Gwrandawiadau
Mae ein Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol (PCC) yn clywed yr holl bryderon sy'n ymwneud ag ymddygiad neu gymhwysedd proffesiynol osteopath, neu euogfarn droseddol sy'n berthnasol i'w waith.
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys o leiaf tri aelod, a dylai o leiaf un aelod fod yn lleygwr ac o leiaf un fod yn osteopath cofrestredig. Mae bargyfreithiwr neu gyfreithiwr profiadol yn eistedd gyda'r pwyllgor i'w gynghori ar faterion cyfreithiol ond nid yw'n rhan o unrhyw benderfyniadau.
Mae gwrandawiadau a gynhelir gan y Cyngor yn agored i'r cyhoedd a'r wasg fel arfer, oni bai bod rheswm arbennig dros gynnal rhywfaint neu'r cyfan o'r gwrandawiad yn breifat.
Mae gwrandawiad yn debyg i achos llys. Os ydych chi wedi mynegi pryder gyda ni, mae’n debygol y byddwn yn gofyn i chi fynychu'r gwrandawiad fel tyst a rhoi tystiolaeth dan lw.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn mynd o’r neilltu i ystyried yn breifat a oes unrhyw honiad wedi'i brofi. Bydd yn cyhoeddi ei benderfyniadau yn y gwrandawiad cyhoeddus.
Penderfyniadau a sancsiynau'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol
Os caiff eich pryder ei gadarnhau, mae'r Comisiynydd yn penderfynu pa gamau i'w cymryd yn erbyn yr osteopath a pha gosbau i'w cyflwyno. Gall y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol:
- roi rhybudd i'r osteopath sy'n cael ei gofnodi ar ei ffeil, a gellir ei ystyried os bydd pryder diweddarach yn cael ei godi amdano
- gosod amodau ar sut mae'r osteopath yn gweithio am gyfnod penodol o amser (er enghraifft, rhaid iddo ddatblygu meysydd penodol o'i ymarfer a phrofi ei fod yn bodloni'r safonau ymarfer gofynnol)
- atal yr osteopath o'r Gofrestr am gyfnod penodol o amser: ni fydd yr osteopath yn gallu ymarfer fel osteopath yn ystod y cyfnod hwn ac efallai y bydd rhaid iddo gwblhau mwy o hyfforddiant cyn cael caniatâd i ymarfer eto
- tynnu enw'r osteopath oddi ar y Gofrestr fel na all ymarfer fel osteopath mwyach.
Mae'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn seilio'i benderfyniadau am y gweithdrefnau i'w dilyn a'r gosb i'w rhoi, ar y Canllawiau ar Wrandawiadau a Chosbau.
Bwriad y Canllawiau hyn yw sicrhau bod pawb sy'n rhan o wrandawiad yn gwbl glir ynghylch y gweithdrefnau a'r dulliau y bydd y Pwyllgor yn eu dilyn, yn ystod y gwrandawiad ac wrth osod cosb. Felly, mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n ddwy ran: y weithdrefn a ddilynir mewn gwrandawiad, a'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau am gosbau.
Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu gosod Gorchymyn Amodau Ymarfer, bydd canllawiau yn y ddogfen Canllawiau Amodau Ymarfer yn ei helpu i lunio'r amodau y mae'n rhaid i'r osteopath eu bodloni. Mae Canllawiau'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ar Ddrafftio Dyfarniadau yn helpu i sicrhau ansawdd a chysondeb penderfyniadau'r pwyllgor.
Mynd i wrandawiad
Efallai y bydd angen i chi fynd i wrandawiad fel tyst i roi tystiolaeth dan lw am eich pryder. Os byddwch chi'n mynd i un o'n gwrandawiadau, naill ai fel tyst, arsylwr neu fel osteopath sy'n gysylltiedig â'r achos, gallwch ddefnyddio'r canllawiau isod i ddeall beth i'w ddisgwyl a sut i gymryd rhan yn ystod y gwrandawiad.
Canllawiau gwrandawiadau ar gyfer osteopathiaid
Canllawiau gwrandawiadau ar gyfer tystion
Canllawiau a phrotocol gwrandawiad o bell
Gwybodaeth i arsylwyr
Os hoffech chi fynd i wrandawiad cyhoeddus fel arsylwr, e-bostiwch regulation@osteopathy.org.uk. Wrth wneud hynny, cadarnhewch eich enw, eich perthynas (os o gwbl) â'r osteopath(iaid) a pha wrandawiad (neu ddiwrnodau gwrandawiad) yr hoffech ei arsylwi. Yna bydd ein clerc gwrandawiadau’n cysylltiad â chi cyn gynted â phosibl i wneud y trefniadau priodol.
Os cynhelir gwrandawiad o bell, bydd clerc y gwrandawiad yn anfon dolen atoch i'r gwrandawiad. Os ydych yn mynd i’r gwrandawiad yn bersonol bydd angen i chi aros yn y dderbynfa hyd nes y cewch eich galw i Siambr y Cyngor. Bydd y clerc gwrandawiadau’n anfon rhagor o fanylion atoch yn nes at yr amser y gwrandawiad.
Cysylltwch â regulation@osteopathy.org.uk ddiwrnod cyn y gwrandawiad i gadarnhau bod y gwrandawiad yn dal i fynd rhagddo yn ôl y disgwyl a chadarnhau eich presenoldeb.
Os byddwch chi angen cymorth cyn y gwrandawiad a/neu'n cael unrhyw broblemau technegol, rhowch wybod i ni drwy'r e-bost uchod cyn gynted â phosib.