Gwrandawiadau ar-lein
Yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth ymarferol pan fydd ein gwrandawiadau’n cael eu cynnal o bell.
Cynhelir y mwyafrif o wrandawiadau ar-lein y Cyngor Osteopathig Cyffredinol trwy GoToMeeting. Byddwch yn cael dolenni perthnasol i GoToMeeting o leiaf wythnos cyn y gwrandawiad.
Bydd partïon achos (h.y. y cofrestrai, y cynrychiolydd) yn ogystal â’r panel hefyd yn cael papurau gwrandawiad trwy ‘CaseLines’, sef platfform rhannu dogfennau rydym ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ein gwrandawiadau. Mae’n becyn meddalwedd ar-lein diogel a phwrpasol ar gyfer rheoli tystiolaeth ddogfennol a adolygir mewn gwrandawiadau rhithwir (darperir gwybodaeth benodol am sut i ddefnyddio CaseLines isod).
Mae’r dogfennau yn cael eu lanlwytho i CaseLines gan y rheolwr achos o leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad.
Nid yw copïau caled o’r papurau fel arfer yn cael eu darparu. Fodd bynnag, os oes angen copïau caled am resymau hygyrchedd, rhowch wybod i glerc y gwrandawiad. Gwnewch yn siŵr y gallwch fynychu’r gwrandawiad mewn lle tawel, preifat. Os yw’n bosibl, fe’ch anogir i wisgo clustffonau.
Bydd y Rheolwr Achos yn nodi a oes angen hyfforddiant CaseLines a bydd yr hyfforddiant hwn, ochr yn ochr â galwad brawf, yn cael ei gynnal cyn y gwrandawiad. Gofynnir i unigolion cofrestredig a thystion mewn gwrandawiad o bell neu gyfunol gymryd rhan mewn galwad brawf gyda chlerc y gwrandawiad.
Y dewis o blatfform a ddefnyddir gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar gyfer gwrandawiadau o bell yw GoToMeeting. Efallai y byddwn yn defnyddio Microsoft Teams o bryd i’w gilydd os oes angen gan nad yw’r platfform Go-To-Meeting yn caniatáu i ddau wrandawiad gael eu cynnal yr un pryd. Yn yr achos hwn, cynhelir gwrandawiad ar MS Teams. Pwrpas yr alwad brawf yw gwirio bod pob cyfranogwr yn gallu cysylltu â’r fideogynhadledd a bod y cysylltiad cyffredinol, y meicroffon a’r camera yn gydnaws â’r platfform rhithwir ac unrhyw blatfform rhannu dogfennau a ddefnyddir o dro i dro.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu agor GoToMeeting a CaseLines a’ch bod wedi darllen trwy’r papurau.
Bydd yr alwad brawf yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ystyried eu cefndir gweledol/ffisegol ar gyfer yr alwad. Rydym yn argymell bod cyfranogwyr yn gosod eu camerâu mewn man lle mae’r cefndir yn niwtral, os oes modd.
Dylai cyfranogwyr hefyd ystyried ble maen nhw am leoli eu hunain ar gyfer y gwrandawiad. Dylai cyfranogwyr sicrhau eu bod mewn ystafell dawel ar eu pen eu hunain (oni bai mai’r unigolyn cofrestredig yw’r cyfranogwr a bod ei gynrychiolydd gydag ef) lle na fydd unrhyw beth yn tarfu arnynt gydol eu hamser yn y gwrandawiad.
Efallai y bydd y Cadeirydd am gadarnhau gyda thyst a yw ar ei ben ei hun yn yr ystafell a chadarnhau nad yw’n derbyn unrhyw gymorth. Pan fydd y tyst yn cael cymorth gan ffrind neu aelod o’r teulu, dylai’r unigolyn hwn ymddangos ar y sgrin gan eistedd y tu ôl i’r tyst sy’n rhoi tystiolaeth.
Dylai cyfranogwyr roi gwybod i’r Rheolwr Achos os bydd ganddynt gefnogwr gyda nhw cyn i’r gwrandawiad ddechrau. Efallai y bydd y Cadeirydd yn gofyn iddynt gyflwyno eu hunain. Fodd bynnag, os yw’r Rheolwr Achos yn ymwybodol bod cefnogwr yn mynychu, bydd yn rhoi gwybod i glerc y gwrandawiad, a fydd wedyn yn rhoi gwybod i’r Cadeirydd.
Dylid gwirio golau’r ystafell adeg yr alwad brawf. Mae’n bwysig bod digon o olau fel bod modd gweld cyfranogwyr yn glir heb rwystrau ar y sgrin. Dylai’r cyfranogwyr gofio bod gwrandawiadau o bell yr un mor ffurfiol â gwrandawiadau yn y cnawd ac y dylai eu dillad fod yn briodol i adlewyrchu hyn.
