Mae’r broses hon yn berthnasol os oes gennych gymhwyster y DU mewn osteopathi o gwrs a gydnabyddir gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a’ch bod yn cofrestru gyda’r Cyngor am y tro cyntaf.

Bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol:

Os na fyddwch yn cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol o fewn 24 mis i gael eich Cymhwyster Cydnabyddedig, bydd yn rhaid i chi fynd trwy’r broses dychwelyd i ymarfer.

Os na fyddwch yn cofrestru ar unwaith, byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â’r Tîm Cofrestru pan fyddwch yn barod i ddechrau’r broses gofrestru fel y gallant amlinellu’r hyn y bydd angen i chi ei wneud. Mae hyn oherwydd y gallai fod gofynion ychwanegol yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud e.e. os ydych chi wedi byw dramor neu wedi bod yn gweithio mewn gwlad lle mae osteopathi yn cael ei reoleiddio.

Ar ôl i’ch holl waith papur ddod i law, fel arfer mae’n cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.

Pethau i’w cofio wrth wneud cais i gofrestru

Cofiwch wneud y canlynol:

  • cwblhau’r datganiad ar flaen y ffurflen gais
  • cwblhau’r Datganiad Diogelu Data
  • darllen y cwestiynau ar y ffurflen gais yn ofalus
  • gwneud yn siŵr eich bod wedi ateb POB cwestiwn ar y ffurflen gais

Rhaid i’r geirda iechyd gael ei lofnodi gan feddyg teulu yn y DU neu dramor:

  • nad yw’n perthyn i chi
  • sydd naill ai wedi eich adnabod am o leiaf bedair blynedd NEU sydd â mynediad at eich cofnodion meddygol o’r pedair blynedd diwethaf (efallai y bydd tâl bach am hyn)

Gofalwch fod eich meddyg teulu wedi ticio’r blwch priodol ac wedi cynnwys ei enw ar y geirda iechyd wedi’i gwblhau. Fel arall, bydd y geirda yn cael ei ddychwelyd atoch, a fydd yn oedi’r broses ymgeisio. Os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu ac na allwch ddarparu geirda iechyd, anfonwch e-bost i student@osteopathy.org.uk i esbonio’r amgylchiadau sy’n eich atal rhag cael geirda iechyd wedi’i lofnodi gan eich meddyg teulu.

Rhaid i’r geirda cymeriad gael ei gwblhau gan berson yn y DU neu dramor:

  • nad yw’n perthyn i chi
  • sydd wedi eich adnabod ers o leiaf bedair blynedd
  • sydd â galwedigaeth broffesiynol

Gall galwedigaeth broffesiynol gynnwys:

  • athro
  • newyddiadurwr
  • gweithiwr cymdeithasol
  • gweithiwr meddygol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • cyfrifydd
  • gwas sifil (mewn rôl barhaol)
  • rheolwr/swyddog personél
  • cyfreithiwr
  • swyddog heddlu

Gofalwch fod yr unigolyn o’ch dewis wedi llenwi’r ffurflen geirda cymeriad yn llawn. Fel arall, bydd y geirda yn cael ei ddychwelyd atoch, a bydd hyn yn oedi’r broses ymgeisio.

Rhaid i chi gael gwiriad DBS uwch fel rhan o’ch cais i gofrestru. Rhaid bod hyn wedi’i wneud o fewn y chwe mis diwethaf.

Fodd bynnag, nid oes angen i chi gael gwiriad manwl newydd os oes gennych un nad yw’n fwy na chwe mis oed. Dylid sganio’r dystysgrif wreiddiol a’i hanfon mewn e-bost i student@osteopathy.org.uk

Dylai unrhyw un sydd angen un o’r gwiriadau hyn wneud cais trwy gorff ymbarél sydd wedi’i gofrestru gyda’r DBS, gan na all dderbyn ceisiadau gan unigolion. 

Mae Know Your People (rhan o First Advantage) yn gwmni sydd wedi’i gofrestru gyda’r DBS sy’n rheoli gwiriadau Manwl ar gyfer Gweithgaredd a Reoleiddir ar ran y Cyngor Osteopathig Cyffredinol.  

