Adnoddau i gleifion
Yn yr adran hon
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi cleifion i gyfathrebu â’u hosteopath am eu dewisiadau, eu credoau a’u gwerthoedd. Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gefnogi osteopathiaid a chleifion i wneud penderfyniadau am ofal gyda’i gilydd.
Cafodd yr adnoddau eu cynhyrchu ar y cyd â chleifion ac ymarferwyr gofal iechyd, gan gynnwys osteopathiaid, fel rhan o raglen ymchwil gydweithredol gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a’r Collaborating Centre for Values Based Practice yng Ngholeg Santes Catherine, Rhydychen.
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen ymchwil a’r adnoddau a gynhyrchwyd mewn erthygl o’r enw Connecting patients, practitioners, and regulators in supporting positive experiences and processes of shared decision making (2019) a gyhoeddwyd yn y Journal of Evaluation in Clinical Practice.


