Rydym ni’n derbyn tua 75 o bryderon am osteopathiaid y flwyddyn ac mae tua 25 o’r pryderon hynny’n mynd drwodd i’r Pwyllgor Ymchwilio i’w hystyried, gyda dim ond tua hanner y rhain yn mynd yr holl ffordd i’r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol. Ein nod yw bwrw ymlaen â phryderon cyn gynted â phosibl, gan sicrhau lefel uchel o ofal i bawb dan sylw. Mae pryder yn cael ei adolygu gan Sgriniwr o fewn 9 wythnos ar ôl iddo ddod i law. Mae tua hanner yr achosion a adolygir gan Sgriniwr yn cael eu cau heb unrhyw gamau pellach.

Pan fyddwn ni’n derbyn pryder, rydym yn ystyried a oes gennym ddigon o wybodaeth i’w anfon at sgriniwr (gweler ‘Sgrinio pryder’ isod). Weithiau, efallai y bydd angen i ni gasglu mwy o wybodaeth fel bod gennym ddigon o fanylion i’r pryder gael ei ystyried yn effeithiol gan sgriniwr.