o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Safonau’r Gymraeg

Safonau’r Gymraeg

Mae gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Rydym wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg fel rhan o'n cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau cyfreithiol hyn.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg ac yn ceisio hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau. Dysgwch fwy am y safonau yn ein datganiad cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

Adrodd iad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Fel rhan o'n dyletswydd i gydymffurfio â'r safonau, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg sy'n amlinellu:

  • Nifer y cwynion a gawsom yn ymwneud â'n cydymffurfiaeth â'r safonau.
  • Nifer y gweithwyr GOsC sydd â sgiliau Cymraeg.
  • Nifer y swyddi newydd a gwag y gwnaethom recriwtio ar eu cyfer, lle'r oedd sgiliau Cymraeg naill ai'n hanfodol, yn ddymunol, neu ddim yn angenrheidiol.

Disgwylir i'r cyntaf o'r adroddiadau hyn gael eu cyhoeddi tua diwedd 2024. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o’n Hadroddiad Monitro Blynyddol terfynol ar Safonau'r Gymraeg, o dan y Cynllun Iaith blaenorol, ar gael i'w ddarllen.

Ein gweithdrefn cwynion Cymraeg

Os hoffech chi wneud cwyn am ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, dilynwch y drefn isod. Mae ein gweithdrefn wedi'i chynnwys ochr yn ochr â'r safonau hefyd yn ein hysbysiad cydymffurfio.

Sut i gwyno

Anfonwch eich cwyn atom yn ysgrifenedig drwy'r post neu drwy e-bost. Gallwch gyflwyno eich cwyn yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dylid cyfeirio eich cwyn at y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd yn:

General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL

Neu anfonwch e-bost atom: welshlanguage@osteopathy.org.uk

Er mwyn ein helpu i brosesu'ch cwyn yn gyflym, rhowch y canlynol:

  • Disgrifiad clir o'r gwyn a pha gamau yr hoffech i ni eu cymryd
  • Eich cyfeiriad post llawn, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Dylech dynnu ein sylw at gwynion cyn gynted â phosibl ac o fewn 12 mis i'r digwyddiad dan sylw.

Beth allwch ei ddisgwyl gennym ni

Bydd y GOsC yn:

  • Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Trefnu i'r gwyn gael ei hymchwilio'n llawn.
  • Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
  • Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gadeirydd y Cyngor adolygu'r mater. Mae'r Cadeirydd yn berson a benodir yn annibynnol sy'n goruchwylio strwythur llywodraethu'r GOsC. Ysgrifennwch, gan nodi pam eich bod yn parhau'n anfodlon â'r canlyniad, i:

Chair of Council
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL

Ar ôl derbyn y llythyr, bydd y Cadeirydd yn sicrhau ein bod yn:

  • Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith.
  • Trefnu i'r gwyn gael ei hymchwilio'n llawn.
  • Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
  • Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.