Mynegi pryder
Mae cynnal diogelwch cleifion a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig wrth wraidd addasrwydd i ymarfer ac, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni ystyried ac ymchwilio i bryderon am ymddygiad, cymhwysedd neu iechyd osteopathiaid.
Yn yr adran hon
Rhaid i bob osteopath yn y DU fod wedi’i gofrestru gyda ni a rhaid iddynt ddilyn ein Safonau Ymarfer Osteopathig, sy’n nodi’r safonau a’r canllawiau ar gyfer ymarfer osteopathi yn ddiogel ac yn gymwys.
Yma fe welwch fanylion ynghylch sut y gallwch godi pryder, y mathau o bryderon y gallwn eu hymchwilio, y broses addasrwydd i ymarfer, a’r camau y gallwn eu cymryd i ddiogelu a chynnal diogelwch cleifion ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig.