o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Sut i adfer eich cofrestriad

Sut i adfer eich cofrestriad

Os ydych wedi bod oddi ar y Gofrestr am unrhyw reswm ac eisiau dychwelyd i ymarfer fel osteopath gallwch wneud cais am adfer i’r Gofrestr.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am adfer, darparu geirdaon iechyd a chymeriad a chael gwiriad manylach ar gyfer gweithgarwch rheoledig.

Bydd disgwyl i chi fod wedi cynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus yn ystod eich amser i ffwrdd o'r Gofrestr a byddwn yn gofyn am dystiolaeth o hyn pan fyddwch yn gwneud cais.
Sylwch na allwch chi ddychwelyd i ymarfer nes eich bod wedi derbyn cadarnhad gennym fod eich statws wedi'i newid i statws cofrestru llawn.

Llai na dwy flynedd oddi ar y Gofrestr

Ysgrifennwch atom yn registration@osteopathy.org.uk i ofyn am becyn cais. Bydd angen i chi gynnwys eich manylion cyswllt diweddaraf. Gallwch gysylltu â ni'n ysgrifenedig yn Gymraeg, er enghraifft drwy e-bost neu drwy'r post, a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.

Dwy flynedd neu fwy oddi ar y Gofrestr

Cyn cysylltu â ni, dylech ddarllen Canllawiau Proses Dychwelyd i Ymarfer ar gyfer Aseswyr ac Osteopathiaid.

Bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Hunanasesu Dychwelyd i Ymarfer. Ysgrifennwch atom yn registration@osteopathy.org.uk i ofyn am becyn cais a'r ffurflen hunanasesu. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt diweddaraf.

Byddwn yn adolygu eich Ffurflen Hunanasesu Dychwelyd i Ymarfer i'n helpu i benderfynu a oes angen unrhyw gymorth arnoch. Mae gennym gronfa o adolygwyr Dychwelyd i Ymarfer sy’n osteopathiaid profiadol, a fydd yn gweithio gyda chi i'ch helpu i bontio'n ôl i ymarfer a helpu i sicrhau diogelwch cleifion trwy eich tywys drwy'r arferion gorau ar adeg a allai fod yn bwynt anodd yn eich gyrfa. Lawrlwythwch y rhestr hon o adolygwyr cyfredol i ddysgu mwy amdanynt.