o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  6. Ein Fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Ein Fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo tegwch, gwerthfawrogi amrywiaeth, cofleidio cynwysoldeb a chreu ymdeimlad o berthyn, a chefnogi osteopathiaid i wneud yr un peth yn eu gwaith bob dydd.

Mae ein dull o ymdrin â Thegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn (EDIB) yn hanfodol i gyflawni ein Strategaeth yn llwyddiannus, hyd at 2030.

Matthew speaks about GOsC's EDIB framework

Mae ein fframwaith EDIB (2024-30) yn adeiladu ar y cynnydd a wnaethom yn dilyn lansiad ein fframwaith blaenorol, a'n un cyntaf, ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021. Ers hynny, rydym wedi:

  • adolygu ein Deilliannau Graddedigion a'r Safonau Addysg a Hyfforddiant, gan osod disgwyliadau i ddarparwyr addysg greu diwylliant diogel i'w myfyrwyr a'u haddysgwyr sy'n rhoi cyfle i godi llais yn erbyn gwahaniaethu - y gallwn ei wirio trwy ein prosesau sicrwydd ansawdd.
  • sicrhau bod pob myfyriwr osteopathig yn gweld ystod amrywiol o gleifion fel rhan o'i hyfforddiant clinigol, fel sy'n ofynnol yn y Deilliannau Graddedigion a'r Safonau ar gyfer Addysg a Hyfforddiant
  • diweddaru ein proses lywodraethu, yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, i sicrhau ein bod yn adolygu'n systematig effaith ein polisïau a'n prosesau ar rai â nodweddion gwarchodedig ac anghenion ychwanegol, ac ar siaradwyr Cymraeg
  • cyd-ariannu ymchwil i brofiadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg a hyfforddiant osteopathig er mwyn deall sut i gefnogi a sicrhau bod diwylliant diogel a chefnogol yn bodoli ar gyfer pob myfyriwr ac addysgwr
  • cyhoeddi canllawiau i osteopathiaid ar Degwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn, gan gynnwys adnoddau i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus
  • parhau i werthuso effaith y cynllun datblygiad proffesiynol parhaus ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol er mwyn sicrhau ei fod yn deg ac yn gynhwysol
  • cynnig cymorth ychwanegol i aelodau ein Fforwm Cynnwys Cleifion er mwyn sicrhau bod pob aelod yn cael cyfle i gymryd rhan yn ddi-rwystr
  • newid ein dull o hysbysebu am swyddi anweithredol (y Cyngor a'r Pwyllgor), ac o ganlyniad, rydym wedi parhau i weld cynnydd yn amrywiaeth yr ymgeiswyr, ar draws yr ystod lawn o nodweddion gwarchodedig
  • ymuno â gorymdaith Pride yn Llundain yn 2022 a 2023 i ddangos ein cefnogaeth a'n cynghreiriaeth i'r gymuned LHDTC+

Tuag at 2030 rydym yn gobeithio gweithio gyda'r proffesiwn osteopathig a chleifion i gyflawni cynnydd yn erbyn amcanion ein fframwaith, er enghraifft:

  • cael gwell dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd yn y gymdeithas ehangach gan ddefnyddio ein dylanwad i egluro sut mae osteopathiaid mewn sefyllfa i helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hynny
  • dangos bod ein prosesau cofrestru'n deg ac yn rhydd o ragfarn a bod unrhyw unigolyn sy'n ymwneud â phenderfyniad ynghylch cais cofrestru wedi cael ei hyfforddi'n briodol ar EDIB
  • cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Degwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn a all lywio'r sector gofal iechyd ac osteopathig trwy ddarparu’r dadansoddiad o'r data a gasglwn a'r gwaith a wnawn.
  • cael gwefan mwy hygyrch sy'n darparu gwybodaeth i gleifion, osteopathiaid a rhanddeiliaid mewn sawl fformat amrywiol, gan sicrhau ein bod yn gynhwysol o arddulliau ac anghenion dysgu gwahanol
  • sicrhau bod pawb sy'n gwneud penderfyniadau yn y Cyngor Osteopathig Cyffredinol a'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw yn cael hyfforddiant rheolaidd sy'n benodol i gyd-destun ar EDIB er mwyn sicrhau bod ein penderfyniadau'n deg, yn gymesur ac yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu

Darllenwch ein fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn i ddysgu mwy am ein sefyllfa bresennol, lle hoffem fod arni yn 2030 a sut rydym yn gobeithio cyrraedd y nod.