Apeliadau
Gellir apelio yn erbyn penderfyniadau gan y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol. Gall yr osteopath dan sylw neu’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wneud apêl.
Osteopathiaid
Mae adran 31 o Ddeddf Osteopathiaid 1993 (fel y’i diwygiwyd yn 2014) yn darparu gwybodaeth i osteopath am apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol. Caniateir gwneud apêl i un neu ragor o’r llysoedd canlynol:
- Yr Uchel Lys Cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr
- Llys Sesiwn yn yr Alban
- Yr Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon.
Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
Ers 31 Rhagfyr 2015, mae adran 29 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (fel y’i diwygiwyd) yn darparu y gall yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol apelio yn erbyn penderfyniadau Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol y Cyngor Osteopathig Cyffredinol os yw’n ystyried nad yw’r penderfyniad yn ddigonol ar gyfer diogelu’r cyhoedd.