Cymraeg
Croeso i wefan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Cewch wybodaeth gryno amdanom ni a’n gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg ar y dudalen hon.
Mae hefyd yn egluro beth yw osteopathi, yn dangos sut i ddod o hyd i osteopath ac yn egluro sut i roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynglyn â thriniaeth osteopathig. Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg ar gael isod, ynghyd â’n manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth.
Ein Cynllun Iaith Gymraeg
Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes yng Nghymru.
Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg, yn egluro sut rydym yn darparu gwasanaethau i gleifion ac aelodau’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg.
Cymeradwywyd ein cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 12 Gorffennaf 2011, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn yn monitro sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu a byddwn yn adrodd yn flynyddol i’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol a Gomisiynydd y Gymraeg ar y cynnydd o ran gweithredu’r cynllun. Mae'r adroddiad diweddaraf yn ymdrin 2017-2018.
Os ydych chi’n anhapus ynglyn â’r modd yr ydym yn cyflawni’r gwasanaethau a ddarparwn o dan ein Cynllun Iaith Gymraeg, yna gallwch wneud cwyn. Mae Gweithdrefn gwyno ein Cynllun Iaith Gymraeg yn egluro sut i wneud hynny.
Rydym yn croesawu adborth ar y cynllun ar unrhyw adeg a gallwch anfon eich sylwadau atom gan ddefnyddio’r Ffurflen Cysylltu â ni ar y wefan hon neu drwy e-bostio: cymraeg@osteopathy.org.uk.
Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth:
Rhif ffôn: 020 7357 6655;
E-bost: info@osteopathy.org.uk;
Y ffurflen ‘Cysylltu â ni’ ar y wefan hon.