Fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ein fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn (EDIB) sy’n nodi ein sefyllfa bresennol a lle hoffem fod erbyn 2030. Hefyd, mae ein fframwaith yn esbonio’n fanwl sut rydym yn gobeithio cyflawni cynnydd yn erbyn ein pedwar amcan:
Hyrwyddo tegwch
- Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn deg, yn ystyried anghydraddoldebau presennol, ac yn rhydd o wahaniaethu anghyfreithlon, a bod y dull hwn yn cael ei adlewyrchu yn y safonau a bennir gennym ar gyfer y proffesiwn osteopatheg. Byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg fel bod ein harferion a’n polisïau yn golygu nad yw hunaniaeth yn rhagfynegydd o ran cyfle na chanlyniad. Byddwn yn ymdrechu i gydnabod ac ystyried y rhwystrau sydd eisoes yn bodoli i rai pobl er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal a mynediad.
Gwerthfawrogi amrywiaeth
- Byddwn yn gwrando, yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu ag ystod amrywiol o randdeiliaid, gan ddefnyddio amryw o sianeli, mewn modd hygyrch ac amserol. Byddwn yn cydnabod gwerth cyfartal lleisiau amrywiol ac yn gwneud penderfyniadau cryf yn seiliedig ar amrywiaeth barn. Byddwn yn gwerthfawrogi amrywiaeth wrth recriwtio a datblygu staff, swyddogion anweithredol a rhanddeiliaid ac yn ein ffyrdd o weithio.
Cofleidio cynwysoldeb
- Mae sefydliadau amrywiol a chynhwysol yn perfformio’n well na busnesau unffurf. Byddwn yn sicrhau bod ein diwylliant a’n gwerthoedd yn galluogi’r rhai sy’n dymuno gweithio gyda ni – gan gynnwys ein staff, aelodau llywodraethu, ein rhanddeiliaid allweddol a’n cleifion – i fod yn hyderus y byddant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu galluogi a’u grymuso i gyfrannu fel unigolion cyfartal, ac y byddwn ni’n ystyried eu barn yn llawn gyda pharch ac urddas.
Creu ymdeimlad o berthyn
- Byddwn yn creu sefydliad sy’n seicolegol ddiogel lle mae ein pobl (staff a swyddogion anweithredol) yn teimlo’n hyderus i fod yn nhw eu hunain, heb risg o embaras neu o gael eu gwrthod, i’n helpu i fod y rheoleiddiwr gorau posibl. Byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn teimlo y gallant fod yn greadigol ac arloesol, ac y gallant herio arferion presennol yn adeiladol er budd cleifion, osteopathiaid a rhanddeiliaid.