Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mynegi pryder

Pan fyddwn yn derbyn pryder, byddwn yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y pryder. Unwaith y byddwn yn fodlon bod gennym ddigon o fanylion, bydd osteopath annibynnol (a elwir yn ‘sgriniwr’) yn adolygu’r pryder i ystyried a all y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ymchwilio iddo. Gall hyn fel arfer gymryd hyd at 8 wythnos. 

Os gallwn ni ymchwilio

Yna mae achosion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ymchwilio o fewn 26 wythnos i’r pryder gael ei fynegi i’r Cyngor gyntaf.

Bydd y pwyllgor yn penderfynu a yw’r holl wybodaeth a gasglwyd yn cefnogi’r pryder ac a fyddai’r honiadau yn gyfystyr ag unrhyw un o’r canlynol:

Os yw’r pryder yn ymwneud ag ymddygiad neu gymhwysedd proffesiynol osteopath, neu euogfarn droseddol sy’n berthnasol i’w waith, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ei glywed mewn gwrandawiad. Fel arfer, gall gymryd 24 wythnos arall nes bod penderfyniad yn cael ei wneud am ganlyniad ymchwiliad.