o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ymweld ag osteopath

Ymweld ag osteopath

Yn yr adran hon rydym yn esbonio beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mynd i weld osteopath, faint mae triniaeth yn debygol o gostio a sut i ddod o hyd i osteopath yn eich ardal chi.

Cyn eich apwyntiad cyntaf

Gwiriwch bod yr osteopath wedi cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) drwy edrych ar ein Cofrestr ar-lein, sy’n cael ei diweddaru’n ddyddiol ac yn rhestru osteopathiaid yn ôl eu henw, rhif cofrestru a lleoliad. Gallwch ddefnyddio’r Gofrestr i chwilio am osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg hefyd.

Os ydych chi angen unrhyw gymorth i ddefnyddio’r Gofrestr, e-bostiwch: info@osteopathy.org.uk. Os byddwch yn anfon e-bost Cymraeg byddwn yn eich ateb yn Gymraeg heb oedi ychwanegol.

Fel arall, gallwch ein ffonio ar: 020 7357 6655 x242 – yn anffodus dim ond yn Saesneg y byddwn yn gallu siarad â chi gan nad oes gennym aelodau staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.

Dylai practisau osteopathig allu darparu gwybodaeth am yr osteopath, y clinig, beth mae’r driniaeth yn ei olygu, dulliau talu ac unrhyw beth sydd angen i chi ei wybod cyn eich ymweliad cyntaf.

Taflen/poster cleifionGall ein taflen Gweld Osteopath eich helpu chi i feddwl am eich nodau ar gyfer triniaeth, a beth hoffech chi ei gael o’ch ymgynghoriad cyntaf. Gall y daflen eich helpu i feddwl am y cwestiynau i’w gofyn yn yr ymgynghoriad hefyd, i’ch helpu i gael y gorau ohono.

 

 

 

 

 

 

Yn eich apwyntiad

Fel claf osteopathig mae gennych chi hawl i ofal o safon uchel. Dylech ddisgwyl i’ch osteopath:

  • Roi blaenoriaeth i’ch gofal
  • Eich trin chi ag urddas a pharch
  • Eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich gofal
  • Ymateb yn brydlon i’ch pryderon
  • Parchu a diogelu eich gwybodaeth breifat

Hanes y ClafGallwch ddefnyddio ein Ffurflen Hanes Claf i rannu gwybodaeth â’ch osteopath yn ystod eich apwyntiad, am eich cyflwr, eich bywyd a beth rydych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd. Gall hyn eich helpu hefyd i esbonio i’ch osteopath beth rydych eisiau ei gael ac angen ei gael o’ch ymgynghoriad.

 

 

 

 

 

Cynllunydd Nodau ClafGallwch ddefnyddio’n Cynllunydd Nodau’r Claf hefyd i ganfod eich nodau (er enghraifft, casglu’r plant o’r ysgol, garddio, nofio unwaith yr wythnos) yna olrhain dros amser gyda’ch osteopath sut mae eich symptomau neu eich cyflwr yn effeithio ar y nodau hynny.

 

 

 

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Beth i’w ddisgwyl.

Os oes gennych chi bryder am osteopath

Os oes gennych chi bryder am osteopath, neu am driniaeth rydych chi wedi’i derbyn, mae croeso i chi ddefnyddio’r ffurflen ymholi ar-lein hon. Byddwn yn ymateb i chi cyn pen pum diwrnod gwaith. Am ragor o wybodaeth am siarad â ni am bryder ewch i’n hadran Mynegi pryder.

Mae ymarfer osteopathi heb gofrestru yn anghyfreithlon

Mae’r teitl ‘osteopath’ a theitlau osteopathig eraill wedi’u diogelu gan y gyfraith. Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un alw ei hun yn osteopath oni bai ei fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn gweithio fel osteopath ond nad yw ar y Gofrestr, ewch i’n tudalen Diogelu’r teitl osteopathig i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud.

Fe all y GOsC erlyn pobl sy’n ymarfer fel osteopathiaid ond nad ydynt ar Gofrestr y GOsC a bydd yn gwneud hynny.