Mynegi pryder
Os oes gennych bryder neu ymholiad am osteopath, neu am y driniaeth a gawsoch chi, anfonwch eich ymholiad atom gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn hefyd ar 020 7357 6655 estyniad 224. Yn anffodus, ni allwn dderbyn derbyn galwadau Cymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg.
Gallwch gyflwyno eich pryder i ni yn ysgrifenedig yn Gymraeg gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, neu drwy'r post at: Osteopathy House, 176 Tower Bridge Road, London, SE1 3LU neu drwy e-bost.
Ein nod yw ateb llythyrau o fewn 5 diwrnod gwaith ac e-byst o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Os na allwn ni roi ateb llawn i chi yn yr amser hwnnw, byddwn yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ateb a gan bwy, ac yn rhoi gwybod i chi am gynnydd.
Mae ein taflen Sut i gwyno am osteopath yn esbonio ein proses pryderon a chwynion a sut i fynegi pryder.
Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni ac yn penderfynu yr hoffech wneud cwyn ffurfiol, gallwch wneud hynny drwy lenwi ein ffurflen gwyno.
Llenwch y ffurflen gwyno gyda chymaint o fanylion â phosibl a'i hanfon atom, ynghyd ag unrhyw bapurau neu ddogfennau ategol sy'n berthnasol i'ch pryderon, fel:
- gohebiaeth rhyngoch chi a'r osteopath
- unrhyw nodiadau y gallech fod wedi'u gwneud
- unrhyw ymchwiliadau meddygol megis pelydrau-x neu sganiau MRI
- Gallwch gyflwyno unrhyw rannau o'r wybodaeth hon i ni yn Gymraeg.
Efallai y bydd angen i ni gymryd datganiad gennych chi hefyd, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ar ôl derbyn eich ffurflen. Mae croeso i chi gyflwyno’ch datganiad yn Gymraeg, ond bydd angen i ni drafod hyn gyda chi yn Saesneg dros y ffôn gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.
Dysgwch fwy am yr hyn sy'n digwydd yn ystod ein proses bryderon.
Os na allwch chi lenwi'r ffurflen gwyno, neu os ydych chi angen help i wneud hynny, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.