Fel rheoleiddiwr y proffesiwn osteopathig, ein rôl ni yw ystyried ac ymchwilio i bryderon a godir am ymddygiad, cymhwysedd neu iechyd osteopathiaid.
Mae’n ddyletswydd arnom i nodi a yw pryder am osteopath yn fater dilys y mae angen ei ymchwilio iddo i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac mae’r holl bryderon sy’n cael eu codi gyda ni yn cael eu cymryd yn gwbl ddifrifol.
Yma fe welwch fanylion am sut gallwch fynegi pryder, y math o bryderon y gallwn ymchwilio iddynt, y broses addasrwydd i ymarfer, a’r camau y gallwn eu cymryd i amddiffyn a chynnal diogelwch cleifion a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig.
Beth yw addasrwydd i ymarfer?
Mae addasrwydd i ymarfer yn golygu sicrhau bod gan osteopath y sgiliau angenrheidiol a’i fod yn cynnal safonau priodol a phroffesiynol i wneud ei waith yn ddiogel, heb beri risg i’r cyhoedd na thanseilio ymddiriedaeth yn ei broffesiwn.
Fel y rheoleiddiwr, mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob osteopath ar y Gofrestr yn cynnal y lefelau ymddygiad hyn. Mae’r Safonau Ymarfer Osteopathig yn cefnogi osteopathiaid i wella eu harfer a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan sicrhau gofal o ansawdd uchel i gleifion.
Gall pryderon ddod o fewn un o sawl categori (a elwir yn ‘honiadau’) fel y’u diffinnir gan y gyfraith, gan gynnwys:
- ymddygiad sydd wedi methu â chyrraedd y safon ofynnol
- anghymhwysedd proffesiynol
- euogfarn o drosedd
- amhariad difrifol oherwydd iechyd corfforol neu feddyliol
Rydym yn cyhoeddi canlyniadau pryderon a wnaed i ni yn ein Hadroddiadau Blynyddol a’n Hadroddiadau Blynyddol Addasrwydd i Ymarfer.
Rhaid i bob osteopath yn y DU fod wedi’i gofrestru gyda ni
Pryderon a chwynion am osteopathiaid
Mae llawer o bryderon yn deillio o gamddealltwriaeth ac mae’n aml yn ddefnyddiol trafod eich pryderon gyda’r osteopath yn gyntaf.
Fodd bynnag, rydym am i chi gysylltu â ni ar unwaith mewn unrhyw achosion lle mae’r osteopath:
- yn gweithredu mewn ffordd anonest, anweddus neu dreisgar
- yn gweithio o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
- yn cael perthynas bersonol â chlaf
- yn archwilio neu drin claf heb ei ganiatâd
- yn anghymwys (pan fydd gwaith osteopath yn methu â bodloni’r safonau rydym ni’n eu gosod yn ein Safonau Ymarfer Osteopathig)
- yn trin rhywun yn negyddol yn seiliedig ar ethnigrwydd, cefndir, hunaniaeth neu nodweddion gwarchodedig y person hwnnw yn unig
- yn ymarfer o dan y teitl ‘Osteopath’ pan nad yw wedi’i gofrestru
Os ydych chi’n glaf a bod gennych bryderon eraill am y driniaeth rydych chi wedi’i chael, neu’r ffordd y mae’ch osteopath wedi ymddwyn, ac y byddai’n well gennych beidio â thrafod yn uniongyrchol â nhw, efallai y byddwch yn gallu trafod y mater gydag osteopath arall yn y practis. Gofynnwch am weithdrefn gwyno’r practis: dylai pob practis osteopathig fod ag un. Os nad oes neb arall yn y practis, efallai y bydd osteopath arall yn gallu rhoi barn – bydd y mwyafrif yn falch o’ch helpu.
Os nad ydych yn fodlon bod eich pryderon wedi cael eu trin yn briodol, neu os hoffech gyngor pellach, dylech gysylltu â’n Hadran Reoleiddio ar 020 7357 6655 est 224 neu e-bostio regulation@osteopathy.org.uk. Rydym yma i’ch helpu gydag unrhyw bryder neu gŵyn sydd gennych am osteopath.
Gwybodaeth i gyflogwyr
Os ydych chi’n gweithio i Ymddiriedolaeth y GIG neu gyflogwr arall a’ch bod yn ystyried cymryd camau disgyblu mewnol yn erbyn osteopath, mae angen i chi ddweud wrthym, yn enwedig os oes tystiolaeth sy’n awgrymu y gallai gallu osteopath i ymarfer fod wedi’i amharu.
Nid yw ein hysbysu ni o reidrwydd yn golygu y byddwn yn ceisio dod â’r achos gerbron y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu’n gofyn i chi atal neu ddod â’ch gweithdrefnau eich hun i ben. Mewn llawer o achosion, bydd yn fwy priodol i ni aros nes bod gweithdrefnau lleol wedi’u cwblhau. Rydym yn ceisio cydweithio â chyflogwyr pryd bynnag y bo modd, ac rydym bob amser yn barod i drafod achosion unigol.
Mae ein Polisi ar Hysbysu am Ymchwiliadau a Chanlyniadau Addasrwydd i Ymarfer yn esbonio pa wybodaeth y byddwn yn ei darparu i drydydd partïon, fel cyflogwyr, am ymchwiliadau i gwynion a chanlyniad cwynion yn erbyn osteopathiaid.