Cyn i’r gwrandawiad ddechrau, dylai cyfranogwyr sicrhau bod ganddynt bapurau’r gwrandawiad ar agor. Gallent agor y rhain ar ddyfais wahanol i’r un y maent yn ei ddefnyddio i ymuno â’r gwrandawiad, os yw’r opsiwn hwn ar gael iddynt.
Gofynnir i’r holl gyfranogwyr (ac eithrio’r tystion) ymuno â’r gwrandawiad o leiaf 15 munud cyn yr amser cychwyn er mwyn sicrhau bod eu cysylltiad cyffredinol yn gweithio’n ddidrafferth ac i osgoi oedi ar ddechrau’r gwrandawiad.
Bydd diwrnod cyntaf unrhyw wrandawiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar-lein yn dechrau am 9:30am, felly dylai cyfranogwyr anelu i fod wedi mewngofnodi erbyn 9:15am. Bydd amseroedd cychwyn diwrnodau dilynol y gwrandawiad yn cael eu cadarnhau gan y Cadeirydd ar ddiwedd pob diwrnod.
Gall cyfranogwyr ymuno â’r gwrandawiad trwy glicio ar y ddolen a ddarparwyd iddynt gan glerc y gwrandawiad gyda’r cyfarwyddiadau ymuno.
Unwaith y bydd y cyfranogwyr wedi cysylltu’n llwyddiannus, gallant ddiffodd eu meicroffon a’u camera nes y bydd y gwrandawiad yn cychwyn.
Cyn y gwrandawiad, bydd y Cyngor yn trefnu tair ystafell gyfarfod rithwir ar gyfer y gwrandawiad:
- Y cyntaf fydd y ‘ystafell y gwrandawiad’, lle bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal.
- Yr ail fydd ‘ystafell y panel’, lle bydd y panel yn mynd i drafod a gwneud eu penderfyniad.
- Y drydedd fydd ‘ystafell gyfarfod yr eiriolwyr’, lle mae cyflwynwyr yr achos a/neu osteopath heb gynrychiolaeth yn gallu cyfarfod â’r asesydd cyfreithiol pan fydd egwyl yn y gwrandawiad os oes angen.
Bydd pob cyfranogwr yn derbyn dolen i ystafell y gwrandawiad. Bydd aelodau’r panel a’r Asesydd Cyfreithiol yn derbyn dolen i ystafell y panel hefyd. Bydd cyflwynwyr yr achos, partïon yr achos a’r asesydd cyfreithiol yn derbyn dolen i ystafell gyfarfod yr eiriolwyr hefyd. Unwaith y bydd partïon wedi ymuno â’r gwrandawiad yn llwyddiannus, dylent adael eu camera ymlaen ond diffodd eu microffon. Mae hyn yn sicrhau cyn lleied â phosibl o sŵn cefndir ac adborth.
- Aelodau’r pwyllgor addasrwydd i ymarfer
- Partïon achos
- Cynrychiolwyr cyfreithiol
- Yr asesydd cyfreithiol
- Tystion
- Staff gwrandawiadau’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Bydd y Cadeirydd yn atgoffa partïon a thystion mewn iaith glir bod gwrandawiad o bell yn dribiwnlys ffurfiol a bod disgwyl iddynt ymddwyn yn unol â hynny. Bydd y partïon yn cytuno i gynnal y gwrandawiad o bell mewn modd sy’n gyson ag egwyddorion tegwch, cydweithio a didwylledd.
Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno pawb ac yn sefydlu protocol siarad o’r cychwyn. Bydd cyfranogwyr, pan gânt eu cyflwyno, yn cydnabod y cyflwyniad drwy gadarnhau eu presenoldeb at ddibenion y recordiad.
Bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, yr asesydd cyfreithiol a’r partïon yn rhagweithiol mewn perthynas â gwrandawiadau o bell. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le (er enghraifft, cyfranogwr allweddol yn mynd oddi ar lein, neu gysylltiad rhywun yn methu) dylai’r Cyngor oedi nes bod y broblem wedi’i datrys.
Unwaith y bydd partïon wedi ymuno â’r gwrandawiad yn llwyddiannus, dylent adael eu camera ymlaen ond diffodd eu microffon. Mae hyn yn sicrhau cyn lleied â phosibl o sŵn cefndir ac adborth.
Sylwer: Ni chaniateir i gyfranogwyr recordio trafodion gan gynnwys tynnu ‘sgrin lun’ o’r cyfranogwyr eraill. Dim ond y Cyngor Osteopathig Cyffredinol sydd â’r hawl statudol i wneud recordiad ffurfiol at ddibenion trawsgrifiad. Os nad yw unigolyn yn y cyfarfod yn gallu cydymffurfio, caiff ei dynnu oddi ar ddolen y gwrandawiad heb rybudd a/neu yn ôl disgresiwn Cadeirydd y panel.
Bydd y Cadeirydd yn sicrhau ei fod yn gallu gweld pawb ar ei sgrin ac yn cadw golwg gydol y gwrandawiad am unrhyw arwydd bod cyfranogwr yn dymuno siarad.
