Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am fynd i wrandawiad addasrwydd i ymarfer, dyddiadau gwrandawiad, penderfyniadau a chanlyniadau.

Os bydd pryder yn cael ei gadarnhau a’r achos yn symud ymlaen i wrandawiad, bydd y cofrestrai yn derbyn llythyr, sy’n aml ynghlwm wrth e-bost, gan weithiwr achos yn dweud wrtho ein bod wedi penderfynu cynnal gwrandawiad gerbron ein Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu ein Pwyllgor Iechyd.

Cynhelir gwrandawiadau gan y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ac maent fel arfer yn agored i’r cyhoedd a’r wasg, oni bai bod rheswm arbennig pam mae angen cynnal rhan o’r gwrandawiad, neu’r cyfan ohono, yn breifat.

Mae gwrandawiad yn debyg i achos llys a bydd cyfranogwyr, gan gynnwys tystion, yn rhoi tystiolaeth ar lw.

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn encilio i benderfynu yn breifat a yw unrhyw honiad wedi’i brofi. Byddant yn cyhoeddi eu penderfyniad yn y gwrandawiad cyhoeddus. Gall eu penderfyniadau amrywio, o gerydd i amodau ymarfer, atal dros dro neu dynnu oddi ar y gofrestr.

Gallwch ddarganfod mwy am amserlenni ymchwilio a gwrandawiadau yn yr adran Proses Ymchwilio.

Mae pob gwrandawiad wedi’i restru yn yr adran Gwrandawiadau’r Dyfodol.

Lle cynhelir gwrandawiadau

Mae gwrandawiadau fel arfer yn cael eu cynnal o bell neu, pan fydd hynny’n briodol, mewn fformat cyfunol (lle mae rhai cyfranogwyr, gan gynnwys tystion, yn bresennol yn bersonol tra bod eraill yn ymuno drwy fideogynadledda), neu gyfarfodydd le mae pawb yn bresennol yn bersonol. Ym mhob achos, rydym ni’n ystyried yn ofalus beth ddylai’r trefniant gwrandawiad fod. Gall hyn gynnwys ystyried unrhyw anableddau neu wendidau neu ofynion eraill sydd gan unrhyw un o’r cyfranogwyr. Mae’n bwysig bod unrhyw faterion yn cael eu nodi ymlaen llaw, er mwyn i ni allu sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r achosion yn gallu cymryd rhan yn effeithiol.

Gwybodaeth i’r wasg

Mae croeso i’r wasg yng ngwrandawiadau’r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol. Ni chaniateir recordio’r gwrandawiad. Gofynnir i’r wasg a’r cyhoedd beidio â siarad na symud o gwmpas yn ystod y gwrandawiad.

Gellir darparu’r cyhuddiadau sy’n wynebu osteopath ar gais ar ôl iddynt gael eu darllen allan ar ddechrau’r achos. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, dylech siarad â’r swyddog gwrandawiadau neu’r clerc, ond dim ond pan nad ydynt yn brysur yn hwyluso trefniadau’r gwrandawiad.

Gwybodaeth i arsylwyr

Os hoffech fynychu gwrandawiad cyhoeddus fel arsylwr, anfonwch e-bost at regulation@osteopathy.org.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon e-bost erbyn 12pm y diwrnod gwaith olaf cyn y gwrandawiad. Er enghraifft, os yw’r gwrandawiad ar ddydd Llun, anfonwch e-bost atom erbyn 12pm y dydd Gwener cynt.

Wrth anfon e-bost atom, rhowch eich enw, eich cysylltiad â’r osteopath (os o gwbl), a’r diwrnod/diwrnodau gwrandawiad yr hoffech eu harsylwi. Rhaid i chi hefyd gadarnhau yn eich e-bost eich bod wedi darllen yr adran ‘gwybodaeth i arsylwyr’ hon ar ein gwefan. Yna bydd ein Cydlynydd Gwrandawiadau yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i chi fynychu.

Os yw’r gwrandawiad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb, rhaid i chi aros yn y dderbynfa nes eich bod yn cael eich galw i mewn i eistedd yn ystafell y gwrandawiad.

Bydd y Cydlynydd Gwrandawiadau yn anfon dolen atoch os yw’r gwrandawiad yn cael ei gynnal o bell. Drwy gydol y gwrandawiad o bell, disgwylir i arsylwyr ddilyn y canllawiau gwrandawiad [LINK] ar yr ymddygiad a ddisgwylir fel arsylwr. Yn benodol, rhaid i arsylwyr aros wedi’u ‘tewi’ gyda’u meicroffonau a’u camerâu wedi’u diffodd bob amser. Rhaid i arsylwyr hefyd osgoi tynnu sylw unrhyw un o gyfranogwyr y gwrandawiad mewn unrhyw ffordd arall. Os bydd arsylwr yn torri ar draws neu’n tarfu ar y gwrandawiad, gall y Cadeirydd ddweud wrth arsylwyr am adael a/neu gyfyngu ar arsylwyr. 

Os oes angen cymorth arnoch cyn y gwrandawiad neu os oes gennych unrhyw broblemau technegol, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod cyn gynted â phosibl.