Esboniad o gamau’r ymchwiliad

Mae ein llinellau amser enghreifftiol ar y dudalen hon yn dangos sut mae achos nodweddiadol yn symud ymlaen o wythnos i wythnos, o’r adeg y byddwn yn derbyn y pryder.

Pan fyddwn ni’n derbyn pryder, ac unwaith y byddwn yn fodlon bod gennym ddigon o fanylion, bydd osteopath annibynnol (a elwir yn ‘sgriniwr’) yn adolygu’r pryder neu bryderon i ystyried a all y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ymchwilio. Mae’r sgriniwr yn defnyddio ein canllawiau ar feini prawf trothwy ar ymddygiad proffesiynol annerbyniol i wneud ei benderfyniadau.

Mae’r canllawiau’n rhestru rhai o’r mathau o bryderon na fyddent yn cael eu hymchwilio fel arfer am na fyddent yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol. Gall y sgriniwr gyfeirio at ein Gweithdrefn Cau Cychwynnol a’n Canllawiau ar gyfer Sgrinwyr hefyd.

Byddwn yn cysylltu â’r person a gododd y pryder i ofyn am wybodaeth bellach er mwyn helpu’r sgriniwr i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

Ni fydd y sgriniwr yn cau pryder heb siarad ag aelod lleyg o’n Pwyllgor Ymchwilio (sef aelod o’n Cyngor nad yw’n osteopath). Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol pan fydd pryder wedi cau o dan y Weithdrefn Cau Gychwynnol.

Os na allwn ni ymdrin â’ch pryder

Os ydyn ni’n gweld na allwn ni ymdrin â’ch pryder, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud pam. Efallai nad yw eich honiadau’n gyfystyr â thorri safonau proffesiynol, am nad ydynt yn berthnasol i waith yr osteopath, neu ei bod yn annhebygol y bydd yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi’r pryder.

Mae achosion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ymchwilio o fewn 26 wythnos ar ôl derbyn y pryder. Mae’r Pwyllgor Ymchwilio yn cau 41% o’r achosion y mae’n eu hystyried.

Ar ôl i ni ddechrau ymchwilio i bryder, byddwn yn cysylltu â’r osteopath rydych wedi mynegi pryder yn ei gylch fel arfer, ac yn gofyn am ei ymateb. Efallai y bydd angen i ni gymryd datganiad tyst gennych chi am eich pryder, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn. Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth gan bobl eraill fel rhan o’r ymchwiliad hefyd. Er enghraifft, os yw’ch pryder yn ymwneud â’ch cyflwr meddygol, efallai y bydd angen i ni weld copïau o’ch cofnodion meddygol gan ymarferwyr eraill, fel eich meddyg.

Yna, byddwn yn gofyn i’n Pwyllgor Ymchwilio edrych ar yr holl wybodaeth a gasglwyd. Mae’r pwyllgor hwn yn cynnwys osteopathiaid ac aelodau lleyg (nad ydynt yn osteopathiaid) ac yn cael ei gadeirio gan berson lleyg. Efallai y byddan nhw’n gofyn am fwy o wybodaeth gennych chi, yr osteopath neu bobl eraill, fel eich meddyg.

Bydd y pwyllgor yn penderfynu a yw’r holl wybodaeth sydd wedi’i chasglu yn cefnogi eich pryder ac a fyddai’r honiadau yn gyfystyr ag unrhyw un o’r canlynol:

  • ymddygiad proffesiynol annerbyniol
  • anghymhwysedd proffesiynol
  • euogfarn droseddol yn y DU sy’n berthnasol i waith yr osteopath
  • cyflwr meddygol sy’n effeithio’n ddifrifol ar allu’r osteopath i ymarfer.

Os yw’r Pwyllgor Ymchwilio’n credu nad yw’r pryder yn awgrymu unrhyw un o’r rhain, bydd yn dod i’r casgliad nad oes achos i’w ateb ac ni fydd yn ystyried y pryder mwyach. Byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych pam y daeth y pwyllgor i’r penderfyniad hwn. Os bydd y pwyllgor yn dod i’r casgliad bod achos i’w ateb, byddwn yn trefnu gwrandawiad cyhoeddus ac yn cyfarwyddo ein cyfreithwyr i baratoi’r achos yn erbyn yr osteopath.

Bydd Canllawiau ar Benderfyniadau’r Pwyllgor Ymchwilio  a’r canllawiau ar y meini prawf trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn helpu’r Pwyllgor Ymchwilio i benderfynu a oes gan yr osteopath achos i’w ateb.

Gorchmynion atal dros dro

Dim ond mewn achosion sy’n ymwneud â materion ffiniau rhywiol sylweddol iawn, cyhuddiadau’r heddlu am drosedd ddifrifol neu sefyllfaoedd pan fo gofal cleifion yn disgyn i safonau isel y gallai osteopath gael ei atal rhag ymarfer nes bod yr achos wedi’i gwblhau. Gelwir hyn yn orchymyn atal dros dro (ISO). Dim ond y Pwyllgor Ymchwilio sy’n gallu gwneud penderfyniad i atal dros dro.

Mae pwyllgorau addasrwydd i ymarfer yn defnyddio’r Canllawiau ar Osod Gorchmynion Atal Dros Dro wrth ystyried a ddylid gosod gorchymyn atal dros dro. Gall y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a’r Pwyllgor Iechyd benderfynu gosod gorchymyn atal dros dro hefyd wrth ddisgwyl am apêl yn erbyn penderfyniad.

Gorffen achos heb wrandawiad (Rheol 8)

Mewn rhai amgylchiadau, gall achosion y mae’r Pwyllgor Ymchwilio wedi’u cyfeirio at y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ddod i ben heb wrandawiad. Mae’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â’r mathau hyn o achosion i’w gweld yn Rheol 8 o Reolau’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol) (Gweithdrefn). Dim ond os yw’r achos yn bodloni meini prawf penodol, ac os yw’r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol o’r farn y byddai cosb o gerydd yn briodol, y bydd y Pwyllgor yn ystyried defnyddio’r weithdrefn hon.

Cyn penderfynu a ddylid defnyddio’r weithdrefn ai peidio, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ystyried barn yr achwynydd a’r osteopath. Rhaid i’r osteopath gytuno y gellir ystyried yr achos heb wrandawiad, a rhaid iddo fod yn barod i dderbyn y ffeithiau a’r honiadau yn ei erbyn yn llawn. Bydd penderfyniad y Pwyllgor yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn y ffordd arferol.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn a’r meini prawf ar gyfer gwaredu achos o dan Reol 8, a’r gweithdrefnau dan sylw, gweler Nodyn Ymarfer y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol – Gwaredu Cydsyniol: Rheol 8.

Y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol

Os yw’r pryder yn ymwneud ag ymddygiad neu gymhwysedd proffesiynol osteopath, neu euogfarn droseddol sy’n berthnasol i’w waith, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ei glywed. Efallai y bydd angen i chi fynychu’r gwrandawiad fel tyst i roi tystiolaeth ar lw am eich pryder. Gweler yr adran Gwrandawiadau am ragor o wybodaeth am wrandawiadau a beth sy’n digwydd ar ôl gwrandawiad.

Y Pwyllgor Iechyd

Caiff pryderon am iechyd meddwl neu gorfforol osteopath eu trosglwyddo i’r Pwyllgor Iechyd, sy’n cynnwys osteopathiaid a rhai nad ydynt yn osteopathiaid ac o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig. Gall y pwyllgor hwn edrych ar achosion heb gynnal gwrandawiad. Mae’n cyfarfod yn breifat oherwydd bod yn rhaid iddo ystyried cyflwr meddygol osteopath.

Os oes pryderon difrifol am iechyd yr osteopath, efallai y bydd y pwyllgor yn gofyn i’r osteopath fodloni rhai amodau. Mae Canllawiau i’r Pwyllgor Iechyd ar Lunio Gorchmynion Amodau Ymarfer ar gael i helpu’r pwyllgor os yw’n penderfynu gosod Amodau Ymarfer. Hefyd, gall y pwyllgor atal yr osteopath rhag gweithio am amser penodol trwy atal ei gofrestriad dros dro.

Mae gwybodaeth am y broses gwrandawiadau a mynychu gwrandawiad yn yr adran Gwrandawiadau.