni eu cymryd
- Eich cyfeiriad post llawn, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Dylech dynnu ein sylw at gwynion cyn gynted â phosibl ac o fewn 12 mis i’r digwyddiad dan sylw.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni
Byddwn yn:
- Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Trefnu i’r gŵyn gael ei hymchwilio’n llawn.
- Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
- Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.
Os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gadeirydd y Cyngor adolygu’r mater. Mae’r Cadeirydd yn berson a benodir yn annibynnol sy’n goruchwylio strwythur llywodraethu’r GOsC.
Anfonwch e-bost atom yn governance@osteopathy.org.uk, gan nodi pam rydych yn parhau i fod yn anfodlon ar y canlyniad.
Ar ôl derbyn y llythyr, bydd y Cadeirydd yn sicrhau ein bod yn:
- Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Trefnu i’r gŵyn gael ei hymchwilio’n llawn.
- Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
- Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.