Adnewyddu eich cofrestriad
Mae adnewyddu eich cofrestriad yn hawdd. Mae popeth sydd ei angen arnoch i adnewyddu neu ddiweddaru eich cofrestriad ar gael yn yr adran hon. Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn i allu ymarfer fel osteopath ac aros ar y Gofrestr.
Gallwch hefyd adnewyddu eich cofrestriad yn Gymraeg. Defnyddiwch y botwm Cymraeg ar frig y dudalen i weld yr wybodaeth hon ac adnewyddu eich cofrestriad yn Gymraeg. Dysgwch fwy am ein gwasanaethau Cymraeg.
Dyddiad adnewyddu eich cofrestriad
Os gwnaethoch gofrestru am y tro cyntaf ar neu cyn 9 Mai 2000, eich dyddiad adnewyddu yw 9 Mai. Fel arall, y dyddiad yw’r dyddiad y gwnaethoch gofrestru gyda’r GOsC am y tro cyntaf.
Mae eich dyddiad adnewyddu hefyd ar gael ar dudalen Hafan yr ‘o zone’.
Gwnewch yn siŵr bod gennym eich cyfeiriad e-bost presennol ar ein cofnodion. Byddwn yn anfon e-bost atgoffa ddau fis cyn y bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad. Mae’n bwysig iawn eich bod yn adnewyddu ar amser, os ydych am aros ar y Gofrestr.
Ffioedd cofrestru
Mae dwy ffordd o dalu eich ffioedd cofrestru:
- Talu mewn un cyfandaliad: Os ydych wedi talu eich ffi gofrestru mewn un cyfandaliad o’r blaen ac yn dymuno parhau i wneud hynny, ewch i’r dudalen Ffurflen Adnewyddu. Ar ôl llenwi’r ffurflen adnewyddu, cewch eich cyfeirio at dudalen dalu lle gallwch wneud eich cyfandaliad.
- Talu’r ffi gofrestru mewn rhandaliadau misol: Os oes gennych drefniant Debyd Uniongyrchol misol ar waith, bydd angen i chi lenwi a chyflwyno eich ffurflen adnewyddu ar-lein. I wneud hyn, ewch i’r dudalen ffurflen adnewyddu. Mae talu trwy ddebyd uniongyrchol misol yn codi ffi weinyddol ychwanegol fach; mae hyn wedi’i nodi mewn deddfwriaeth. Mae’r gost wedi’i wasgaru ar draws eich cynllun talu misol.
Os ydych chi wedi talu eich ffi gofrestru o’r blaen mewn un cyfandaliad ond eich bod nawr yn dymuno sefydlu Debyd Uniongyrchol misol, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd mandad Debyd Uniongyrchol.
Ar ôl i ni dderbyn hwn, byddwn yn newid eich dull talu ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch gyflwyno’r ffurflen adnewyddu ar-lein.
Ffioedd presennol
Rydym wedi amlinellu’r ffioedd cofrestru ar gyfer taliadau cyfandaliad a misol isod:
Lefel cofrestriad (cyfandaliad)
Blwyddyn 1, mynediad – £320
Blwyddyn 2, ymarfer – £430
Blwyddyn 2, cyfradd ostyngol – £215
Blwyddyn 3, ymarfer – £570
Blwyddyn 3, cyfradd ostyngol – £320
Lefel cofrestriad (debyd uniongyrchol)
Blwyddyn 1, mynediad – £330
Blwyddyn 2, ymarfer – £445
Blwyddyn 2, cyfradd ostyngol – £225
Blwyddyn 3, ymarfer – £590
Blwyddyn 3, cyfradd ostyngol – £330
Cyfradd mynediad: Mae lefel mynediad y ffi gofrestru yn berthnasol i osteopathiaid sydd newydd gofrestru yn ystod eu blwyddyn gyntaf o ymarfer.