Bydd cyfranogwyr yn siarad yn eu tro gyda’r Cadeirydd yn eu gwahodd i wneud hynny. Mae hyn yn sicrhau bod pob cyfranogwr yn gallu dilyn y trafodion yn hawdd. Dylai’r holl gyfranogwyr fod yn ymwybodol o’r perygl o ‘siarad ar draws’ ei gilydd a gochel rhag gwneud hynny. Gall fod oedi pan fydd cyfranogwyr ar-lein yn siarad a dylai cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn sgwrs ar ffurf holi ac ateb ystyried hyn.
Wrth gael gwahoddiad i siarad, dylai cyfranogwyr droi’r meicroffon ymlaen cyn dechrau siarad a’i ddiffodd ar ôl gorffen. Mae hyn yn bwysig iawn pan fo cyfranogwyr mewn gwrandawiad o bell yn bresennol yn yr un ystafell ffisegol, er enghraifft, osteopath a chynrychiolwyr. Bydd hyn yn osgoi adborth sain (atsain, statig) yn ystod y gwrandawiad.
Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau yn gyhoeddus oni bai fod y gwrandawiad yn digwydd gerbron y Pwyllgor Iechyd, neu fod y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn gorchymyn i’r gwrandawiad cyfan neu ran ohono gael ei glywed yn breifat. Dylai gwrandawiadau o bell gerbron y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol barhau i fod yn wrandawiadau cyhoeddus cyn belled ag sy’n bosibl. Pan fo aelod o’r cyhoedd yn mynychu’r gwrandawiad rhithwir, dylai’r Cadeirydd ei wahodd i gyflwyno’i hun cyn i’r gwrandawiad agor yn ffurfiol.
Bydd y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ystyried bod canolbwyntio am oriau maith o flaen sgrin yn gallu bod yn flinedig ac yn gallu effeithio ar allu’r holl gyfranogwyr i gyfathrebu’n effeithiol. Dylai’r Cadeirydd ganiatáu saib o dro i dro ar adegau cyfleus yn ystod diwrnod y gwrandawiad.
Pan fo angen rhoi cyfarwyddiadau dros y ffôn, dylai’r Cadeirydd ganiatáu egwyl fer fel y gall cyflwynwyr yr achos dderbyn cyfarwyddiadau os oes angen.
Pan fo angen cyfathrebu dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy e-bost yn ystod gwrandawiad, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod pawb wedi distewi eu ffôn, rhag tarfu ar y gwrandawiad.
Trafodaethau cyflwynwyr yr achos
Weithiau yn ystod gwrandawiad mae angen i gyflwynwyr yr achos siarad â’i gilydd, ym mhresenoldeb y cynghorydd cyfreithiol, i drafod ceisiadau cychwynnol, pwyntiau proses ac ati. Ar gyfer gwrandawiadau o bell, gellir cynnal y trafodaethau hyn yn ystafell gyfarfod yr eiriolwyr.
Ystafell gyfarfod rithwir arall yw ystafell gyfarfod yr eiriolwyr, y gellir mynd iddi drwy ddefnyddio’r ail ddolen a ddarperir gan glerc y gwrandawiad i bartïon yr achos, cyflwynwyr yr achos a’r asesydd cyfreithiol. Os bydd un parti am drafod unrhyw fater gyda’r parti arall, dylent roi gwybod i glerc y gwrandawiad. Bydd y clerc yn hysbysu partïon yr achos a’r asesydd cyfreithiol ac yn gofyn iddynt ymuno ag ystafell gyfarfod yr eiriolwyr.
Bydd y gwrandawiad yn dechrau gyda chadeirydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn cyflwyno ei hun a phawb arall sy’n bresennol yn yr ystafell.
Gofynnir i’r unigolyn cofrestredig gadarnhau ei enw.
Gofynnir i gyflwynydd yr achos ddarllen yr honiad yn erbyn yr unigolyn cofrestredig.
Yna bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn gofyn i’r unigolyn cofrestredig gadarnhau a yw’n cyfaddef unrhyw un o’r ffeithiau a honnir. Os yw’n cyfaddef unrhyw un o’r ffeithiau a honnir, bydd y ffeithiau hynny wedi’u profi.
Os bydd yr unigolyn cofrestredig yn cyfaddef yr holl ffeithiau a honnir, bydd y Cadeirydd yn cyhoeddi’n ffurfiol bod yr holl ffeithiau wedi’u derbyn a’u profi. Yna bydd y Pwyllgor yn symud ymlaen i’r cam nesaf o benderfynu a oedd y ffeithiau a brofwyd yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Os yw’r unigolyn cofrestredig yn anghytuno â rhai neu bob un o’r ffeithiau a honnir, bydd y cyflwynydd achos yn agor yr achos yn ffurfiol.
Bydd cyflwynydd yr achos yn cyflwyno’r dystiolaeth i gefnogi achos y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn gyntaf. Gall alw unrhyw dystion yn yr achos a gofyn cwestiynau iddynt ar ôl i’r tystion dyngu llw neu roi cadarnhad. Y prif holiad yw’r enw ar hyn.
