Mynegi pryder
Mae adran Reoleiddio y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn ymdrin ag unrhyw bryderon am osteopathiaid ar y Gofrestr. Os oes gennych bryder am osteopath, neu am driniaeth rydych chi wedi’i chael, gallwch wneud hyn drwy:
- Ein ffonio ni ar 020 7357 6655 est 224
- Defnyddio ein ffurflen ar-lein
- E-bostio ffurflen bryderon at regulation@osteopathy.org.uk
Cwblhewch y ffurflen bryderon gyda chymaint o fanylion â phosibl a’i hanfon atom, ynghyd ag unrhyw bapurau neu ddogfennau ategol sydd gennych sy’n berthnasol i’ch pryderon, megis:
- gohebiaeth rhyngoch chi a’r osteopath
- unrhyw nodiadau rydych chi wedi’u gwneud
- unrhyw ymchwiliadau meddygol fel delweddau pelydr-X neu sganiau MRI
Efallai y bydd angen i ni hefyd gael datganiad gennych chi. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn pan fyddwn wedi derbyn eich ffurflen.
Mae esboniad o’r hyn fydd yn digwydd ar ôl i ni dderbyn eich pryder i’w weld ar y dudalen Y Broses Ymchwilio.
Os nad ydych yn gallu cwblhau’r ffurflen bryderon, neu os oes angen cymorth arnoch i wneud hynny, cysylltwch â ni gan ddefnyddio unrhyw un o’r manylion cyswllt a ddarparwyd uchod.