Cyfradd ymarfer: Mae cyfradd ymarfer y ffi gofrestru yn berthnasol i bob osteopath yn y DU, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio’n llawn amser a rhan-amser. Mae’r gyfradd ychydig yn is yn yr ail flwyddyn o ymarfer ar gyfer osteopathiaid sydd newydd gofrestru.
Cyfraddau gostyngol: Os nad ydych yn ymarfer, sy’n golygu nad oes gennych unrhyw gyswllt clinigol â chleifion, neu os ydych yn ymarfer y tu allan i’r DU am gyfnod o dri mis dilynol neu fwy o fewn eich blwyddyn gofrestru, byddwch yn gymwys am ffi gofrestru is.
Newid o gyfandaliad i Ddebyd Uniongyrchol
Os ydych chi’n talu eich ffi ar-lein mewn un taliad ond yn dymuno newid i dalu mewn rhandaliadau trwy Ddebyd Uniongyrchol, mae angen i chi lenwi ffurflen mandad Debyd Uniongyrchol sy’n ein hysbysu o’ch dymuniad i newid i daliadau Debyd Uniongyrchol. Byddwn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch adnewyddu eich cofrestriad ar-lein.
Noder fod ein deddfwriaeth yn mynnu eich bod yn talu ffi weinyddol ychwanegol fach ar gyfer talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol.
Newid eich manylion debyd uniongyrchol
Os ydych chi’n talu am eich ffi gofrestru mewn rhandaliadau misol a’ch bod yn dymuno newid eich manylion debyd uniongyrchol, bydd angen i chi lenwi ffurflen mandad Debyd Uniongyrchol. Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen hon, byddwn yn diweddaru eich manylion banc.
Diweddaru eich manylion banc
Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion banc, llenwch y ffurflen mandad Debyd Uniongyrchol.
Rhestr wirio adnewyddu eich cofrestriad:
Fel rhan o’ch ffurflen adnewyddu cofrestriad, mae’n ofynnol i chi ddatgan bod gennych Yswiriant Indemniad Proffesiynol. Rhaid bod gennych yswiriant o £5 miliwn o leiaf. Gweler y gofynion yswiriant indemniad proffesiynol am ragor o wybodaeth.
Os yw eich cofrestriad yn nodi nad ydych yn ymarfer, rhaid i chi ddatgan nad ydych yn ymarfer o hyd a bod gennych yswiriant ar waith ar gyfer ar ôl i chi roi’r gorau i ymarfer.
Os yw eich cofrestriad yn nodi eich bod yn ymarfer dramor, rhaid i chi ddatgan eich bod yn dal i ymarfer y tu allan i’r DU.
Ar eich ffurflen adnewyddu cofrestriad, bydd angen i chi ddatgan y gweithgareddau DPP rydych chi wedi’u cwblhau dros y 12 mis blaenorol. Mae hyn yn cynnwys nifer yr oriau DPP a pha elfennau o’r cynllun DPP rydych chi wedi’u cwblhau. Nid yw’n ofynnol i chi gyflwyno’ch cofnodion DPP fel rhan o’r broses adnewyddu cofrestriad. Rhagor o wybodaeth am eich DPP.
Ar ôl i chi adnewyddu eich cofrestriad blynyddol, bydd eich tystysgrif cofrestru flynyddol ar gael i’w lawrlwytho. Bydd y dystysgrif hon yn dod i ben ar eich dyddiad adnewyddu y flwyddyn ganlynol.
Nid oes angen gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) argyfer adnewyddu blynyddol. Fodd bynnag, os oes angen Gwiriad Manwl ar gyfer Gweithgaredd a Reoleiddir arnoch, sef y lefel uchaf o wiriad cofnod troseddol sydd ar gael, gallwn basio eich enw a’ch cyfeiriad e-bost i First Advantage, cwmni sy’n gweinyddu Gwiriadau Manwl ar gyfer Gweithgaredd a Reoleiddir ar ran y GOsC.
Os oes angen hyn arnoch, e-bostiwch eich caniatâd i rannu eich manylion cyswllt â First Advantage i registration@osteopathy.org.uk