Yna bydd yr unigolyn cofrestredig neu ei gynrychiolydd cyfreithiol yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r tystion. Croesholiad yw’r enw ar hyn.
Unwaith y bydd yr unigolyn cofrestredig a’r cynrychiolydd cyfreithiol wedi gofyn eu holl gwestiynau, efallai y bydd cyflwynydd yr achos yn gofyn cwestiynau pellach i’r tystion.
Unwaith y bydd y tystion wedi rhoi tystiolaeth, bydd y Cadeirydd yn eu rhyddhau’n ffurfiol fel tystion. Efallai y bydd rhai tystion yn dewis aros am weddill y gwrandawiad. Os felly, gofynnir iddynt aros yn dawel am weddill y gwrandawiad.
Ar ôl i bob un o’n tystion roi tystiolaeth, bydd y cadeirydd yn gofyn i’r unigolyn cofrestredig neu ei gynrychiolydd cyfreithiol agor eu hachos.
Yn y cam hwn, gall yr unigolyn cofrestredig neu ei gynrychiolydd cyfreithiol alw eu tystion i roi tystiolaeth ar lw yn ôl eu cred grefyddol, neu roi cadarnhad (datganiad difrifol) os nad yw’r tyst eisiau tyngu llw.
Bydd angen i’r unigolyn cofrestredig neu ei gynrychiolydd cyfreithiol ofyn cwestiynau i’ch tystion yn gyntaf. Yna, bydd cyflwynydd ein hachos yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’w tystion.
Efallai y bydd gan y pwyllgor gwestiynau i’r tystion hefyd.
Gall yr unigolyn cofrestredig roi tystiolaeth ar lw (neu gadarnhad) hefyd. Os bydd yn rhoi tystiolaeth, gall cyflwynydd yr achos a’r pwyllgor ofyn cwestiynau iddo.
Datganiadau cloi
Unwaith y bydd yr unigolyn cofrestredig ac, os yw’n berthnasol, ei dystion, wedi rhoi tystiolaeth ac yn cael eu rhyddhau fel tystion, gwahoddir y ddau barti i wneud datganiadau cloi am yr achos. Bydd cyflwynydd yr achos yn gwneud ei ddatganiad cloi yn gyntaf, ac yna’r unigolyn cofrestredig neu ei gynrychiolydd cyfreithiol. Bydd y Pwyllgor yn cael cyngor cyfreithiol gan yr asesydd cyfreithiol cyn iddo ymneilltuo i wneud penderfyniad ar ffeithiau’r achos.
Yn wahanol i gyfranogwyr eraill mewn gwrandawiad, nid yw tystion yn ymuno â’r gwrandawiad o’r dechrau. Maent yn mynychu i roi eu tystiolaeth yn unig. Bydd y gweithiwr achos yn hysbysu’r tyst ymlaen llaw o’r amser y bydd yn debygol o gael ei alw. Dylai’r tyst sicrhau ei fod ar gael ar yr adeg a nodwyd gan y gweithiwr achos a’i bod yn bosibl cysylltu ag ef dros y ffôn neu e-bost.
Pan fydd y panel yn barod i glywed tystiolaeth y tyst bydd clerc y gwrandawiad yn cysylltu â’r tyst ac yn gofyn iddo ymuno ag ystafell y gwrandawiad.
Bydd y tyst wedi cadarnhau i’r Clerc Gwrandawiadau pa lw neu gadarnhad y mae’n dymuno ei ddefnyddio cyn y gwrandawiad, a bydd gofyn iddo ddarllen hwn cyn rhoi ei dystiolaeth.
Dylai aelodau’r panel droi at y Nodyn Ymarfer Interim ar Holi Tystion i gael canllawiau ar reoli tystiolaeth tystion.
Bydd gan y tyst gopi o’i ddatganiad tyst. Pan fo gofyn i’r tyst droi at ddogfennau o fewn y bwndel wrth gael ei holi gan y partïon, bydd yn cael mynediad cyfyngedig ar-lein i fersiynau wedi’u golygu o’r dogfennau. Bydd y tystion, y Pwyllgor a’r partïon yn gallu gweld y ddogfen neu’r rhif tudalen penodol ar yr un pryd drwy’r platfform ar lein. Fodd bynnag, ni fydd aelodau’r cyhoedd na’r wasg sy’n mynychu’r gwrandawiad yn gallu eu gweld.
Dylid rhoi cyfle i dystion gael seibiant yn gyson fel y gallant roi’r dystiolaeth orau un. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fynychu fel tyst yn ein canllawiau.
Os bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd am fynychu gwrandawiad, bydd dolen i’r cyfarfod yn cael ei darparu ar ei gyfer.
