o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Polisi ymdrin â phryderon chwythu'r chwiban

Polisi ymdrin â phryderon chwythu'r chwiban

Mae chwythu'r chwiban yn golygu mynegi pryder, naill ai yn y gweithle neu'n allanol, am berygl, risg, camymddwyn neu gamwedd sy'n effeithio ar eraill.

Rydym yn cydnabod y gall mynegi pryderon fod yn anodd. Os ydych chi'n gyflogai – boed yn osteopath sy'n cael ei gyflogi gan y GIG, yn dderbynnydd mewn practis osteopath, neu'n diwtor mewn darparwr addysgol osteopathig – ac yn ystyried mynegi pryderon gyda'r GOsC, mae'r polisi hwn yn esbonio:

  • y math o bryderon y gallwn ni eu hystyried dan ddeddfwriaeth chwythu'r chwiban
  • sut fyddwn ni'n ymdrin â phryderon a adroddwyd wrthym
  • y camau fyddwn ni'n eu cymryd a'r amserlen ar gyfer gwneud hynny

Lawrlwythwch y Polisi ymdrin â phryderon Chwythu’r Chwiban

Yn y DU, mae ‘chwythwyr chwiban’ wedi'u diogelu gan Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 ac mae'r GOsC yn un o'r cyrff y gellir adrodd am bryderon chwythu'r chwiban wrtho.
Gall unrhyw weithiwr sydd â phryder am berygl, risg, camymarfer neu gamwedd yn ymwneud ag osteopathi yn eu sefydliad ddod atom os ydyn nhw'n teimlo na allant ei godi gyda'u cyflogwr.

Fodd bynnag, dylai adrodd pryderon i'r GOsC gael ei ystyried fel y dewis olaf. Dylai unrhyw weithiwr deimlo ei fod yn gallu mynegi pryderon yn uniongyrchol gyda'i gyflogwr.