o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Diogelu’r teitl osteopathig

Diogelu’r teitl osteopathig

Mae'r teitl 'osteopath' – a theitlau osteopathig eraill – yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un alw ein hun yn osteopath oni bai ei fod wedi'i gofrestru gyda'r GOsC, sy'n gosod ac yn hyrwyddo safonau uchel o gymhwysedd, ymddygiad a diogelwch.

Rydym yn gallu erlyn unigolion sy'n ymarfer fel osteopathiaid pan nad ydyn nhw ar Gofrestr y GOsC. Mae ein polisi ar ddiogelu'r teitl osteopathig yn egluro sut a phryd fyddwn ni'n cymryd camau yn erbyn unigolion anghofrestredig sy'n galw eu hunain yn osteopathiaid.

Rhoi gwybod i ni

Os ydych chi'n credu bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath pan nad yw wedi cofrestru gyda ni, gallwch roi gwybod i ni drwy gysylltu â'n Hadran Reoleiddio trwy e-bostio regulation@osteopathy.org.uk; drwy ffonio 020 7357 6655 estyniad 224 neu 249; neu drwy'r post:

Regulation Department
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL

Os byddwch chi'n cysylltu â ni drwy e-bost neu drwy'r post yn Gymraeg, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg. Yn anffodus ni allwn dderbyn galwadau ffôn yn Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg.

Er mwyn ymchwilio, byddai angen rhywfaint o dystiolaeth arnom fel rheol, megis llyfryn, taflen, cerdyn busnes, hysbyseb, anfoneb, cyfeiriad gwefan, cofnod mewn cyfeiriadur neu lun o arwydd camarweiniol. Bydd yn helpu os gallwch anfon unrhyw dystiolaeth sydd gennych atom.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Pan fyddwn ni’n derbyn gwybodaeth bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath heb gofrestru gyda ni, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, yn esbonio'r gyfraith ac yn ei hysbysu na ddylai ddefnyddio'r teitl osteopathig. Gofynnir iddynt gadarnhau na fyddant yn defnyddio'r teitl mwyach. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn llwyddiannus o ran atal yr ymddygiad tramgwyddus.

Os bydd ymarferydd anghofrestredig yn parhau i ddweud ei fod yn osteopath, byddwn yn mynd ymlaen i ystyried erlyniad yn ei erbyn. Bydd y rhai sy'n cael eu herlyn a'u cael yn euog nid yn unig yn derbyn euogfarn ond gallai fod gofyn iddyn nhw dalu dirwy a chostau llys hefyd.