Cymorth, canllawiau ac adnoddau i fyfyrwyr
Rydym ni’n ymweld â myfyrwyr y gwahanol ddarparwyr addysg bob blwyddyn i siarad am amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â safonau a’n gwaith fel rheoleiddiwr, gan gynnwys proffesiynoldeb ac ymdrin â ffiniau proffesiynol gyda chleifion, ein proses addasrwydd i ymarfer a’r cynllun DPP ar gyfer osteopathiaid. Rydym ni’n gwneud hyn fel bod myfyrwyr yn gallu dechrau ymgyfarwyddo â phwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a’r hyn rydym ni’n ei ddisgwyl gan fyfyrwyr ac osteopathiaid.
Rydym ni’n annog myfyrwyr i gysylltu â ni’n uniongyrchol gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am reoleiddio, ac yn benodol sut rydym ni’n sicrhau ansawdd eu haddysg.
Oeddech chi’n gwybod bod croeso i fyfyrwyr yng nghyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor?
Gall myfyrwyr fynychu fel arsylwyr, naill ai yn bersonol neu ar-lein. Cysylltwch â ni yn council@osteopathy.org.uk i ddarganfod mwy.
Pryderon ynglŷn â bodloni’r safonau
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â bodloni’r Safonau Ymarfer Osteopathig neu’r Safonau ar gyfer Addysg a Hyfforddiant, gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd am sgwrs anffurfiol ar education@osteopathy.org.uk neu 020 7357 6655 est 240. Gallwch holi am wneud hynny ar ffurf galwad fideo, os yw’n well gennych chi.
Weithiau, ni fydd yn bosibl i fyfyrwyr ddatrys pryderon yn lleol. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae polisi cwynion addysg ar waith i reoli unrhyw bryderon nad yw’r darparwr addysg yn darparu’r cymorth angenrheidiol.
Fel arfer, bydd angen i gwynion am faterion unigol sy’n effeithio ar y myfyriwr fynd i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Beth bynnag yw’r amgylchiadau, bydd y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn gallu trafod y meini tramgwydd a’ch helpu i ddod o hyd i’r llwybr perthnasol i ddatrys eich pryder.