Os bydd rhan o’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn breifat, rhaid i aelodau o’r cyhoedd allgofnodi o ystafell y gwrandawiad am y rhan honno o’r gwrandawiad. Bydd clerc y gwrandawiad yn ‘cloi’r’ ystafell unwaith y bydd y cyhoedd wedi gadael, gan atal unrhyw un rhag ymuno â’r cyfarfod nes bydd y clo wedi’i agor. Bydd clerc y gwrandawiad yn hysbysu aelodau’r cyhoedd unwaith y bydd y gwrandawiad cyhoeddus wedi ailddechrau, ac yn datgloi’r ystafell er mwyn iddynt ailymuno â’r gwrandawiad.
Os oes unrhyw aelod o’r cyhoedd yn mynychu’r gwrandawiad, rhaid iddo ddiffodd ei feicroffon a’r camera trwy gydol y gwrandawiad. Dylai hefyd sicrhau nad yw’n tarfu ar unrhyw gyfranogwyr eraill mewn unrhyw ffordd.
Sylwer: Ni chaniateir i gyfranogwyr recordio trafodion gan gynnwys tynnu ‘sgrinlun’ o’r cyfranogwyr eraill. Dim ond y Cyngor Osteopathig Cyffredinol sydd â’r hawl statudol i wneud recordiad ffurfiol at ddibenion trawsgrifiad. Os nad yw unigolyn sy’n bresennol yn gallu cydymffurfio, caiff ei dynnu oddi ar ddolen y gwrandawiad heb rybudd a/neu yn ôl disgresiwn Cadeirydd y panel.
Ni chaniateir i unrhyw gyfranogwr recordio’r gwrandawiad (heblaw recordiad swyddogol y Cyngor) na chymryd sgrinlun o’r cyfranogwyr.
Os hoffech fynychu gwrandawiad cyhoeddus fel arsylwr, e-bostiwch regulation@osteopathy.org.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon e-bost erbyn 12pm ar y diwrnod gwaith olaf cyn y gwrandawiad. Er enghraifft, os yw’r gwrandawiad ar ddydd Llun, anfonwch e-bost atom erbyn 12pm y dydd Gwener cynt.
Wrth anfon e-bost atom, rhowch eich enw, eich perthynas (os o gwbl) â’r osteopath, a pha ddiwrnod(au) y gwrandawiad yr hoffech ei arsylwi. Rhaid i chi hefyd gadarnhau yn eich e-bost eich bod wedi darllen yr adran hon o’n gwefan. Yna bydd ein Cydlynydd Gwrandawiadau yn cysylltu â chi i wneud y trefniadau angenrheidiol i chi fod yn bresennol.
Os hoffech gefnogaeth gan ffrind neu aelod o’r teulu yn ystod y gwrandawiad, dylech roi gwybod i’r Rheolwr Achos cyn y gwrandawiad. Yn ystod y gwrandawiad, dylai’r unigolyn hwn ymddangos ar y sgrin gan eistedd y tu ôl i’r tyst syn rhoi tystiolaeth a dylid gallu gweld ei wyneb yn glir ar y sgrin. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Annibynnol yn helpu i gefnogi cleifion, tystion ac osteopathiaid sy’n mynd drwy’r broses addasrwydd i ymarfer. Mae’r cymorth y gall y Gwasanaeth Cymorth Annibynnol ei ddarparu ar gael drwy gydol y broses addasrwydd i ymarfer ac am dri mis ar ôl i’r achos rydych chi’n ymwneud ag ef ddod i ben.
Mae holl wrandawiadau’r Cyngor yn cael eu recordio. Ar ddechrau’r gwrandawiad bydd y clerc yn hysbysu cyfranogwyr bod y recordio ar fin cychwn. Bydd y cyfranogwyr yn clywed cyhoeddiad awtomatig yn cadarnhau bod y cyfarfod yn cael ei recordio. Bydd y sain a’r fideo yn cael eu recordio.
Pan fydd y panel yn gadael i wneud ei benderfyniad, bydd y recordiad yn cael ei ddiffodd. Bydd cyfranogwyr yn clywed cyhoeddiad awtomatig yn cadarnhau hyn hefyd. Ni chaniateir i gyfranogwyr wneud eu recordiad eu hunain neu gymryd ‘sgrinlun’ o’r gwrandawiad.
Er bod cyfarfodydd ar-lein yn gyffredin erbyn hyn, maen nhw’n dal i fod yn anghyfarwydd i lawer o bobl. Mae’r Panel a’r Cyngor hefyd yn cydnabod na fydd cystal sgiliau gan rai pobl wrth ddefnyddio technoleg. Mae’n egwyddor bwysig na ddylai anawsterau technolegol achosi straen neu effeithio’n andwyol ar allu tyst neu unigolyn cofrestredig i gymryd rhan yn llawn mewn achos.
Os yw cyfranogwyr yn cael unrhyw broblemau technegol yn ystod y gwrandawiad e.e. yn methu â chysylltu, bydd clerc y gwrandawiad yn ffonio neu’n e-bostio’r cyfranogwr fel arfer i’w dywys drwy’r problemau mae’n eu cael ac i wirio ei fod yn gallu ailgysylltu ar y ddolen. Mae’n bwysig bod gan y clerc yr holl fanylion cysylltu cyn y gwrandawiad i helpu i hwyluso hyn pe bai angen.
