o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedigion

Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedigion

Mae'r Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedig yn helpu'r GOsC i fonitro a sicrhau ansawdd addysg osteopathig.

Nod y Deilliannau Graddedig yw helpu myfyrwyr i ddangos eu bod yn bodloni'r Safonau Ymarfer Osteopathig cyn iddynt raddio a gallu cofrestru gyda ni.

Mae'r canlyniadau wedi'u mapio i bedair thema'r Safonau Ymarfer Osteopathig, sy’n cynnwys:

  • A: Cyfathrebu a phartneriaeth cleifion
  • B: Gwybodaeth, sgiliau a pherfformiad
  • C: Diogelwch ac ansawdd mewn ymarfer
  • D: Proffesiynoldeb

Mae'r deilliannau’n manylu hefyd ar y cyflwyniadau cyffredin y dylai graddedigion fod yn gyfarwydd â nhw.

Mae'r Safonau Addysg a Hyfforddiant yn gosod gofynion clir ynghylch yr adnoddau, y diwylliant a'r amgylchedd lle dylai darparwyr addysg osteopathig ddarparu eu rhaglenni addysg a hyfforddiant.

Mae'r safonau wedi'u cynllunio hefyd i gynorthwyo graddedigion i ddarparu gofal a diogelwch cleifion o'r radd flaenaf yn eu practis. Maen nhw wedi'u rhannu'n naw thema, sy’n cynnwys:

  1. Dylunio, cyflwyno ac asesu rhaglenni
  2. Llywodraethu, arweinyddiaeth a rheolaeth rhaglenni
  3. Diwylliant dysgu
  4. Gwerthusiad, adolygu a sicrwydd ansawdd
  5. Adnoddau
  6. Myfyrwyr
  7. Profiad clinigol
  8. Cymorth a datblygiad staff
  9. Cleifion

Dylech ddarllen Safonau Addysg a Hyfforddiant a Deilliannau Graddedig ochr yn ochr â chanllawiau cyhoeddedig eraill ar addasrwydd myfyrwyr i ymarfer a rheoli iechyd ac anabledd.