o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru

Hyfforddi a chofrestru

Mae’r GOsC yn gyfrifol am osod a chynnal safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant osteopathig. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnal y Safonau Ymarfer Osteopathig a'r Deilliannau a Safonau Graddedig ar gyfer Addysg a Hyfforddiantn. Rydym yn cydweithio â darparwyr addysg osteopathig hefyd i sicrhau eu bod yn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf, a gofal osteopathig diogel o ansawdd da i gleifion.

Cymwysterau cydnabyddedig

Cyflwynir addysg osteopathig yn y DU i lefel gradd – naill ai baglor, neu lefel meistr (lefelau 6 neu 7). Fel arfer, cyflwynir cyrsiau dros bedair blynedd yn llawn amser, neu bedair i chwe blynedd yn rhan-amser, ac maen nhw'n cynnwys hyfforddiant academaidd a chlinigol. Mae gan bob darparwr addysg presennol glinig osteopathig pwrpasol ar gyfer cleifion.

Rhaid i gyrsiau osteopatheg a gynigir gan ddarparwyr addysg yn y DU gael eu cydnabod gan y GOsC. Dim ond graddedigion sydd â 'chymhwyster cydnabyddedig' all wneud cais i'r GOsC i'w gofrestru er mwyn ymarfer fel osteopath yn y DU.

Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedig

Rhaid i unrhyw raddedigion sydd â chymwysterau osteopathig 'cydnabyddedig' fodloni'r Safonau Ymarfer Osteopathig. Nod Deilliannau Graddedig yw helpu myfyrwyr i ddangos eu bod yn bodloni'r Safonau Ymarfer Osteopathig cyn iddynt raddio. Mae'r Safonau Addysg a Hyfforddiant yn gosod gofynion clir ynghylch yr adnoddau, y diwylliant a'r amgylchedd lle dylai darparwyr addysg osteopathig ddarparu eu rhaglenni addysg a hyfforddiant. Dysgwch fwy am Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedig

Sicrhau ansawdd addysg osteopathig

Mae'r GOsC yn defnyddio sawl dull i sicrhau mai dim ond graddedigion sy'n bodloni'r Safonau Ymarfer Osteopathig sy'n cael cymhwyster cydnabyddedig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ymweliadau rheolaidd
  • Monitro adroddiadau blynyddol y darparwyr addysg (mae hyn yn cynnwys ffynonellau allanol o adborth gan gleifion, myfyrwyr a staff ac adroddiadau gan arholwyr allanol)
  • Adrodd gorfodol ar newidiadau allweddol yn narpariaeth pob darparwr addysg (gan gynnwys newidiadau i gwricwla, asesu, newidiadau allweddol i staff ac ati)
  • Dulliau o rannu a chynnal arferion da
  • Deialog barhaus rhwng y GOsC a darparwyr addysg osteopathig
  • Monitro amodau neu ofynion
  • Rheoli pryderon

Mae gan y GOsC bwerau helaeth hefyd, a nodir mewn deddfwriaeth, i archwilio a gofyn am wybodaeth gan sefydliadau.

Mae ein llawlyfr Sicrhau Ansawdd yn esbonio'n fanwl sut rydym yn sicrhau addysg a hyfforddiant osteopathig, gan gynnwys:

  • Y rolau a'r cyfrifoldebau o fewn sicrhau ansawdd
  • Y broses sicrhau ansawdd
  • Manylion ymweliadau cydnabyddiaeth, adnewyddu a monitro cychwynnol
  • Y broses adrodd flynyddol

Darllenwch ein llawlyfr Sicrhau Ansawdd