o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Ein strategaeth

Ein strategaeth

Mae Strategaeth y Cyngor Osteopathig Cyffredinol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2030, ac yn adeiladu ar lwyddiannau Cynllun Strategol 2019-2024.

Strategy front cover WelshMae’r wybodaeth ganlynol ar gael yn Saesneg: Strategic Plan

Pwrpas ein Strategaeth yw:

  • disgrifio’r hyn y mae’r Cyngor yn dymuno i’r sefydliad ei gyflawni
  • pennu cyfeiriad gwaith y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, dan arweiniad y Prif Weithredwr a’r Cofrestrydd
  • darparu fframwaith ar gyfer monitro perfformiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol gan y Cyngor

Ein blaenoriaethau

Cryfhau ymddiriedaeth
Byddwn yn gweithio i wella ein perthynas â’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw er mwyn i ni allu helpu i ddiogelu cleifion a’r cyhoedd.

Hyrwyddo cynhwysiant
Mae’n bwysig i ni fod pobl sy’n rhyngweithio â ni, neu sy’n gweithio i ni, yn gallu bod yn nhw eu hunain, a’n bod ninnau’n deall ac yn chwalu unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud hynny.

Croesawu arloesi
Byddwn ni’n chwilio’n gyson am gyfleoedd i wella’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud, fel ein bod ni’n parhau i wella fel sefydliad.

Darllenwch ein Strategaeth yn llawn

Darllenwch fwy am y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr cynhwysol ac arloesol y mae pawb yn ymddiried ynddo.

Mae ein gwerthoedd yn sail i’r ffordd rydym yn gweithio nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd, osteopathiaid a rhanddeiliaid, a sut rydym yn gweithio yn ein sefydliad yn ein timau ac ar eu traws. Rydym yn cydweithio i fod yn rheoleiddiwr dylanwadol a pharchus gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd ar gael


Cynllun Busnes

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi Cynllun Busnes manwl sy’n nodi’r gwaith y byddwn yn ei wneud i gyflawni ein nodau. Mae copïau o hwn ar gael ar gais drwy anfon e-bost at finance@osteopathy.org.uk. Mae’r Cyngor yn derbyn adroddiad cynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes blynyddol ym mhob cyfarfod.