Os hoffech ddefnyddio eu gwasanaethau, bydd angen eich cydsyniad ysgrifenedig arnom felly anfonwch eich cydsyniad drwy e-bost i student@osteopathy.org.uk. Bydd angen i chi hefyd ddweud wrthym pa un o’r ddau opsiwn canlynol yr hoffech eu cymryd:  

  1. Gwirio digidol – gwirio eich dogfennau a thalu am eich gwiriad DBS ar-lein gan ddefnyddio porth ar-lein diogel Know Your People/First Advantage. Os nad yw’r gwirio digidol yn gweithio am unrhyw reswm, bydd eich cais yn mynd trwy lwybr dilysu Swyddfa’r Post, sy’n golygu na fydd angen i chi ddechrau’r broses ymgeisio eto. 
  2. Gwirio gan Swyddfa’r Post – mynd â’ch dogfennau gwirio ac adnabod i’ch cangen agosaf o Swyddfa’r Post y Goro (gan sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth ‘Gwirio yn y Gangen’) i wirio a thalu dros y cownter. Bydd angen i chi argraffu’r ddogfen wirio eich hun cyn mynd i’r swyddfa bost. Byddant yn sganio’r cod bar ar y dudalen wirio i wirio’r gwaith papur, yna byddant yn anfon cadarnhad i Know Your People.  

Unwaith y bydd Know Your People wedi cael eich manylion a’ch opsiwn gwirio dewisol, byddant yn anfon e-bost atoch gyda rhif pin a dolen i’w system wirio ar-lein.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin ar ôl clicio ar y ddolen i ddiweddaru eich gwybodaeth cyn gwirio’ch dogfennau gan ddefnyddio un o’r ddau lwybr a esboniwyd uchod. Bydd eich Gwiriad Manwl ar gyfer Gweithgaredd a Reoleiddir yn cael ei gynnal ar ôl i’ch dogfennaeth gael ei gwirio. 

Mae gwiriad DBS trwy Know Your People yn costio: 

  • £78.90 trwy Wirio Digidol  
  • £81.00 trwy Wirio gan Swyddfa’r Post 

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn postio tystysgrif datgeliad atoch unwaith y bydd eich Gwiriad Manwl ar gyfer Gweithgaredd a Reoleiddir wedi’i gwblhau. Nid oes angen anfon y dystysgrif datgeliad atom ni oherwydd gallwn weld eich gwiriad wedi’i gwblhau ar-lein trwy borth diogel First Advantage. 

Os oes gennych unrhyw euogfarnau/rhybuddion ar eich tystysgrif datgeliad, anfonwch e-bost atom yn student@osteopathy.org.uk. Dylech gynnwys datganiad ategol sy’n manylu ar y digwyddiadau a arweiniodd at y rhybudd neu’r euogfarn, ynghyd â chopi wedi’i sganio o’r dystysgrif datgeliad wreiddiol. 

Ar ôl i’r pethau hynny ddod i law, efallai y gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Bydd y Cofrestrydd yn ystyried unrhyw euogfarnau neu rybuddion nad ydynt yn cael eu ‘diogelu’ yn unol â Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y’i diwygiwyd yn 2013) wrth asesu eich cais. 

Mae rheoleiddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan a bydd y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn parhau i fynnu bod ymgeiswyr yn cydymffurfio â chynllun datgelu troseddol Cymru a Lloegr. 

Rhaid i unrhyw osteopath sy’n darparu gwasanaethau iechyd a fwriedir ar gyfer plant neu oedolion yn yr Alban fod yn aelod o’r cynllun Diogelu Grwpiau Agored i Niwed (PVG) ar gyfer y grŵp/grwpiau maen nhw’n darparu eu gwasanaeth iddynt. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Os ydych yn bwriadu gweithio yn yr Alban ar ôl i chi gofrestru, rhaid i chi fod yn aelod o’r cynllun PVG. Mae’r cynllun yn cael ei reoli a’i gyflwyno gan Disclosure Scotland. Gallwch ddysgu mwy ar wefan Disclosure Scotland. 

Os ydych yn ansicr am y broses, anfonwch e-bost i: DisclosureAct@disclosurescotland.gov.scot

Bydd angen i chi ddweud wrth y Cyngor Osteopathig Cyffredinol pa ddarparwr yswiriant rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio fel rhan o’ch cais. Ni allwch ddechrau ymarfer nes bod eich polisi yswiriant wedi’i actifadu, a bydd hyn ar ôl i chi gofrestru.

Gall y cyfryngwyr yswiriant canlynol roi cyngor i chi ar yswiriant indemniad proffesiynol sy’n bodloni gofynion y Cyngor.

Mae’r darparwyr addysg osteopathig yn anfon prawf o gymwysterau cydnabyddedig eu myfyrwyr at y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn uniongyrchol. Gofynnwch i’ch ysgol gadarnhau eu bod wedi anfon prawf o’ch cymhwyster cydnabyddedig atom, gan nad oes gennym unrhyw reolaeth dros pryd y bydd y cadarnhad o’ch cymwysterau cydnabyddedig yn cael ei anfon.

Noder: mae gan wahanol ddarparwyr addysg osteopathig ddyddiadau graddio gwahanol, felly bydd y dyddiad y byddwch yn ennill eich cymhwyster cydnabyddedig yn amrywio yn dibynnu ar eich darparwr addysg.