Adfer i’r Gofrestr

Gall osteopath sy’n cael ei dynnu oddi ar Gofrestr y Cyngor Osteopathig Cyffredinol am resymau addasrwydd i ymarfer wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl cyfnod o ddeng mis. Mewn achosion o’r fath, rhaid cyfeirio’r cais am adfer i’r Gofrestr i’r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol. Mater i’r Pwyllgor yw penderfynu’r canlyniad, yn hytrach na bod yr achos yn cael ei ystyried gan y Cofrestrydd.