Ffurflen hanes claf

Gall y ffurflen hon eich helpu i ddangos manylion am eich hanes i osteopath, gan gynnwys unrhyw gyflyrau hirdymor neu broblemau iechyd, mewn ffordd sy’n ystyrlon i chi.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i gynnwys manylion am eich bywyd a’r hyn rydych chi’n ei wneud yn rheolaidd, fel y gall eich osteopath ddeall beth rydych chi ei eisiau a’i angen o’ch ymgynghoriad.