Cymorth sydd ar gael yn ystod y broses
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Annibynnol, a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr, wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol ers 2019 i helpu i gefnogi cleifion, tystion ac osteopathiaid sy’n mynd drwy’r broses addasrwydd i ymarfer.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol sy’n darparu lle diogel cyfrinachol i bobl drafod eu teimladau am y broses addasrwydd i ymarfer a thrafod yr hyn y gellid ei ddisgwyl ganddynt ym mhob cam.
Os ydych chi’n ymwneud ag achos addasrwydd i ymarfer ac yn teimlo y byddech yn elwa ar y gwasanaeth, gallwch gyfeirio’ch hun i’r gwasanaeth drwy e-bostio medicalcouncils@victimsupport.org.uk neu ffonio 0300 303 1964. Mae’r llinell gymorth ar agor 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, gyda gweithwyr achos ar gael i ddarparu cymorth parhaus o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm (ac eithrio gwyliau banc), neu fel arall gallwch siarad â’ch cyswllt yn y Cyngor a gofyn iddo eich cyfeirio i’r gwasanaeth.
Mae’r cymorth hwn ar gael drwy gydol y broses addasrwydd i ymarfer ac am dri mis ar ôl i’r achos rydych chi’n ymwneud ag ef ddod i ben.
Gan Luke Seidel-Haas, Uwch Arweinydd Tîm ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol (a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr). Rhannwyd hwn gyntaf yn e-fwletin Addasrwydd i Ymarfer Mai 2022.
Gall mynd trwy’r broses addasrwydd i ymarfer fod yn amser anodd ac ansicr. Efallai y byddwch chi’n meddwl tybed beth sydd i’w ddisgwyl gennych chi, beth fydd y canlyniad posibl, a sut byddwch chi’n ymdopi â’r canlyniad hwnnw. Yn y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda rheoleiddwyr gofal iechyd gan gynnwys y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ers 2019 i helpu i gefnogi cleifion, tystion ac osteopathiaid sy’n mynd drwy’r broses addasrwydd i ymarfer. Fel elusen genedlaethol mae gennym lawer o brofiad o gefnogi’r rhai sy’n mynd trwy ddigwyddiadau trawmatig, sy’n rhoi’r wybodaeth a’r arbenigedd i ni gefnogi cleientiaid mewn ffordd llawn cydymdeimlad ac empathi. Rydym yn darparu lle diogel cyfrinachol i bobl drafod eu teimladau am y broses addasrwydd i ymarfer a siarad am yr hyn y gellid ei ddisgwyl ganddynt ym mhob cam.
Dywedodd fy nghydweithiwr Georgia, arweinydd tîm ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol, “Rydw i wedi clywed yn uniongyrchol y brwydrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gymryd rhan yn y broses gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Gall fod yn brofiad unig iawn, yn enwedig pan nad ydych chi’n siŵr â phwy y gallwch chi siarad am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.
“Gall cael y gefnogaeth honno trwy gydol y broses- gallu siarad â rhywun yn gyfrinachol ac annibynnol – fod o fudd gwirioneddol, a gall helpu i roi’r hyder i chi barhau â’r broses. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n ddefnyddiol cael sgwrs reolaidd gyda rhywun o’n gwasanaeth wrth i’r achos fynd rhagddo, tra bod eraill yn gweld bod cael rhywun i roi sicrwydd iddynt yn gallu bod yn werthfawr iawn iddyn nhw.”
Mae’r gefnogaeth y gall ein Gwasanaeth Cymorth Annibynnol ei darparu ar gael trwy gydol y broses ac am dri mis ar ôl hynny. Os ydych chi’n ymwneud ag achos addasrwydd i ymarfer ac yn teimlo y byddech yn elwa ar y gwasanaeth, gallwch siarad â’ch cyswllt yn y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a gofyn am gael eich cyfeirio i’r gwasanaeth. Fel arall gallwch hunangyfeirio i’r gwasanaeth drwy e-bostio medicalcouncils@victimsupport.org.uk neu ffonio 0300 303 1964. Mae’r llinell gymorth ar agor 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, gyda gweithwyr achos ar gael i ddarparu cymorth parhaus o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm (ac eithrio gwyliau banc).
Addasrwydd i Ymarfer y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a’r Gwasanaeth Cymorth Annibynnol – Cymorth i Ddioddefwyr
Yn y darn hwn o’n gweminar Addasrwydd i Ymarfer ym mis Mai 2022, mae Sara Brown yn trafod y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol a sut gall gefnogi osteopathiaid a thystion yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.