Os yw cyfranogwyr wedi’u datgysylltu o’r gwrandawiad ac yn methu ailgysylltu, dylent ffonio clerc gwrandawiad y Cyngor ar ei rif uniongyrchol, neu ffonio 020 7357 6655 est 236. Os oes unrhyw barti’n cael anawsterau technegol sy’n ei atal rhag cymryd rhan yn y gwrandawiad, mae’n rhaid oedi’r gwrandawiad er mwyn datrys y problemau.
Unwaith y bydd y gwrandawiad wedi’i drefnu, a phan fydd unigolyn cofrestredig yn gwrthwynebu cynnal gwrandawiad o bell neu yn y cnawd, dylai wneud cais, ynghyd ag anfon sylwadau ysgrifenedig, i’w hystyried gan Gadeirydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol cyn y gwrandawiad. Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu hystyried gan y Cadeirydd wrth benderfynu ar y fformat priodol. Bydd y Cadeirydd yn rhoi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.
O ran achosion sydd wedi eu pennu yn addas ar gyfer gwrandawiadau cyfunol neu o bell, byddwn yn ymgynghori â phob parti yn yr achos er mwyn sicrhau bod ganddynt y cyfarpar TG priodol i gymryd rhan lawn yn y gwrandawiad o bell. Pe bai unrhyw broblemau mynediad yn codi, gellir ystyried yr achos ar gyfer gwrandawiad cyfunol neu yn y cnawd yn lle hynny. Os yw tyst neu unigolyn cofrestredig yn fregus neu angen cymorth technegol er mwyn rhoi tystiolaeth, gellir gwneud trefniadau iddo fynychu lleoliad addas. Gall unigolyn cofrestredig roi tystiolaeth o swyddfa ei gynrychiolydd cyfreithiol hefyd neu swyddfeydd cwnsler os oes modd trefnu hynny.
Ym mhob cam o’r gwrandawiad, ar ôl gwrando ar unrhyw gyflwyniadau a thystiolaeth, bydd y Pwyllgor yn dod i benderfyniad yn breifat. Bydd y panel yn ymneilltuo i ystafell y panel i wneud hyn.
Cyn i’r partïon adael ystafell y gwrandawiad, dylai’r Cadeirydd roi awgrym o’r amser y bydd disgwyl iddynt ailymuno â’r gwrandawiad.
Wrth i’r trafodaethau ddigwydd, dylai’r Cadeirydd ddiweddaru’r clerc ynglŷn ag amser ailgychwyn y gwrandawiad. Bydd y clerc wedyn yn diweddaru’r partïon fel bo angen.
Cyfrifoldeb yr asesydd cyfreithiol yw cynhyrchu drafft cyntaf o resymau ysgrifenedig penderfyniad y panel i’r panel eu hystyried. Bydd yr asesydd cyfreithiol yn gwneud newidiadau i’r drafft fel bo angen hefyd. Gall yr asesydd cyfreithiol rannu’r penderfyniad drafft hwn gyda’r panel drwy rannu ei sgrin. Gellir clicio ar yr eicon sgrin yn y bar o fotymau yng nghanol gwaelod y sgrin. Neu gellir e-bostio drafftiau i glerc y gwrandawiad i’w lanlwytho i’r Pwyllgor. Nodwch fod rhaid e-bostio drafftiau mewn fformat wedi’i ddiogelu â chyfrinair. Bydd y clerc yn darparu cyfrinair ar gyfer hyn. Ar ôl i’r panel gwblhau eu trafodaethau preifat, a chytuno ar fersiwn derfynol o’r rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad, bydd y Cadeirydd yn hysbysu clerc y gwrandawiad. Bydd y clerc yn cysylltu â’r holl gyfranogwyr ac yn eu gwahodd i ailymuno â’r gwrandawiad. Dylai’r holl gyfranogwyr ddal i fod wrth law i ateb y ffôn neu e-bost yn ystod y sesiwn breifat er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dychwelyd yn brydlon i ystafell y gwrandawiad pan gysylltir â nhw. Pan fydd yr holl gyfranogwyr wedi ailymuno â’r gwrandawiad bydd y recordio yn ailgychwyn.
Ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben, mae’n rhaid i aelodau’r panel ddileu o’u dyfais(dyfeisiau) yr holl bapurau sydd wedi’u lawrlwytho. Mae hyn yn cynnwys dileu unrhyw eitemau yn y bin ailgylchu fel nad oes unrhyw wybodaeth gyfrinachol yn dal i fod ar eu cyfrifiaduron neu eu dyfeisiau eraill.
Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon at bob parti drwy e-bost a’i lanlwytho i wefan y Cyngor yn unol â’n Polisi Cyhoeddi Addasrwydd i Ymarfer. Mae pob parti’n cael ei annog i rannu adborth am broses y gwrandawiadau rhithwir ar ein ffurflen adborth.
