o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ein sefydliad

Ein sefydliad

Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn cynnwys Cyngor, Cymdeithion y Cyngor, ei bwyllgorau a thîm bach o staff.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod y GOsC yn cyflawni ei amcanion statudol. Mae'n gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad ac yn goruchwylio gweithrediad y strategaeth honno. Caiff rôl y Cyngor ei hegluro'n llawn yn y Llawlyfr Llywodraethu.

Mae'r pwyllgorau’n gweithredu polisïau'r Cyngor ac yn arfer awdurdod dirprwyedig ar gyfer rhai rolau statudol a rheoleiddiol.

Mae pwyllgorau statudol sy'n annibynnol ar y Cyngor yn ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer.

Mae Cymdeithion y Cyngor yn gofrestryddion sydd wedi'u penodi gan y Cyngor. Mae rôl Cydymaith y Cyngor yn caniatáu i rai sydd wedi'u penodi gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor fel aelodau llawn ond heb hawliau pleidleisio.

Cadeirydd y Cyngor yw'r Dr Bill Gunneyon, sy’n aelod lleyg. Cefnogir y Cyngor gan dîm o lai na 30 o staff, dan arweiniad y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd Matthew Redford. Mae Matthew’n atebol i'r Cyngor am sicrhau bod ein staff yn gweithredu polisïau'r GOsC.

Llywodraethu

Rhaid i'r Cyngor, Cymdeithion y Cyngor ac aelodau'r pwyllgorau ac uwch reolwyr ddatgan a chofrestru unrhyw fuddiannau sydd ganddynt y tu allan i'r GOsC.

Mae'r Llawlyfr Llywodraethu yn cynnwys gwybodaeth am sut mae'r GOsC wedi'i strwythuro a'i reoli yn ogystal â pholisïau’r GOsC ar dâl aelodau'r Cyngor a'r pwyllgorau a phanelwyr addasrwydd i ymarfer.