Cymeriad da
Rydym ni’n defnyddio ein Fframwaith Asesu Cymeriad Da i benderfynu a yw myfyriwr o gymeriad da ac felly’n gallu ymuno â’r Gofrestr ar ôl graddio. Fel rhan o’r asesiad hwn, rydym ni’n dilyn y prawf a nodwyd gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, sy’n gofyn am dystiolaeth fel a ganlyn: A yw’r ymgeisydd yn y gorffennol wedi ymddwyn, neu a oes rheswm dros gredu y gallai fod perygl i’r ymgeisydd ymddwyn yn y dyfodol:
- yn y fath fodd sy’n peryglu iechyd, diogelwch neu lesiant claf neu aelod arall o’r cyhoedd
- yn y fath fodd fel y byddai eu cofrestriad yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn
- yn y fath fodd sy’n dangos amharodrwydd i weithredu yn unol â safonau’r proffesiwn
- mewn ffordd anonest
Pwrpas y fframwaith hwn
O dan adran 3 o Ddeddf Osteopathiaid 1993 (1993 p.21), rhaid i berson sydd eisiau cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol fodloni Cofrestrydd y Cyngor ei fod ‘o gymeriad da’.
Yn ymarferol, bydd y swyddogaeth o benderfynu a yw ymgeisydd o gymeriad da ai peidio yn cael ei chyflawni gan dîm Cofrestru’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol.
Pwrpas y Fframwaith Asesu Cymeriad Da yw cynorthwyo’r tîm Cofrestru i wneud penderfyniadau cyson a chymesur.
Wrth benderfynu a yw ymgeisydd o gymeriad da ai peidio, bydd y tîm Cofrestru yn ystyried y materion a nodir yn y fframwaith hwn.
Pan fo’r Cofrestrydd yn penderfynu nad yw ymgeisydd o gymeriad da, gall yr ymgeisydd apelio i’r Pwyllgor Apeliadau Cofrestru yn unol ag adran 29 o Ddeddf Osteopathiaid 1993.
At ddibenion gweithdrefnau cofrestru’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol, rydym ni’n diffinio ‘cymeriad da’ fel:
‘absenoldeb o dystiolaeth bod person wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n anghyson â’r Safonau Ymarfer Osteopathig a gyhoeddwyd gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, neu ag arferion y proffesiwn osteopathi; a bod ganddo ef neu hi unrhyw duedd i gyflawni ymddygiad o’r fath.’
Yng nghanllawiau’r Awdurdod Safonau Proffesiynol sy’n dwyn y teitl A Common Approach to Good Character across the Health Professions Regulators, nodwyd fod gan weithwyr iechyd proffesiynol berthynas ag aelodau’r cyhoedd sy’n wahanol i lawer o sectorau eraill, un sydd wedi’i wreiddio yn yr ymddiriedaeth, yr hyder a’r parch at ei gilydd sy’n angenrheidiol er mwyn i broffesiwn gael ei ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Er mwyn profi eu bod yn addas i ymroi i’r berthynas hon mae yna ddisgwyliadau y mae’n rhaid i ddarpar weithiwr proffesiynol eu bodloni.’
Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi nodi prawf awgrymedig o gymeriad da (ym mharagraff iii, t.2 a pharagraff 4.9):
‘A yw’r ymgeisydd yn y gorffennol wedi ymddwyn, neu a oes rheswm dros gredu y gallai fod perygl i’r ymgeisydd ymddwyn yn y dyfodol:
- yn y fath fodd sy’n peryglu iechyd, diogelwch neu lesiant claf neu aelod arall o’r cyhoedd
- yn y fath fodd fel y byddai eu cofrestriad yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn
- yn y fath fodd sy’n dangos amharodrwydd i weithredu yn unol â safonau’r proffesiwn
- mewn ffordd anonest.
Wrth benderfynu a yw ymgeisydd sy’n dymuno cofrestru o gymeriad da ai peidio, bydd tîm Cofrestru’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn cymhwyso’r prawf a awgrymir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.
Wrth wneud penderfyniadau am gymeriad ymgeisydd, bydd y tîm Cofrestru hefyd yn ystyried y Canllawiau Gwrandawiadau a Sancsiynau, un o gyhoeddiadau’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol, i ddarparu meincnod ynghylch difrifoldeb unrhyw ganfyddiadau neu euogfarnau a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd; neu unrhyw honiadau neu wybodaeth arall ynghylch ei ymddygiad.
Y rhesymeg dros hyn yw y dylai ymddygiad neu ymddygiad a fyddai’n golygu bod person ar y gofrestr yn cael ei wahardd rhag ymarfer hefyd atal ymgeisydd rhag ymuno â’r proffesiwn yn y lle cyntaf. Mae unrhyw berson sy’n gwneud cais am gofrestru yn ysgwyddo’r baich o brofi ei fod ef neu hi o gymeriad da.
Wrth benderfynu a yw ymgeisydd o gymeriad da ai peidio, bydd y Cofrestrydd yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael am ei gymeriad, yn unol â deddfwriaeth genedlaethol berthnasol.
