Ein hadroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg 2025-26
Ebrill 2025 – Mawrth 2026
Ynglŷn â Safonau’r Gymraeg
Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8). Mae’r union safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw ar gael i’w darllen ar ein gwefan.
Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg fel rydym yn trin y Saesneg, oherwydd rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg i bobl Cymru. Fel rheoleiddiwr bach, rydym yn gwneud ein gorau glas i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg i’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau rheoleiddio. Mae’r adroddiad hwn yn esbonio sut rydym wedi gwneud hyn rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Ynglŷn â’r Cyngor Osetopathig Cyffredinol
Rydym yn rheoleiddio osteopathi yn y DU, gan gynnwys Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n golygu mai dim ond y rheini sydd ar ein Cofrestr all ymarfer osteopathi yn gyfreithlon yn y DU.
Ein rôl yw diogelu’r cyhoedd ac enw da’r proffesiwn osteopathig trwy osod a chynnal safonau ymarfer uchel, cynnal Cofrestr o osteopathiaid sy’n addas i ymarfer, gwirio a sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant osteopathig israddedig, ac ymchwilio i bryderon am osteopathiaid.
Ar 31 Mawrth 2026, mae 164 o osteopathiaid yn byw ac/neu’n ymarfer yng Nghymru, a 139 o fyfyrwyr yn astudio ac/neu’n byw yng Nghymru. Prifysgol Abertawe yw’r unig ddarparwr addysg osteopathig israddedig yng Nghymru ar hyn o bryd.
Rydym yn sefydliad bach gyda llai na 30 aelod o staff ac mae ein swyddfa wedi’i lleoli yn Llundain ar hyn o bryd. Rydym yn cael ein llywodraethu gan ein Cyngor sydd â gofyniad statudol i gynnwys o leiaf un aelod o Gymru (person sydd wedi’i leoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru a allai fod yn aelod lleyg neu’n osteopath) i’n helpu i ystyried a chefnogi anghenion osteopathiaid Cymru, cleifion ac aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau rheoleiddio strategol.
Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg.
Sut rydym wedi cydymffurfio â’r safonau
Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 roedd ein cydymffurfiaeth â’r safonau yn fusnes fel arfer yn bennaf, sy’n golygu ein bod wedi rheoli’r prosesau presennol sydd gennym i ganiatáu i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.
Dim ond nifer fach o osteopathiaid ar ein Cofrestr sy’n byw a/neu’n ymarfer yng Nghymru, felly ein rhagdybiaeth yw bod nifer y cleifion osteopathi sy’n siarad Cymraeg hefyd yn gymharol isel (er nad oes gennym yr union niferoedd). Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd gennym gleifion, myfyrwyr na osteopathiaid a wnaeth gais i ddefnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darparu gwybodaeth yn Gymraeg
Gwnaethom barhau i ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg ar ein gwefan, ac yn ystod y cyfnod hwn gwnaethom gyhoeddi’r wybodaeth newydd ganlynol yn Gymraeg:
- Canllawiau ar astudio osteopathi gydag anabledd neu gyflwr iechyd
- Adroddiad Blynyddol Addasrwydd i Ymarfer 2024-25
- Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25
Bob ychydig fisoedd rydym yn anfon ein bwletin myfyrwyr at fyfyrwyr osteopathi yn eu blynyddoedd olaf ond un ac olaf o addysg, ac i’r rhai sy’n astudio yng Nghymru, rydym hefyd yn anfon yr efwletin yn Gymraeg.
Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom hefyd dreialu ein Fforwm Myfyrwyr – cyfarfod ar-lein chwarterol gyda myfyrwyr i drafod gwaith y Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Gwnaethom hyrwyddo’r fforwm i fyfyrwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac wrth gyflwyno myfyrwyr i’r fforwm, gofynnwyd iddynt a hoffent dderbyn unrhyw wybodaeth am y fforwm yn Gymraeg – nid oedd angen gwybodaeth Gymraeg ar yr un ohonynt. Cawsom un myfyriwr o brifysgol Abertawe yn mynychu cyfarfod fforwm.
Gwnaethom barhau i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg gan ddefnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a’n bwletin misol i osteopathiaid. Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ar gael ar ein gwefan.