Mae ein Polisi Cyhoeddi Addasrwydd i Ymarfer yn nodi sut, ac am ba hyd, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â phenderfyniadau ein pwyllgorau addasrwydd i ymarfer.
Byddwn yn cyhoeddi canfyddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a wnaed gan y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol (mewn gwrandawiad neu o dan y Weithdrefn Rheol 8) ar ein gwefan ac yn yr Adroddiad Addasrwydd i Ymarfer blynyddol. Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd, ond ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch iechyd na’ch cyflwr.
Defnyddio CaseLines
Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi canllawiau i gyfranogwyr y gwrandawiad ar sut i ddefnyddio nodweddion sylfaenol CaseLines yn ystod gwrandawiad.
Pecyn meddalwedd diogel wedi’i greu’n bwrpasol ar gyfer rheoli adolygiad o dystiolaeth mewn gwrandawiadau rhithwir yw CaseLines.
Mae’r canllawiau isod yn rhoi manylion nodweddion unigol CaseLines ac yn darparu trosolwg cryno ar ffurf pwyntiau bwled o sut i lywio a defnyddio pob nodwedd.
Naidlenni
Bydd rhai o swyddogaethau CaseLines a ddisgrifiwyd uchod yn creu naidlenni pan fyddwch chi’n eu defnyddio. Gwnewch yn siŵr bod naidlenni wedi’u galluogi ar osodiadau eich porwr rhyngrwyd.
Cyfrifoldebau hyfforddi
Bydd y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn sicrhau bod yr holl bartïon yn cael eu hyfforddi’n ddigonol fel y gallant ddefnyddio CaseLines yn hawdd gyda chymorth y canllaw cychwyn cyflym uchod.
Mae’r tabl canlynol yn cadarnhau cyfrifoldeb staff y Cyngor i sicrhau bod partïon achos yn derbyn hyfforddiant priodol o leiaf wythnos cyn bod gwrandawiad yn dechrau. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â defnyddio CaseLines, cysylltwch â’r aelod staff perthnasol yn y Cyngor i dderbyn yr hyfforddiant diweddaraf ar CaseLines.
| Parti’r Achos | Hyfforddwr y Cyngor |
| Aseswyr cyfreithiol | Rheolwr Rheoleiddio |
| Tystion | Gweithiwr Achos Rheoleiddio |
| Cyflwynydd yr Achos | Gweithiwr Achos Rheoleiddio |
| Unigolyn cofrestredig a/neu gynrychiolydd | Gweithiwr Achos Rheoleiddio |
| Panelwyr | Rheolwr Rheoleiddio |
- Mewngofnodwch i’r system
- Dewiswch y rhestr ‘View Case’ o’r tabiau ar y brig.
- Sgroliwch lawr y dudalen i ddod o hyd i’r rhestr o fwndeli achos a anfonwyd atoch.
- Cliciwch ‘Review Evidence’ ar gyfer y bwndel rydych am ei weld. Bydd y bwndel yn agor mewn ffenestr ar wahân.
- Mae’r mynegai ar ochr chwith y sgrin.
- Mae’r bwndel wedi’i rannu’n adrannau (penawdau’r adrannau mewn teip trwm).
- Cliciwch ar bob pennawd i ddatgelu’r dogfennau yn yr adran honno.
- Cliciwch ar unrhyw bennawd dogfen i fynd i’r ddogfen honno.
- Bydd y ddogfen a ddewisoch chi yn ymddangos yn rhan ganol y sgrin.
- Defnyddiwch y bar sgrolio i’r dde o’r rhan ganol i sgrolio trwy’r ddogfen.
Nodwch y gallwch gwympo’r adran ganol drwy ail-glicio ar bennawd yr adran mewn teip trwm.
- Mae’r tab ‘Find’ yng nghornel chwith uchaf y sgrin, nesaf at ‘Home’.
- Cliciwch ar y tab a bydd y ddewislen o opsiynau’n ymddangos.
- Defnyddiwch y saethau ‘Next document’ a ‘Previous document’ i fynd i’r dogfennau cyn neu ar ôl yr un rydych chi’n edrych arni.
- Defnyddiwch yr eicon ‘Viewing history’ i weld y dogfennau rydych wedi edrych arnynt yn ddiweddar.
- Defnyddiwch yr eicon ‘Search case’ i ddod o hyd i derm chwilio penodol yn y bwndel.
- Defnyddiwch yr eicon ‘Find page’ i fynd i rif tudalen penodol.
- Ewch i’r dudalen rydych am gyfeirio eraill yn y gwrandawiad iddi.
- Cliciwch ar y tab ‘Find’ yn y rhestr o’r tabiau ar ochr chwith uchaf y sgrin.
- Cliciwch ‘Direct Others to Page’.
- Bydd bocs naid yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am gyfeirio pawb i’r dudalen rydych wedi’i dewis. Cliciwch ‘Yes’.