Gallai hyn gynnwys tystiolaeth sy’n ymwneud â:
- euogfarnau troseddol
- rhybuddion, rhwymo, rhyddhad amodol, ceryddon neu adroddiadau o brocuradur ffisgal
- canfyddiadau gan gorff sy’n gyfrifol am reoleiddio proffesiwn iechyd neu ofal cymdeithasol
- canfyddiadau a wnaed gan ddarparwr addysg osteopathig
- canfyddiadau a wnaed gan Lys Troseddol neu Sifil sy’n ymwneud â’r ymgeisydd
- unrhyw dystiolaeth mewn achosion troseddol neu sifil sy’n ymwneud â’r sawl sydd wedi cofrestru, gan gynnwys hawliadau am esgeulustod ac achos disgyblu
- honiadau, cwynion neu wybodaeth am ymddygiad yr ymgeisydd sydd wedi dod i sylw’r Cofrestrydd ac sy’n anghydnaws â’r safonau a nodir yn y Safonau Ymarfer Osteopathig, a
- tystebau a geirdaon am yr ymgeisydd
Yn achos ymgeiswyr sy’n ceisio cofrestru dros dro o dan Adran 5A o’r Ddeddf Osteopathiaid, gall y Cofrestrydd hefyd ystyried gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cymwys am gyflwr sefydlu’r ymgeisydd. Gall hyn gynnwys a yw’r ymgeisydd yn ddarostyngedig i unrhyw amodau ar ymarfer ai peidio; ac absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol.
Wrth asesu pwysau ac arwyddocâd unrhyw dystiolaeth am gymeriad yr ymgeisydd, bydd y ffactorau canlynol yn cael eu hystyried:
| Difrifoldeb y gollfarn, canfyddiad neu ymddygiad |
| Perthnasedd yr euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad i’r arfer o osteopathi |
| Perthnasedd yr euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad i gynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig |
| Maint a natur unrhyw risg i gleifion neu’r cyhoedd |
| Y cyfnod ers derbyn yr euogfarn neu’r canfyddiad gael ei dderbyn, neu pan gyflawnwyd yr ymddygiad |
| Nifer a natur achosion yr euogfarn, y canfyddiad neu ymddygiad, ac a ydyn nhw’n ffurfio rhan o batrwm ai peidio |
| Oedran yr ymgeisydd ar yr adeg y derbyniwyd yr euogfarn neu’r canfyddiad, neu y cyflawnwyd yr ymddygiad |
| Lliniaru personol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad |
| Ymdrechion yr ymgeisydd (neu ddiffyg ymdrechion) i adsefydlu [ei hun] ers i’r euogfarn a/neu’r canfyddiad ddod i law neu fod yr ymddygiad wedi’i gyflawni |
| Dealltwriaeth (neu ddiffyg dealltwriaeth) yr ymgeisydd mewn perthynas â’r euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad |
| I ba raddau y mae’r euogfarn, y canfyddiad neu’r ymddygiad yn cael ei wrthbwyso gan dystebau a geirdaon am ymddygiad ac ymddygiad dilynol a diweddar yr ymgeisydd |
| I ba raddau y mae’r euogfarn, y canfyddiad neu’r ymddygiad yn nodweddiadol o’r ymgeisydd, neu’n arwydd o duedd gan yr ymgeisydd i gyflawni ymddygiad o’r fath |
| I ba raddau y gwnaeth yr ymgeisydd ddatgelu (neu beidio datgelu) bodolaeth yr euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad, yn ystod y broses ymgeisio |
| I ba raddau y bu’r ymgeisydd yn gydweithredol (neu beidio) mewn perthynas ag unrhyw [ymholiadau] a wnaed gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol |
Wrth ystyried difrifoldeb yr euogfarn, canfyddiad neu ymddygiad dan sylw, ystyrir bod y ffactorau canlynol, lle bônt yn bresennol, yn rhai difrifol yn awtomatig:
| Anonestrwydd, twyll neu gamliwio |
| Dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol |
| Trais neu ddiystyru bywyd dynol yn fwriadol neu’n ddi-hid |
| Ymddygiad rhywiol fel y’i diffinnir yn Clear sexual boundaries between healthcare professionals and patients; responsibilities of healthcare professionals a gyhoeddwyd gan y Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd ym mis Ionawr 2008 |
| Gweithredoedd rhywiol gyda phlant |
| Camfanteisio ar ymddiriedaeth neu ymddygiad amhriodol arall gyda phobl agored i niwed |
| Torri cyfrinachedd |
| Masnachu, dargyfeirio neu weithgynhyrchu anghyfreithlon o unrhyw feddyginiaethau (gan gynnwys cyffuriau rheoledig) neu gynhyrchion meddyginiaethol |
| Bygythiadau i iechyd, diogelwch neu lesiant y cyhoedd |
| Gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth anghyfreithlon, yn groes i ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 |
| Diystyru’r gyfraith neu’r system gofrestru mewn ffordd amlwg |
| Unrhyw ymddygiad arall sy’n anghydnaws â’r Safonau Ymarfer Osteopathig |
Bydd unrhyw ddatgeliad yr ystyrier ei fod yn ddifrifol yn cael ei gyfeirio’n awtomatig at y Cofrestrydd i’w ystyried.
Mae’r tîm Cofrestru yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd datgeliad llawn a gonest gan ymgeisydd fel rhan o’r broses gofrestru.
Gan hynny, ystyrir bod unrhyw fethiant i ddatgelu materion a allai fod yn berthnasol i gymeriad ymgeisydd yn dystiolaeth gadarnhaol o ddiffyg cymeriad da, a gall arwain at benderfyniad i beidio â chofrestru’r ymgeisydd.
Mae felly er budd yr ymgeisydd i ddatgan unrhyw faterion a allai fod yn berthnasol i benderfyniad ynghylch ‘cymeriad da’.
Mae’n ofynnol i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol adnewyddu eu cofrestriad yn flynyddol. Fel rhan o’r broses hon, mae’n ofynnol i gofrestreion gwblhau hunanddatganiad mewn perthynas â chymeriad.
Bydd y tîm Cofrestru yn cymhwyso’r ffactorau a’r egwyddorion a nodir yn y fframwaith hwn i unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg fel rhan o’r broses adnewyddu cofrestriadau, ac sy’n cwestiynu cymeriad da parhaus y cofrestrydd.