Ymgynghoriadau
Ym mis Mehefin 2025 cyhoeddwyd ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig yr ydym am eu gwneud i Ddeddf Osteopathiaid 1993 a fyddai’n caniatáu inni amddiffyn y teitl osteopathig yn well trwy ehangu’r derminoleg sydd wedi’i chynnwys yn ein deddfwriaeth. Mae hyn yn golygu y byddai unrhyw un nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol ond sy’n defnyddio termau sy’n gysylltiedig â’r teitl osteopathig yn torri’r gyfraith. Roedd ein hymgynghoriad yn cynnwys ein hasesiad o’r effaith ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Nododd ein hasesiad fod Deddf Osteopathiaid 1993 ar hyn o bryd yn cynnwys amddiffyniad teitl i berson sy’n disgrifio ei hun fel osteopath, ymarferydd osteopathig, meddyg osteopathig, osteopathydd, osteotherapydd, neu unrhyw fath arall o osteopath. Pe bai person nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn disgrifio ei hun gan ddefnyddio unrhyw un o’r termau hyn yn Gymraeg, byddai hefyd yn torri’r gyfraith.
Mae hyn yn golygu bod cleifion ac osteopathiaid yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael yr un amddiffyniad gan y Ddeddf Osteopathiaid â’r rhai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dylai unrhyw ehangu i Adran 32 barhau i ddarparu’r amddiffyniad cyfartal hwn ledled y DU.
Yn ein hymgynghoriad, gwnaethom gydnabod, er nad ydym yn gwybod faint o gleifion osteopathig sydd yng Nghymru, y byddai newid mewn deddfwriaeth sy’n ehangu’r derminoleg ynghylch diogelu teitl yn y Ddeddf hefyd yn rhoi lefel uwch o amddiffyniad i gleifion yng Nghymru a allai fod yn derbyn triniaeth o’r fath gan bobl nad ydynt wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar hyn o bryd.
Er bod ein hasesiad wedi canfod efallai na fydd y dull hwn yn caniatáu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg, nododd y gallai mewn rhai ffyrdd annog defnydd o’r iaith gan osteopathiaid a’u cleifion, a’r rhai sy’n awyddus i astudio ac ymarfer osteopathi yng Nghymru yn y dyfodol, drwy gryfhau’r deddfau sy’n amddiffyn osteopathiaid a gwerth y teitl.
Defnyddio’r Gymraeg ar gyfer cofrestru
Ym mis Ionawr 2026 lansiwyd ein system CRM a’n cronfa ddata newydd, sy’n caniatáu inni gael ffurflen Gymraeg ar-lein wedi’i hintegreiddio’n llawn ar gyfer osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg i’w defnyddio i adnewyddu eu cofrestriad. Mae hyn yn golygu ein bod bellach yn cydymffurfio’n llawn â safon 20 o Safonau’r Gymraeg, ar ôl codi ein cyfyngiadau blaenorol yn sgil ein hen systemau gyda Chomisiynydd y Gymraeg.
Hyd yn hyn, nid oes unrhyw osteopathiaid wedi adnewyddu eu cofrestriad gan ddefnyddio’r ffurflen Gymraeg ond rydym yn parhau i hyrwyddo hyn i osteopathiaid yn rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg
| Nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor Osteopathig Cyffredinol â’r safonau: | Dim |
| Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar 31 Mawrth 2026: | Dim |
| Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (ac eithrio swyddi llywodraethu/anweithredol) lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol: | Dim |
| Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (ac eithrio swyddi llywodraethu/anweithredol) lle roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol: | Dim |
| Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (ac eithrio swyddi llywodraethu/anweithredol) lle roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol lle’r oedd angen dysgu sgiliau Cymraeg: | Dim |
| Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (ac eithrio swyddi llywodraethu/anweithredol) lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol: | Dim |
| Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (ac eithrio swyddi llywodraethu/anweithredol) lle nad oedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol: | 5 |
Sut i gysylltu â ni yn Gymraeg
Gellir anfon ymholiadau yn Gymraeg at y Cyngor Osteopathig Cyffredinol drwy e-bost, WhatsApp neu drwy’r post a byddant yn derbyn ymateb ysgrifenedig yn Gymraeg. Bydd ymholiadau a anfonir atom drwy unrhyw un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook neu LinkedIn) hefyd yn derbyn ymateb yn Gymraeg. Fel arfer, ein nod yw ymateb i negeseuon e-bost a chyswllt trwy’r cyfryngau cymdeithasol o fewn 5 diwrnod gwaith. Ar WhatsApp, ein nod yw ymateb o fewn 24 awr.
Gan nad oes gennym aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, ni allwn ateb galwadau ffôn yn Gymraeg.
Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’n gwasanaethau Cymraeg neu gynnwys yr adroddiad blynyddol hwn, gallwch wneud hynny drwy e-bostio info@osteopathy.org.uk