o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ymweld ag osteopath
  5. Beth i’w ddisgwyl gan osteopathiaid

Beth i’w ddisgwyl gan osteopathiaid

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n ymweld ag osteopath, beth yw cost debygol triniaeth a sut i ddod o hyd i osteopath lleol.

Cyn eich apwyntiad cyntaf

The I am registered logo in WelshGwiriwch fod yr osteopath wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC), y corff rheoleiddio ar gyfer osteopathi. Gallwch wneud hyn drwy wirio'r Gofrestr ar y wefan hon neu ein ffonio ni ar 020 7357 6655. Yn anffodus ni allwn dderbyn galwadau n Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff Cymraeg ei iaith. Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg drwy e-bost neu drwy'r post.

Dylai practisau osteopathig allu darparu gwybodaeth am yr osteopath, y clinig, beth mae'r driniaeth yn ei gynnwys, dulliau talu ac unrhyw beth rydych chi angen ei wybod cyn eich ymweliad cyntaf.

Gallai osteopathiaid dynnu sylw at eu statws cofrestredig trwy ddefnyddio Marc Cofrestru GOsC neu bosteri yn eu practis neu ar eu gwybodaeth ar gyfer cleifion.

Gwrando ac archwilio

System gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf yw osteopathi. Mae'r apwyntiad cyntaf yn para tua 45 munud i awr fel arfer, er mwyn caniatáu digon o amser i'r osteopath wneud y canlynol:

  • Gwrando a gofyn cwestiynau am eich problem, eich iechyd cyffredinol, gofal meddygol arall rydych chi'n ei dderbyn neu pa feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd, a chofnodi hyn yn eich nodiadau achos. Bydd y wybodaeth a roddwch yn gyfrinachol.
  • Eich archwilio chi'n iawn. Mae'n debygol y bydd yr osteopath yn gofyn i chi dynnu rhai o'ch dillad. Cofiwch ddweud os ydych chi'n anghyfforddus ynglyn â hyn. Dylech ddisgwyl preifatrwydd i ddadwisgo, a dylai gwn neu dywel gael ei roi i chi. Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas fynd gyda chi a bod yn bresennol gydol eich triniaeth.
  • Gofyn i chi wneud symudiadau syml ac ymestyn i arsylwi ar eich osgo a'ch symudedd. Oherwydd strwythur y corff, gall poen neu stiffrwydd rydych chi'n ei brofi mewn un rhan fod yn gysylltiedig â phroblem yn rhywle arall.
  • Archwilio iechyd y cymalau a'r meinweoedd trwy wneud iddyn nhw fynd drwy gyfres o symudiadau, a theimlo am unrhyw newidiadau fel mwy o gyfangiad cyhyrol neu stiffrwydd yn y cymalau.

Bydd eich osteopath yn gwirio am arwyddion o gyflyrau difrifol na allant eu trin hefyd a gall eich cynghori i weld eich meddyg teulu neu fynd i'r ysbyty.

Diagnosis a thriniaeth

Mae osteopathi’n arbenigo mewn diagnosis, rheoli, trin ac atal namau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau cysylltiedig eraill.

Bydd eich osteopath yn rhoi esboniad clir i chi o'r hyn y mae'n ei ddarganfod (ei ddiagnosis) ac yn trafod cynllun triniaeth sy'n addas i chi. Bydd yn egluro manteision ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r driniaeth y mae'n ei hargymell. Mae'n bwysig deall a chytuno ar yr hyn y gall y driniaeth ei gyflawni, a'r nifer tebygol o sesiynau sydd eu hangen i wella'r ffordd rydych chi'n teimlo.

Fel arfer mae triniaeth yn cynnwys dulliau ymarferol fel symud cymalau a thechnegau meinwe meddal i leihau tensiwn cyhyrau a gwella symudedd. Bydd eich osteopath yn egluro unrhyw fuddion neu risgiau posibl sydd gan y driniaeth y mae'n ei chynnig fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus am eich gofal osteopathig, a rhoi caniatâd ar gyfer hyn. Gofynnwch gwestiynau ar unrhyw adeg os nad ydych chi'n siwr beth yn union ddywedwyd wrthych chi neu os oes gennych unrhyw bryderon.

Gellir cynnig mesurau hunangymorth a chyngor ar ymarfer corff i'ch helpu i wella, atal symptomau rhag digwydd eto neu waethygu.

Faint mae’n ei gostio?

Mae'r rhan fwyaf o osteopathiaid yn gweithio yn y sector preifat ac mae hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu am driniaeth fel arfer. Mae ffioedd yn amrywio ledled y DU yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys lleoliad yr osteopath; ond mae'r rhan fwyaf o osteopathiaid yn tueddu i godi ffi ymgynghori gychwynnol o £55 i £65 a rhwng £48 a £56 ar gyfer sesiynau dilynol (yn ôl yr Institute of Osteopathy Membership Census 2021).

Yn aml mae'r sesiwn gychwynnol yn un hirach ac yn gallu para tua 45 munud, gyda sesiynau dilynol yn para rhyw 30 munud. Ond unwaith eto, bydd hyn yn amrywio.

Mae angen i chi wirio gyda'r osteopath a yw wedi'i gofrestru gyda'ch cwmni yswiriant iechyd chi, a gwirio gyda'ch yswirwyr hefyd am lefel yr yswiriant sydd ar gael, ac a oes angen i'ch meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol eich cyfeirio at yr osteopath.

Mae pob darparwr addysg osteopathig yn cynnal clinigau addysgu ac yn cynnig cyfraddau is ar gyfer triniaeth. Caiff cleifion eu trin gan uwch fyfyrwyr dan oruchwyliaeth tiwtoriaid osteopathig cymwysedig. Gweler ein rhestr o ddarparwyr hyfforddiant i ddarganfod a oes clinig hyfforddi yn agos atoch chi.

Gofal parhaus

Oherwydd natur gorfforol y driniaeth, gallwch deimlo'n boenus weithiau yn ystod y 24 i 48 awr gyntaf ar ôl cael triniaeth. Bydd eich osteopath yn egluro unrhyw ymateb tebygol y gallech ei ddisgwyl. Os oes gennych unrhyw bryderon mae'n bwysig cysylltu â'r osteopath a gofyn am ei gyngor. Efallai y bydd angen mwy nag un ymweliad cyn i'ch problem gael ei datrys. Bydd yr osteopath yn adolygu eich cynnydd ym mhob ymweliad dilynol ac yn trafod hyn gyda chi.

Oes angen atgyfeiriad gan feddyg?

Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn 'hunangyfeirio' at osteopath am driniaeth. Gallwch ddefnyddio'r Gofrestr o osteopathiaid ar y wefan hon i ddod o hyd i osteopathiaid lleol. Hefyd, gallwch ddefnyddio'r Gofrestr i chwilio am osteopathiaid sy'n siarad Cymraeg.

Er nad oes angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, gyda'ch caniatâd chi, gall eich osteopath anfon adroddiad at eich meddyg teulu gyda manylion eich cyflwr a'ch triniaeth, os yw'n teimlo bod hyn yn ddefnyddiol ac yn angenrheidiol ar gyfer eich triniaeth. Gallwch ofyn am lythyr i'ch cyflogwr hefyd os yw hyn yn ddefnyddiol.

Adborth

Gawsoch chi'r holl wybodaeth angenrheidiol heddiw? Oes unrhyw wybodaeth ar goll o adran Gymraeg y wefan? Rhowch wybod i ni yn webfeedback@osteopathy.org.uk. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan.