Newid fy statws cofrestru

Gallwch newid eich statws cofrestru unrhyw bryd. Efallai eich bod yn newid eich statws cofrestru oherwydd seibiant gyrfa, salwch, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, eisiau ymarfer dramor neu oherwydd eich bod am ddychwelyd i’r gofrestr. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn yr adran hon.

Beth yw cofrestriad heb ymarfer?

Mae gan osteopathiaid nad ydynt yn ymarfer ac nad ydynt mewn cysylltiad clinigol â chleifion, am gyfnod o dri mis yn olynol yn ystod eu blwyddyn gofrestru, yr hawl i ostyngiad yn eu ffioedd.

Sut ydw i’n newid fy statws cofrestru i un osteopath nad yw’n ymarfer?

I newid eich statws cofrestru i osteopath nad yw’n ymarfer, rhaid i chi lenwi ‘Ffurflen Osteopath Nad yw’n Ymarfer’ a chyflwyno tystiolaeth ategol.

Beth sy’n ofynnol i mi ei wneud pan nad wy’n ymarfer?

Gan eich bod yn dal i fod wedi’ch cofrestru pan nad ydych yn ymarfer, mae eich gofynion cofrestru yn aros yr un fath:

  • Rhaid i chi adnewyddu’ch cofrestriad yn flynyddol a thalu ffi gofrestru.
  • Rhaid i chi barhau i gwblhau DPP.
  • Rhaid i gyfeiriad practis fod wedi’i restru ar y Gofrestr ochr yn ochr â’ch enw.

Beth sy’n digwydd gyda fy yswiriant?

Ar ôl i chi gael cadarnhad ysgrifenedig gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol bod eich statws cofrestru wedi’i ddiweddaru i ddangos nad ydych yn ymarfer, dylech roi gwybod i’ch darparwr yswiriant ar unwaith. Os ydych yn canslo’ch yswiriant indemniad proffesiynol, rhaid i chi sicrhau bod gennych ‘estyniad’ ar waith. 

Bydd estyniad o’r fath yn eich diogelu chi a’ch cleifion pe bai hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn ar ôl i chi roi’r gorau i ymarfer. Dysgwch fwy am ofynion yswiriant.

Sut ydw i’n newid fy statws cofrestru yn ôl i statws ymarfer yn llawn yn y DU?

Os nad ydych yn ymarfer a’ch bod yn dymuno dychwelyd i weithio yn y DU, rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eich dyddiad cychwyn bwriedig er mwyn newid eich statws cofrestru yn ôl i ddangos eich bod yn ymarfer llawn yn y DU: 

  • Y dyddiad rydych yn bwriadu dychwelyd i ymarfer yn y DU 
  • Copi o’ch yswiriant indemniad proffesiynol yn y DU 
  • Manylion practis yn y DU wedi’u diweddaru 
  • Manylion gohebiaeth yn y DU wedi’u diweddaru 

Rhaid i chi anfon y wybodaeth hon i registration@osteopathy.org.uk

Os nad ydych wedi bod yn ymarfer am ddwy flynedd neu fwy, bydd angen i chi gwblhau ein proses Dychwelyd i Ymarfer yn ogystal â darparu’r ddogfennaeth uchod. Mae hon yn broses gefnogol i’ch helpu i bontio’n ôl i ymarfer ac i helpu i sicrhau diogelwch cleifion trwy roi arweiniad i chi ar arferion gorau.

Beth yw cofrestriad ymarfer dramor?

Mae gan osteopathiaid sy’n ymarfer y tu allan i’r DU am gyfnod o dri mis yn olynol yn ystod eu blwyddyn gofrestru yr hawl i ostyngiad yn eu ffioedd.

Sut ydw i’n newid fy statws cofrestru i ddangos fy mod yn ymarfer dramor?

I newid eich statws cofrestru i ddangos eich bod yn ymarfer dramor, rhaid i chi lenwi a chyflwyno ‘Ffurflen Ymarfer Dramor’ ynghyd â thystiolaeth ategol.

Beth sy’n ofynnol i mi ei wneud wrth ymarfer dramor?

