Ymddygiadau proffesiynol ac addasrwydd myfyrwyr i ymarfer

Rhaid i fyfyrwyr ddangos eu bod yn ‘addas i ymarfer’, sy’n golygu eu bod yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i fodloni gofynion y Safonau Ymarfer Osteopathig. 

Bydd rhaglenni addysg osteopathig yn cefnogi datblygiad ymddygiadau proffesiynol sy’n sail i ymarfer osteopathig ac yn cefnogi myfyrwyr i ddangos eu haddasrwydd i ymarfer.

Canllawiau i fyfyrwyr ac addysgwyr

Rydym ni’n cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr ac addysgwyr i amlinellu’r ymddygiadau a’r gwerthoedd proffesiynol sy’n i’w disgwyl gan fyfyrwyr osteopathi. Mae’r ymddygiadau a’r gwerthoedd hyn yn hanfodol er mwyn gallu graddio a derbyn ‘cymhwyster cydnabyddedig’, sy’n angenrheidiol er mwyn cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol.

Mae’r canllawiau yn esbonio:

Mae’r canllawiau yn cynnwys enghreifftiau achos i helpu i ddangos sut i wneud hynny’n ymarferol. Ffuglen yw’r enghreifftiau hyn, ac nid ydynt wedi’u bwriadu fel dull gweithredu ‘safon aur’. Yn hytrach, maent yn dangos sefyllfaoedd a allai godi, a sut i fynd i’r afael â nhw.

Nod y canllawiau hyn hefyd yw cefnogi myfyrwyr i ddatblygu fel gweithwyr proffesiynol a sefydlu eu haddasrwydd i ymarfer yn ystod eu hastudiaethau, ac i nodi disgwyliadau ynghylch beth ddylai ddigwydd os yw ymddygiad myfyrwyr yn codi cwestiynau am eu haddasrwydd i ymarfer.

Mae’r canllawiau hefyd ar gael yn Saesneg.