Beth i’w ddisgwyl yn eich apwyntiad

Gwrando ac archwilio

System gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar y claf yw osteopathi. Mae’r apwyntiad cyntaf yn para tua 45 munud i awr fel arfer, er mwyn caniatáu digon o amser i’r osteopath wneud y canlynol:

Bydd eich osteopath yn gwirio am arwyddion o gyflyrau difrifol na allant eu trin hefyd a gall eich cynghori i weld eich meddyg teulu neu fynd i’r ysbyty.

Diagnosis a thriniaeth

Mae osteopathi’n arbenigo mewn diagnosis, rheoli, trin ac atal namau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau cysylltiedig eraill.

Bydd eich osteopath yn rhoi esboniad clir i chi o’r hyn y mae’n ei ddarganfod (ei ddiagnosis) ac yn trafod cynllun triniaeth sy’n addas i chi. Bydd yn egluro manteision ac unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r driniaeth y mae’n ei hargymell. Mae’n bwysig deall a chytuno ar yr hyn y gall y driniaeth ei gyflawni, a’r nifer tebygol o sesiynau sydd eu hangen i wella’r ffordd rydych chi’n teimlo.

Fel arfer mae triniaeth yn cynnwys dulliau ymarferol fel symud cymalau a thechnegau meinwe meddal i leihau tensiwn cyhyrau a gwella symudedd. Bydd eich osteopath yn egluro unrhyw fuddion neu risgiau posibl sydd gan y driniaeth y mae’n ei chynnig fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus am eich gofal osteopathig, a rhoi caniatâd ar gyfer hyn. Gofynnwch gwestiynau ar unrhyw adeg os nad ydych chi’n siwr beth yn union ddywedwyd wrthych chi neu os oes gennych unrhyw bryderon.

Gellir cynnig mesurau hunangymorth a chyngor ar ymarfer corff i’ch helpu i wella, atal symptomau rhag digwydd eto neu waethygu.

Faint mae’n ei gostio?

Mae’r rhan fwyaf o osteopathiaid yn gweithio yn y sector preifat ac mae hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu am driniaeth fel arfer. Mae ffioedd yn amrywio ledled y DU yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys lleoliad yr osteopath; ond mae’r rhan fwyaf o osteopathiaid yn tueddu i godi ffi ymgynghori gychwynnol o £55 i £65 ar gyfer sesiynau dilynol (yn ôl yr Institute of Osteopathy Membership Census 2021).

Yn aml mae’r sesiwn gychwynnol yn un hirach ac yn gallu para tua 45 munud, gyda sesiynau dilynol yn para rhyw 30 munud. Ond unwaith eto, bydd hyn yn amrywio.

Mae angen i chi wirio gyda’r osteopath a yw wedi’i gofrestru gyda’ch cwmni yswiriant iechyd chi, a gwirio gyda’ch yswirwyr hefyd am lefel yr yswiriant sydd ar gael, ac a oes angen i’ch meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol eich cyfeirio at yr osteopath.

Mae pob darparwr addysg osteopathig yn cynnal clinigau addysgu ac yn cynnig cyfraddau is ar gyfer triniaeth. Caiff cleifion eu trin gan uwch fyfyrwyr dan oruchwyliaeth tiwtoriaid osteopathig cymwysedig. Gweler ein rhestr o ddarparwyr hyfforddiant i ddarganfod a oes clinig hyfforddi yn agos atoch chi.

Gofal parhaus

Oherwydd natur gorfforol y driniaeth, gallwch deimlo’n boenus weithiau yn ystod y 24 i 48 awr gyntaf ar ôl cael triniaeth. Bydd eich osteopath yn egluro unrhyw ymateb tebygol y gallech ei ddisgwyl. Os oes gennych unrhyw bryderon mae’n bwysig cysylltu â’r osteopath a gofyn am ei gyngor. Efallai y bydd angen mwy nag un ymweliad cyn i’ch problem gael ei datrys. Bydd yr osteopath yn adolygu eich cynnydd ym mhob ymweliad dilynol ac yn trafod hyn gyda chi.

Oes angen atgyfeiriad gan feddyg?

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn ‘hunangyfeirio’ at osteopath am driniaeth. Gallwch ddefnyddio’r Gofrestr o osteopathiaid ar y wefan hon i ddod o hyd i osteopathiaid lleol. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r Gofrestr i chwilio am osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg.

Er nad oes angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, gyda’ch caniatâd chi, gall eich osteopath anfon adroddiad at eich meddyg teulu gyda manylion eich cyflwr a’ch triniaeth, os yw’n teimlo bod hyn yn ddefnyddiol ac yn angenrheidiol ar gyfer eich triniaeth. Gallwch ofyn am lythyr i’ch cyflogwr hefyd os yw hyn yn ddefnyddiol.

Beth sy’n digwydd os aiff rhywbeth o’i le?

Yn yr achos prin y bydd camgymeriad yn digwydd, mae gofyn i osteopathiaid fod yn agored ac yn onest gyda chi. Gelwir hyn hefyd yn ddyletswydd broffesiynol gonestrwydd. Rhaid iddynt ddweud wrthych beth sydd wedi digwydd a beth allai’r effeithiau fod. Dylent hefyd gynnig ymddiheuriad ac, os yw’n briodol, ateb neu gymorth addas. Rydym yn darparu rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb osteopathiaid o ran y ddyletswydd gonestrwydd yn adran ganllawiau ein gwefan.