Gan eich bod yn dal i fod wedi’ch cofrestru pan rydych yn ymarfer dramor, mae eich gofynion cofrestru yn aros yr un fath:

  • Rhaid i chi adnewyddu’ch cofrestriad yn flynyddol a thalu ffi gofrestru.
  • Rhaid i chi barhau i gwblhau DPP.
  • Rhaid i gyfeiriad practis fod wedi’i restru ar y Gofrestr ochr yn ochr â’ch enw.

Dychwelyd i ymarfer yn y Deyrnas Unedig 

Os ydych yn ymarfer dramor a’ch bod yn dymuno dychwelyd i weithio yn y DU, rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eich dyddiad cychwyn bwriedig er mwyn newid eich statws cofrestru yn ôl i ddangos eich bod yn ymarfer yn llawn yn y DU: 

  • Y dyddiad rydych yn bwriadu dychwelyd i ymarfer yn y DU 
  • Copi o’ch yswiriant indemniad proffesiynol yn y DU 
  • Manylion practis yn y DU wedi’u diweddaru 
  • Manylion gohebiaeth yn y DU wedi’u diweddaru 

Rhaid i chi anfon yr wybodaeth hon i registration@osteopathy.org.uk

Oes angen i mi fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol os nad wy’n gweithio yn y DU?

Os ydych yn dewis byw a gweithio y tu allan i’r DU, nid oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor.

Cyn dechrau gweithio dramor, dylech wirio a oes unrhyw ofynion cofrestru neu yswiriant yn y wlad lle rydych yn bwriadu ymarfer.

Mae gwybodaeth am adael y Gofrestr yma.

Os ydych wedi bod oddi ar y Gofrestr am unrhyw reswm ac eisiau dychwelyd i ymarfer fel osteopath, gallwch wneud cais i gael eich adfer i’r Gofrestr.

Noder na allwch ddechrau ymarfer nes eich bod wedi cael cadarnhad eich bod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol a bod gennych yswiriant indemniad proffesiynol priodol ar waith.

Y gofynion

Bydd angen i chi ddarparu’r ddogfennaeth ganlynol:

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y bydd gofyn i chi hefyd ddarparu dogfennaeth ychwanegol a allai gynnwys:

  • Gwiriadau heddlu tramor os ydych wedi byw dramor ers gadael y Gofrestr
  • Llythyr Enw Da os ydych wedi ymarfer fel osteopath mewn gwlad dramor lle mae osteopathi yn cael ei reoleiddio

Dwy flynedd neu fwy oddi ar y Gofrestr

Os ydych wedi bod oddi ar y Gofrestr am ddwy flynedd neu fwy, bydd angen i chi gwblhau ein proses Dychwelyd i Ymarfer yn ogystal â darparu’r ddogfennaeth uchod.

Mae hon yn broses gefnogol i’ch helpu i bontio’n ôl i ymarfer ac i helpu i sicrhau diogelwch cleifion trwy roi arweiniad i chi ar arferion gorau.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gofynion uchod neu os hoffech ofyn am becyn cais, anfonwch e-bost i registration@osteopathy.org.uk

Os ydych wedi bod i ffwrdd o ymarfer osteopathig ac yn bwriadu dychwelyd, mae ein proses Dychwelyd i Ymarfer wedi’i chynllunio i’ch cefnogi i wneud hynny yn ddiogel, yn hyderus ac yn unol â’r Safonau Ymarfer Osteopathig (OPS).

Rydym ni’n cydnabod bod amgylchiadau pob osteopath yn wahanol. Mae ein dull gweithredu yn gymesur, yn gefnogol ac yn canolbwyntio ar eich helpu i fyfyrio ar eich parodrwydd i ymarfer.

Pwy sydd angen cwblhau’r broses hon?

