o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ymweld ag osteopath
  5. Chwilio drwy'r Gofrestr

Chwilio drwy'r Gofrestr

Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i osteopath yn eich ardal trwy chwilio drwy'r gofrestr. Os na allwch chi ddod o hyd i osteopath, gallwch gael cyngor ar gyfer problem feddygol frys gan GIG 111.

Yng nghyd-destun COVID-19 os ydych chi'n poeni am weld osteopath, neu os oes gennych gwestiynau am y camau sy'n cael eu cymryd i gadw cleifion yn ddiogel, beth am gysylltu â'ch osteopath ymlaen llaw i drafod eich pryderon neu gwestiynau.

Sut i chwilio

Mae gwybodaeth ar ein cofrestr ar gael yn Saesneg. Gallwch chwilio am osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg gan ddefnyddio'r Gofrestr drwy dicio'r bocs ger ‘Welsh-spoken’ ar y dudalen chwilio.

Hefyd, gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol o'r DU (cliciwch ar Browse by county) i gael rhestrau o osteopathiaid mewn siroedd penodol a dinasoedd mawr. Rhowch eich cyrchwr ar sir i weld enw'r sir; cliciwch ar y sir i weld y rhestr.

Mae clicio ar enw osteopath yn cysylltu â thudalen gyda manylion am yr ymarferydd, gan gynnwys ei rif cofrestru, blwyddyn gymhwyso, blwyddyn gofrestru a manylion cyswllt.
Os nad yw'r osteopath rydych chi'n chwilio amdano wedi'i restru, nid yw hyn yn golygu o reidrwydd nad yw wedi cofrestru gyda ni. Efallai nad yw ei enw wedi'i sillafu'n gywir, neu ei fod wedi newid ei enw.

Os na allwch ddod o hyd i'r osteopath rydych chi'n chwilio amdano neu os ydych chi angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni ar info@osteopathy.org.uk neu ffoniwch 020 7357 6655 estyniad 242. Sylwer, ni allwn dderbyn galwadau yn Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu drwy'r post a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.

Byddem yn croesawu adborth ar eich profiad o ddefnyddio'r Gofrestr. Os hoffech chi rannu eich adborth, cysylltwch â webmanager@osteopathy.org.uk neu ffoniwch 020 7357 6655 estyniad 228.

Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer ar y Gofrestr

Mae rhai penderfyniadau addasrwydd i ymarfer yn cael eu nodi ar y Gofrestr

  • Undertaking/Ymrwymiad: mae hyn yn dangos bod yr osteopath wedi rhoi ymrwymiad, gan esbonio sut mae'n bwriadu ymddwyn am gyfnod penodol o amser, fel arfer hyd nes y bydd yr ymchwiliad y mae'n rhan ohono wedi dod i ben.
  • CP/Amodau Ymarfer: mae hyn yn dangos bod gan yr osteopath amodau ymarfer sy'n berthnasol iddo.
  • Suspended/Wedi'i atal: mae hyn yn dangos ei fod wedi'i atal ar hyn o bryd ac na chaniateir iddo ymarfer fel osteopath.

Nid yw achosion o geryddu osteopathiaid a chofrestreion sydd wedi'u tynnu o'r Gofrestr ar ôl gwrandawiad addasrwydd i ymarfer yn ymddangos ar y Gofrestr ond mae'r penderfyniadau hyn at gael ar y dudalen penderfyniadau Saesneg ac yn ein Hadroddiadau Addasrwydd i Ymarfer blynyddol.