Astudio gydag anabledd neu gyflwr iechyd
Mae llawer o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn gallu astudio osteopathi ac ennill Cymhwyster Cydnabyddedig, ac ymarfer osteopathi gyda neu heb addasiadau i gefnogi eu hymarfer.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb, gan gynnwys pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd, yn gallu cael profiad cadarnhaol wrth hyfforddi a chofrestru i fod yn osteopath, waeth beth fo’u cefndir, eu hunaniaeth neu eu nodweddion gwarchodedig.
Beth mae’r safonau yn ei ddweud
Y pwynt allweddol i osteopathiaid neu fyfyrwyr ei ystyried yw a fyddai unrhyw gyflwr iechyd yn effeithio ar ofal cleifion.
Mae’r Safonau Ymarfer Osteopathig yn nodi’r gofynion canlynol ar gyfer osteopathiaid a allai fod â chyflwr iechyd neu anabledd:
D11: Rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw broblemau gyda’ch iechyd eich hun yn effeithio ar eich cleifion. Rhaid i chi beidio â dibynnu ar eich asesiad eich hun o’r risg i gleifion.
1. Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod eich iechyd corfforol neu eich iechyd meddwl yn ddiffygiol mewn ffordd a allai effeithio ar y gofal rydych yn ei roi i’ch cleifion, rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael cyngor meddygol priodol ar sut i addasu eich ymarfer os oes angen, a dilyn y cyngor hwnnw
- rhoi’r gorau i ymarfer os oes angen nes bod eich cynghorydd meddygol yn credu eich bod yn ddigon iach i weithio eto
- rhoi gwybod i’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Canllawiau i fyfyrwyr
Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn osteopathi a bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, dylai ein canllawiau fod o gymorth wrth benderfynu a yw addysg a hyfforddiant osteopathig yn addas i chi.
Ar gyfer myfyrwyr osteopathi sydd â chyflwr iechyd neu anabledd neu sy’n datblygu cyflwr iechyd neu anabledd, mae’r canllawiau hyn yn gallu eich helpu i reoli’r rhain ochr yn ochr â’ch astudiaethau, ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i chi.
Arweiniad i addysgwyr
Darperir canllawiau ar wahân ar gyfer darparwyr addysg osteopathig.