o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol wedi ymrwymo i hyrwyddo tegwch, gwerthfawrogi amrywiaeth a chofleidio cynwysoldeb ym mhob agwedd ar ein gwaith fel rheoleiddiwr, darparwr gwasanaeth a chyflogwr.

Fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ein fframwaith Tegwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn (EDIB) sy'n nodi ein sefyllfa bresennol a lle hoffem fod erbyn 2030. Hefyd, mae ein fframwaith yn esbonio'n fanwl sut rydym yn gobeithio cyflawni cynnydd yn erbyn ein pedwar amcan:

Hyrwyddo tegwch

  • Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn deg, yn ystyried anghydraddoldebau presennol, ac yn rhydd o wahaniaethu anghyfreithlon, a bod y dull hwn yn cael ei adlewyrchu yn y safonau a bennir gennym ar gyfer y proffesiwn osteopathi. Byddwn yn sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg fel bod ein harferion a'n polisïau yn golygu nad yw hunaniaeth yn rhagfynegydd o ran cyfle na chanlyniad. Byddwn yn ymdrechu i gydnabod ac ystyried y rhwystrau sydd eisoes yn bodoli i rai pobl er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal a mynediad.

Gwerthfawrogi amrywiaeth

  • Byddwn yn gwrando, yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu ag ystod amrywiol o randdeiliaid, gan ddefnyddio amryw o sianeli, mewn modd hygyrch ac amserol. Byddwn yn cydnabod gwerth cyfartal lleisiau amrywiol ac yn gwneud penderfyniadau cryf yn seiliedig ar amrywiaeth barn. Byddwn yn gwerthfawrogi amrywiaeth wrth recriwtio a datblygu staff, swyddogion anweithredol a rhanddeiliaid ac yn ein ffyrdd o weithio.

Cofleidio cynwysoldeb

  • Mae sefydliadau amrywiol a chynhwysol yn perfformio'n well na busnesau unffurf. Byddwn yn sicrhau bod ein diwylliant a'n gwerthoedd yn galluogi'r rhai sy'n dymuno gweithio gyda ni - gan gynnwys ein staff, aelodau llywodraethu, ein rhanddeiliaid allweddol a'n cleifion – i fod yn hyderus y byddant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu galluogi a'u grymuso i gyfrannu fel unigolion cyfartal, ac y byddwn ni’n ystyried eu barn yn llawn gyda pharch ac urddas.  

Creu ymdeimlad o berthyn

  • Byddwn yn creu sefydliad sy'n seicolegol ddiogel lle mae ein pobl (staff a swyddogion anweithredol) yn teimlo'n hyderus i fod yn nhw eu hunain, heb risg o embaras neu o gael eu gwrthod, i'n helpu i fod y rheoleiddiwr gorau posibl. Byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn teimlo y gallant fod yn greadigol ac arloesol, ac y gallant herio arferion presennol yn adeiladol er budd cleifion, osteopathiaid a rhanddeiliaid.

Darllenwch ein fframwaith EDIB

Peilot Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn 2022 cynhaliodd y GOsC beilot i gasglu barn osteopathiaid am y cwestiynau a'r negeseuon rydym yn gobeithio eu defnyddio wrth gasglu gwybodaeth am amrywiaeth yn y proffesiwn, a monitro hynny. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio deall sut y gall ein prosesau a'n gweithdrefnau effeithio ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.

Cyhoeddwyd casgliadau'r peilot Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), a oedd yn cynnwys arolwg a chyfres o grwpiau ffocws ar-lein, ym mis Mawrth 2023. Darllenwch adroddiad canfyddiadau peilot EDI.

Myfyrwyr ag anabledd neu nam iechyd

Rydym am sicrhau y gall pobl ag anableddau sydd am ddod yn osteopathiaid ddewis ystyried addysg, hyfforddiant a gyrfa ym maes osteopathi.

Felly, rydym yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer myfyrwyr osteopathig a darparwyr addysg osteopathig am fyfyrwyr ag anabledd neu nam iechyd.