o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Rheoli iechyd ac anabledd

Rheoli iechyd ac anabledd

Mae llawer o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn gallu dilyn addysg a hyfforddiant osteopathig, ennill cymhwyster cydnabyddedig, ac ymarfer osteopathi gydag addasiadau neu hebddynt i gefnogi eu hymarfer.

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes osteopathi. Hoffem sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd, yn gallu cael profiad cadarnhaol wrth hyfforddi a chofrestru i fod yn osteopath, waeth beth yw eu cefndir, hunaniaeth neu nodweddion gwarchodedig.

Y pwynt allweddol i osteopathiaid neu fyfyrwyr ei ystyried yw a fyddai unrhyw gyflwr iechyd yn effeithio ar ofal cleifion. Mae'r Safonau Ymarfer Osteopathig yn nodi'r rhwymedigaethau canlynol sy'n berthnasol i osteopathiaid a allai fod â chyflwr iechyd neu anabledd:

D11: Rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw broblemau gyda'ch iechyd eich hun yn effeithio ar eich cleifion. Ni ddylech ddibynnu ar eich asesiad eich hun o'r risg i gleifion.

1. Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod nam ar eich iechyd corfforol neu feddyliol mewn ffordd a allai effeithio ar y gofal rydych chi'n ei roi i gleifion, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gofyn am gyngor meddygol priodol, a dilyn y cyngor hwnnw ynghylch a ddylech addasu eich ymarfer ac ym mha ffordd
  • os oes angen, rhoi'r gorau i ymarfer nes bod eich cynghorydd meddygol yn ystyried eich bod yn addas i ymarfer eto
  • rhoi gwybod i'r GOsC.

Rydym yn cyhoeddi canllawiau ar reoli iechyd ac anabledd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sy'n gwneud cais i gofrestru gyda’r GOsC.

Cawsant eu datblygu gan arbenigwyr allanol mewn addysg cydraddoldeb ac iechyd, ar ôl cynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau â staff mewn darparwyr addysgol osteopathig.