Rydym ni’n gyfrifol am wirio a sicrhau ansawdd addysg i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gallu bodloni’r Safonau Ymarfer Osteopathig pan fyddant yn graddio, cyn ymuno â’r Gofrestr.

Rydym ni’n ymweld â myfyrwyr yn ystod eu haddysg i drafod safonau, diogelwch cleifion, DPP a phynciau eraill, yn ogystal â helpu myfyrwyr i ymuno â’r Gofrestr fel osteopathiaid ar ôl iddynt raddio. Rydym ni hefyd yn anfon gwybodaeth ddefnyddiol at fyfyrwyr bob ychydig fisoedd yn ein e-fwletin myfyrwyr, ac yn cael myfyrwyr i gymryd rhan yn ein gwaith drwy fforymau, gweithdai a chyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor.