Beth allwn ac na allwn roi cymorth yn ei gylch

Beth allwn ni ymchwilio iddo

Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i edrych ar bryderon:

Yr hyn na allwn ymchwilio iddo

Mae ein meini prawf trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn esbonio’r mathau o bryderon na allwn ymchwilio iddynt, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:

Meini Prawf Trothwy ar gyfer Ymddygiad Proffesiynol Annerbyniol

Cymeradwywyd gan y Cyngor ar 4 Chwefror 2015

  1. Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi arweiniad i achwynwyr a chofrestrwyr, ac i Bwyllgor Sgrinwyr ac Ymchwilio’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC), ynghylch y mathau o faterion a gaiff eu hystyried o dan weithdrefnau addasrwydd i ymarfer y GOsC.
  2. Yn unol â’i amcan cyffredinol1, nod gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer y GOsC yw diogelu’r cyhoedd. Ni fwriedir iddynt fod yn broses gyffredinol i ddatrys cwynion, nac i ddatrys anghydfodau sifil rhwng cofrestreion a chleifion.
  3. Mae ymchwilio i honiadau yn drylwyr yn broses sy’n defnyddio llawer o adnoddau. Mae budd y cyhoedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i adnoddau o’r fath gael eu defnyddio’n effeithiol i ddiogelu’r cyhoedd ac ni ddylid eu dargyfeirio i ymchwilio i faterion nad ydynt yn peri pryder.
  4. Mae’r GOsC o’r farn bod y dull hwn yn ymateb cymesur i nifer y cwynion y mae’n eu derbyn, ac mae’n gyson â’r egwyddor o ‘reoleiddio priodol’ a hyrwyddir gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.
  5. Mae’r GOsC, mewn ymgynghoriad â’i randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y cyhoedd a chleifion, wedi llunio’r ‘meini prawf trothwy’ hyn.
  6. Bydd y meini prawf hyn yn arwain y Sgrinwyr wrth benderfynu a roddir pŵer gan Ddeddf 1993 i ymdrin â chwyn os gwelir bod rheswm da drosti2, a byddant yn arwain y Pwyllgor Ymchwilio wrth benderfynu a oes ‘achos i’w ateb’ ai peidio.

    1. Dywed Deddf Osteopathiaid 1993 mai ‘Ymddygiad Proffesiynol Annerbyniol’ yw ‘ymddygiad nad yw’n cyrraedd y safon sy’n ofynnol gan osteopath cofrestredig’.
    2. Mae’n dweud hefyd y dylid ystyried methiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Cod Ymarfer ond ni fydd, ynddo’i hun, yn gyfystyr ag Ymddygiad Proffesiynol Annerbyniol.
    3. Cafodd y trothwy ar gyfer a yw cwyn neu honiad yn gallu bod yn gyfystyr ag Ymddygiad Proffesiynol Annerbyniol ei bennu gan yr Uchel Lys yn achos Spencer v y Cyngor Osteopathig Cyffredinol:1
    4. A yw’r honiad yn deilwng o’r gwarth moesol a’r cyhoeddusrwydd sy’n deillio o ganfyddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol?
    5. Gan gymhwyso’r trothwy hwn, mae materion nad ydyn nhw’n gallu bod yn gyfystyr ag Ymddygiad Proffesiynol Annerbyniol fel arfer, ac felly nad ydynt yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol gan amlaf, yn cynnwys:
    Cwynion am gymryd nodiadau a chadw cofnodion yn unigYn absenoldeb y canlynol:
    i. ‘ anghymhwystra neu esgeulustod lefel uchel’; neu
    ii. tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â deddfwriaeth llywodraethu gwybodaeth berthnasol megis Deddf Diogelu Data 1998 (ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol neu ddiwygio)
    Cwynion nad ydynt yn dod o fewn rhesymau statudol adran 20 o Ddeddf Osteopathiaid 1993
    Cwynion blinderus, gan gynnwys lle mae’r achwynydd:
    i. yn methu dro ar ôl tro â nodi’r union faterion y mae ef neu hi am gwyno amdanyn nhw;
    ii. yn newid sylwedd y gŵyn yn aml neu’n ceisio codi materion newydd yn barhaus; neu
    iii. yn ymddangos ei fod wedi cyflwyno’r gŵyn i gythruddo neu darfu ar y cofrestrydd, a dim rheswm arall
    Cwynion sydd wedi’u gwneud yn ddienw ac na ellir eu gwirio fel arall
    Cwynion lle mae’r achwynydd yn gwrthod cymryd rhan a darparu tystiolaeth a lle na ellir gwirio neu brofi’r honiad fel arall
    Cwynion sy’n ymwneud ag anghydfodau rhwng cofrestreion a chleifion ynghylch ffioedd neu gostau triniaethAr yr amod nad oes honiad o anonestrwydd neu fwriad i dwyllo
    Cwynion sy’n:
    i. ceisio ailagor materion sydd wedi bod yn destun proses tribiwnlys cyflogaeth neu achos sifil eisoes;
    ii. ceisio rhagdybio neu ddylanwadu ar ganlyniad achosion rheoleiddiol neu sifil eraill; neu
    iii. yn perthyn yn fwy priodol o fewn awdurdodaeth rheoleiddiwr arall (e.e. yr Awdurdod Safonau Hysbysebu) a dylent fod wedi’u gwneud i’r rheoleiddiwr hwnnw
    Cwynion sy’n gyfystyr â gwahaniaeth barn broffesiynolAr yr amod bod y farn:
    i. yn cael ei derbyn fel barn briodol a chyfrifol gan gorff cyfrifol o osteopathiaid sy’n fedrus yn y maes ymarfer penodol hwnnw ac sy’n gweithredu’n gyfrifol; ac
    ii. yn cael ei dal yn rhesymol ac yn gallu gwrthsefyll dadansoddiad rhesymegol
    Cwynion sy’n ymwneud ag anghydfodau cyflogaeth
    Cwynion sy’n ymwneud ag anghydfodau cytundebol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer prydlesu eiddo a chyfleusterau
    Cwynion sy’n ymwneud ag anghydfodau busnes, gan gynnwys:
    i. defnyddio enwau parth gwe neu enwau masnachu neu rai sy’n swnio’n debyg;
    ii. ‘dwyn cleifion’; a
    iii. materion sy’n deillio o chwalu perthynas pennaeth/cyswllt
    Ar yr amod nad oes honiad o dorri cyfrinachedd cleifion neu faterion diogelu data
    Cwynion am fywyd personol unigolyn cofrestredig (gan gynnwys materion sy’n codi o achos ysgariad)Oni bai bod y gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad neu drais camdriniol, neu ymddygiad sy’n dwyn anfri ar y proffesiwn
    Cwynion heb unrhyw oblygiadau diogelu’r cyhoedd ond sy’n cael eu gwneud am ddim rheswm heblaw bod yr achwynydd yn ymwybodol bod y parti arall i anghydfod yn unigolyn cofrestredig (e.e. anghydfodau am ffiniau rhwng cymdogion)
    Y troseddau gyrru canlynol:
    i. torri hysbysiadau parcio a hysbysiadau tâl cosb; a
    ii. cosb benodedig (a chosb benodedig: cynnig amodol) am droseddau moduro
    Ar yr amod nad yw cyffuriau neu alcohol yn gysylltiedig â’r drosedd ac nad oes unrhyw broblemau iechyd posibl mewn perthynas â’r unigolyn cofrestredig
    Cosb o dan gynllun tocyn cosb trafnidiaeth gyhoeddus