Bydd angen i chi gwblhau’r broses Dychwelyd i Ymarfer:

  • os ydych chi wedi bod oddi ar y Gofrestr am ddwy flynedd neu fwy, neu
  • os ydych nad ydych chi wedi ymarfer osteopathig clinigol am ddwy flynedd neu fwy

Y broses dychwelyd i ymarfer

Mae’r broses dychwelyd i ymarfer yn syml a chefnogol. Mae tri cham i’r broses:

Cam 1: Llenwi ffurflen hunanfyfyrio

Gofynnir i chi lenwi ffurflen fer i’ch helpu i fyfyrio ar y canlynol:

  • yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud ers i chi ymarfer ddiwethaf
  • pa mor barod ydych chi’n teimlo i ddychwelyd
  • eich dealltwriaeth o ofynion DPP
  • unrhyw feysydd lle gallai fod angen cymorth arnoch

Mae’r ffurflen wedi’i chynllunio i gefnogi myfyrio a thrafodaeth, nid i’ch asesu.

Cam 2: Cael sgwrs gefnogol

Bydd aelod o Dîm Cofrestru’r Cyngor yn trefnu sgwrs fer gyda chi:

  • i drafod eich myfyrdodau
  • i ddeall eich cynlluniau ar gyfer dychwelyd i ymarfer
  • i archwilio unrhyw feysydd lle gallech elwa ar arweiniad neu gymorth

Mae hon yn drafodaeth gefnogol a phroffesiynol, sy’n canolbwyntio ar eich helpu i ddychwelyd i ymarfer yn ddiogel.

Cam 3: Sgwrs ddilynol a chyfeirio

Ar ôl eich sgwrs, byddwn yn:

  • gwneud cofnod mewnol syml o’r drafodaeth
  • eich cyfeirio at ganllawiau, adnoddau a chymorth perthnasol

Faint o amser mae’n ei gymryd?

Mae’r broses wedi’i chynllunio i fod yn effeithlon a chymesur.

  • Amser prosesu nodweddiadol: tua 2 wythnos ar ôl i’ch ffurflen ddod i law

Eich helpu i ddychwelyd

Byddwn yn eich cyfeirio at amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i ddychwelyd, gan gynnwys:

  • Canllawiau ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
  • Safonau Ymarfer Osteopathig a chanllawiau ategol
  • Adnoddau proffesiynol ac ymchwil
  • Rhwydweithiau a sefydliadau proffesiynol

Gall yr adnoddau hyn eich helpu i nodi anghenion dysgu a chynllunio eich proses dychwelyd i ymarfer.

Dechrau arni

I ddechrau’r broses Dychwelyd i Ymarfer:

  1. Llenwch y ffurflen hunanfyfyrio
  2. Cyflwynwch hi ar-lein i’r Tîm Cofrestru
  3. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu eich sgwrs

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cofrestru a fydd yn hapus i helpu.

Gall osteopathiaid ddewis gadael y Gofrestr am nifer o resymau, er enghraifft, mynd ar absenoldeb rhiant neu ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu eraill, neu oherwydd eu bod yn ymddeol.

Os hoffech adael y Gofrestr am unrhyw reswm, llenwch y ffurflen ar-lein Gadael y Gofrestr.  

Os ydych yn destun ymchwiliad addasrwydd i ymarfer pan fyddwch yn gwneud cais i adael y Gofrestr, bydd y Cofrestrydd yn ystyried sawl ffactor cyn penderfynu a ddylid cytuno i’ch tynnu oddi ar y Gofrestr ai peidio. Mae’r ffactorau hyn yn cael eu hesbonio yn ein Polisi Tynnu oddi ar y Gofrestr yn Wirfoddol.

Adfer i’r Gofrestr 

Os byddwch yn penderfynu dychwelyd i ymarfer fel osteopath yn y dyfodol, gallwch wneud cais i gael eich adfer i’r Gofrestr.

Bydd disgwyl i chi fod wedi cynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn ystod eich cyfnod oddi ar y Gofrestr a byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth o hyn pan fyddwch yn gwneud cais i gael eich adfer i’r Gofrestr.

Os ydych wedi bod oddi ar y Gofrestr am ddwy flynedd neu fwy, gofynnir i chi hefyd gwblhau ein proses Dychwelyd i Ymarfer. Bydd hyn yn eich cefnogi i bontio’n ôl i ymarfer, gan helpu i sicrhau diogelwch cleifion trwy roi arweiniad i chi ar arferion gorau ar adeg yn eich gyrfa pan fyddwch yn teimlo’n llai hyderus efallai.