o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ymweld ag osteopath
  5. Cymryd rhan yn ein gwaith

Cymryd rhan yn ein gwaith

Rydym am weithio mewn partneriaeth â chleifion ac osteopathiaid i sicrhau ein bod yn rhoi diogelwch, lles a barn cleifion wrth wraidd popeth a wnawn.

Hoffem sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i gleifion rannu eu barn gyda ni a'r proffesiwn.

Ymuno â'n Fforwm Cynnwys Cleifion

Rydym yn chwilio am gleifion osteopathig i ymuno â'n Fforwm Cynnwys Cleifion ac i gymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau niferus fel grwpiau ffocws, arolygon ac ymgynghoriadau er mwyn cael eich barn. Os oes gennych ddiddordeb a'ch bod yn barod i ddefnyddio'ch profiad unigryw i helpu i wneud gwahaniaeth i ofal osteopathig yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Llenwch ein ffurflen gofrestru i nodi'ch diddordeb.

Gallwn ddarparu hyfforddiant a'r cymorth sydd ei angen arnoch i gymryd rhan lawn er mwyn helpu i lywio ein gwaith a gwella eich sgiliau (os ydych chi'n teimlo y byddai hynny'n ddefnyddiol). Fe allai'r sgiliau hyn fod yn ddefnyddiol i chi mewn cyd-destunau eraill a rhannau eraill o'ch bywyd neu'ch gwaith.

Am bob gweithgaredd, bydd aelodau'n cael eu gwobrwyo am eu hamser fel diolch am gymryd rhan. Os bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu grwpiau ffocws yn cael eu trefnu yn y dyfodol, byddwn yn darparu treuliau rhesymol hefyd.

P'un a oes gennych lawer neu ychydig o amser i'w sbario, a beth bynnag yw eich profiad o ofal osteopathig, gobeithio y bydd cyfle o ddiddordeb i chi.

FFURFLEN GOFRESTRU