- Bydd pob parti arall yn y gwrandawiad yn cael eu cyfeirio i’r dudalen honno.
- Os oes parti arall am eich cyfeirio i dudalen fe fydd yn dilyn y broses uchod.
- Bydd bocs naid yn ymddangos ar y sgrin yn dweud eich bod wedi cael cyfeiriad i dudalen. Bydd yn gofyn a ydych am fynd i’r dudalen y cawsoch eich cyfeirio iddi.
- Os ydych chi’n clicio ‘Yes’, bydd eich bwndel yn troi i’r dudalen honno.
- Fel arall, gallwch ddewis cael eich cyfeirio’n awtomatig i dudalen arall pan fydd cyfeiriad tudalen yn cael ei roi. Mae’r botwm ‘Auto Direction’ yn ymddangos o dan y tab ‘Find’. Os cliciwch chi ar y botwm, bydd eich bwndel yn troi’n awtomatig i’r dudalen y’ch cyfeiriwyd chi iddi pan roddir cyfeiriad tudalen.
Mae’r botwm cwarel deuol yng nghornel dde uchaf y rhan ganol.
- Cliciwch ar y botwm hwn i agor ail gwarel.
- Gallwch ddewis pa gwarel sy’n weithredol drwy glicio’r botwm nesaf at yr X yng nghornel dde uchaf y cwarel index.
- Cliciwch arno unwaith i newid o’r cwarel chwith i’r cwarel dde. Cliciwch arno eto i newid yn ôl i’r cwarel chwith.
Ar ôl i chi ddewis cwarel i fod yn weithredol, gallwch ei lywio drwy ddefnyddio’r tabiau ‘index’ neu ‘find’ (gweler y cyfarwyddiadau uchod)).
- Mae’r eicon yma yn eich galluogi chi i chwyddo neu leihau maint y cwarel gofynnol.
- I gau cwarel, cliciwch yr X yng nghornel dde uchaf y cwarel rydych am ei gau.
- Nodyn tudalen yw nodyn wedi’i atodi i dudalen benodol o’r bwndel.
- I wneud nodyn tudalen, ewch i’r dudalen rydych am ei arnodi.
- Cliciwch ar y tab ‘Notes’ yn y rhestr o dabiau ar ochr chwith uchaf y sgrin.
- Yna cliciwch nodyn ‘Add a page’.
- Bydd hyn yn datgelu opsiynau eraill e.e. ‘Draw a Box’ a ‘Highlight’, ac ati
- Dewiswch pa fath o nodyn rydych am ei wneud o’r opsiynau.
- Cliciwch a daliwch fotwm y llygoden i lawr i dynnu dros y rhan o’r dudalen rydych am ychwanegu’r nodyn iddi.
- Bydd bocs nodyn gwag yn ymddangos er mwyn i chi deipio eich nodyn. Gallwch ddewis a fydd hwn yn nodyn i’w rannu’n eang neu’n nodyn preifat. Dim ond chi all weld nodiadau preifat ac rydym yn argymell eich bod yn gwneud nodiadau preifat yn unig. Bydd POB parti yn y gwrandawiad yn gallu gweld nodiadau a rennir yn eang.
- Cliciwch ‘save’ ar ôl i chi orffen gwneud eich nodyn. Bydd y nodyn nawr yn ymddangos yn y golofn ar ochr dde’r sgrin.
- Nodyn cyffredinol a wneir am yr achos cyfan yw nodyn achos.
- I wneud nodyn achos, cliciwch ar y tab ‘Notes’ yn y rhestr o dabiau yn ochr chwith uchaf y sgrin.
- Bydd bocs nodyn gwag yn ymddangos er mwyn i chi deipio eich nodyn. Gallwch ddewis a fydd hwn yn nodyn i’w rannu’n eang neu’n nodyn preifat. Dim ond chi all weld nodiadau preifat ac rydym yn argymell eich bod yn gwneud nodiadau preifat yn unig. Bydd POB parti yn y gwrandawiad yn gallu gweld nodiadau a rennir yn eang.
Cliciwch ‘save’ ar ôl i chi orffen gwneud eich nodyn. Bydd y nodyn nawr yn ymddangos yn y golofn ar ochr dde’r sgrin.
- Mae nodiadau achos wedi’u nodi gan y symbol hwn yn y strip lliw ar frig y nodyn.
- Yn y tab ‘Notes’, cliciwch ar yr eicon ‘copy text’
- Llusgwch y cyrchwr dros y testun sydd ei angen.
- Bydd bocs gwyrdd yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y sgrin yn cadarnhau ‘Text has been copied to your clipboard!’
- Wedyn gallwch chi ludo’r testun i raglen arall (Microsoft Word, er enghraifft).
Mae ein canllawiau ar brotocol gwrandawiad o bell hefyd ar gael fel PDF ar gais. Os hoffech gopi, anfonwch gais drwy e-bost: regulation@osteopathy.org.uk